- CPD Porthmadog FC - Chwaraewyr / Players
Porthmadog
CPD Porthmadog FC
JD Cymru North


 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
| Tim Hyfforddi / Managment Team | Golgeidwad / Goalkeeper | Amddiffynwyr / Defenders |
| Canol Cae / Midfield | Ymosodwyr / Strikers |

Llun o garfan 2019-20 / Picture of the 2019-20 Squad. Highslide JS
Llun / Picture: Andy Kime


Tim Hyfforddi / Managment Team
Top^^

RHEOLWR / MANAGER:

CRAIG PAPIRNYK



DG / DOB: 30/06/1984
Ail apwyntiwyd Craig yn rheolwr y clwb ym mis Rhagfyr 2019, 7 mis ar ôl gadael y clwb. Yn 2021/22 llwyddodd i arwain y clwb yn ôl i’r Cymru North ar yr ymgais gynta'. Deilydd trwydded hyfforddi “B” UEFA. Apwyntiwyd yn rheolwr Port am y tro cynta’ yn 2014/15 a cafodd ei dymor gorau yn 2018/19 gyda’r clwb yn gorffen yn y 3ydd safle. Yn chwaraewr, ymunodd â Port gynta’ yn Awst 2013 o’u glwb cartre’ Bermo a Dyffryn ac yn dilyn hyn bu’n chwaraewr hyfforddwr. Mae ei gyn glybiau hefyd yn cynnwys Rhuthun a’r Bala. Cafodd brofiad cynnar o reoli yn 2006/07 gan arwain Y Bermo i lwyddiant yng Nghynghrair Gwynedd.
The club’s former manager was re-appointed in December 2019, just 7 months after leaving the club. Went on, in 2021/22, to lead the club back to the Cymru North at the first attempt. Holder of a UEFA “B” Licence. First became Port manager in 2014/15 and had his best season in 2018/19 with the club finishing in 3rd spot. First joined Port as a player from his home town club Barmouth and Dyffryn FC in August 2013, later becoming player-coach. His former clubs also include Ruthin and Bala. Gained early experience of management leading his hometown club to success in the Gwynedd League back in 2006/07.

IS_REOLWR / ASSISTANT MANAGER:
PETER GRIFFITH



Apwyntiwyd Pete yn is-reolwr yn dilyn ymadawiad Ben Ogilvy. Un o Bwllheli, mae ganddo brofiad eang yn dilyn chwarae i 15 o glybiau gwahanol yng nogledd Cymru ac yn ddiweddarach yn Suffolk. Mae wedi bod yn gysylltiedig a phêl-droed hyn am 20 mlynedd gan gychwyn ym Mwllheli a gorffen gyda chlwb Debenham yn Suffolk. Mae’r profiad yma o sut mae amrywiaeth o glybiau yn gweithredu yn mynd i fod yn ddefnyddiol yn ei rôl gyda Port
Appointed to the role of assistant manager following the departure of Ben Ogilvy. From Pwllheli, he says of himself, “..my football background has seen me play for 15 clubs in north Wales and more recently in Suffolk. I’ve been involved with senior football for 20 years; starting with Pwllheli and finishing with Debenham FC (Suffolk). This has given him an insight into the way a different clubs operate and can use this experience to Port’s advantage.

HYFFORDDWR / COACH:
STEPHEN WILLIAMS



Ymunodd ‘Midge’ â thîm hyfforddi’r clwb yng Nghorffennaf 2022. Yn ‘hogyn lleol’ ac yn gyn chwaraewr, mae’n adnabod y clwb a’r hanes, ac yn ffitio’n berffaith i’r rôl yma. Daw ac egni a brwdfrydedd i’r dasg o ail-sefydlu’r clwb yn y Cymru North. Ymunodd o glwb Caernarfon lle bu’n rhan o dîm hyfforddi’r Academi ac yn fwy diwedddar yn hyffoddi’r garfan Dan 19 sy’n chwarae yng Uwch Gynghrair Ddatblygol Cymru. Mae Steve yn ddeilydd Trwydded ‘A’ UEFA.
‘Midge’ joined Craig Papirnyk’s coaching team in July 2022. As a ‘local boy’ and former player, he knows the club and it’s history and fits the role perfectly, committing himself to the challenge of re-establishing the club at Cymru North level. Previously at the Caernarfon Town Academy and more recently coach to the club’s U19 Development Squad playing in the Welsh Premier Development League. Steve is an UEFA ‘A’ licence holder.

CYD-RHEOLWR AIL-DÎM / RESERVES JOINT-MANAGER:

TRYSTAN DAVIES



Apwyntiwyd yn gyd rheolwr yr Ail-dîm ar gyfer 2023/24. Bydd yn derbyn y sialens o adfywio’r garfan yn dilyn tymor heb ail-dîm. Cynt roedd Trystan yn aelod o dîm hyfforddi ein cymdogion yn CPD Penrhyndeudraeth. Mae yn ddeilydd Trwydded ‘B’ UEFA.
Appointed joint manager of the Reserves for 2023/24 takeing on the challenge of reviving the squad after a season without a reserves side. Previously was part of the coaching staff of neighbours CPD Penrhyndeudraeth. He is a UEFA ‘B’ Licence holder.

IS-RHEOLWR AIL-DÎM / ASSISTANT-RESERVE MANAGER:

DAVE HARDING



Apwyntiwyd yn is-rheolwr i’r Ail-dîm i gynorthwyo Trystan Davies a Stuart Rogers wrth geisio ail adeiladu carfan yn dilyn tymor heb ail-dîm. Bydd profiad Dave yn y gêm yn lleol yn werthfawr iawn yn y dasg hon.
Appointed assistant manager to the reserves supporting Trystan Davies and Stuart Rogers as the Reserve Squad is re-built after a dormant season. Dave’s experience in local football will be a valuable asset in the process.

FFISIO / PHYSIO:

DEZ JONES



Ymatebodd Dez i’r alwad a’r angen am ffisio yn hydref 2023. Yn sydyn iawn arwyddodd ar gyfer yr hyfforddiant angenrheidiol. Erbyn hyn mae ganddo’r cymhwysterau ac yn rhan bwysig o’r tîm wrth ochr y cae.
Dez responded to the call to fill the vacancy as club ffisio in autumn 2023. He very quickly signed up to receive the necessary training and is now qualified and a respected and valued part of the dugout team.




Golgeidwad / Goalkeeper
Top^^

MATTHEW WALLACE


DG / DOB:
Ymunodd â Port yn Awst 2023 ac ymysg ei glybiau blaenorol mae AFC Knowsley a Garswood Utd yng Nghynghrair Sir Caer. Chwaraeodd ei gêm gynta i Port yn y fuddugoliaeth ar ôl ciciau o’r smotyn yn erbyn Caernarfon yng Nghwpan Nathaniel MG. Creodd argraff dda iawn gyda’i berfformiadau ers gyrraedd Y Traeth am ei arbediadau a'i ddosbarthu. -
Joined Port in August 2023 having formerly played for AFC Knowsley and Garswood United clubs in the The Cheshire League . Made his Port debut in the Nathaniel MG Cup win over Caernarfon Town in a tense penalty shoot-out. Has made an excellent impression since arriving at the Traeth for both his shot stopping and distribution.

MEILIR ELLIS


DG / DOB:
25/05/1993
Dychwelodd i’r clwb yng Ngorffennaf 2013 yn dilyn ymadawiad sydyn Morgan Jones, Cadwodd lechen lân yn ei gêm gynta yn erbyn Pwllheli. Wedi chwarae i nifer o glybiau eraill Gwynedd gan gynnwys Pernrhyndeudraeth, Nefyn a’r Bermo. Dywedodd Paps amdano ei fod yn un sy’n rheoli’r bocs ac yn uchel ei gloch; yn ogystal yn arbedwr ergydion ac yn ddosbarthwr da
Returned to the club following the sudden departure of Morgan Jones in July 2023. Kept a clean sheet in his return game with Pwllheli. Has represented a number of other Gwynedd clubs which include Penrhyndeudraeth, Nefyn and Barmouth. Paps describes him as commanding and vocal, a good shot stopper with good distribution.

ALEX WARD-JONES


DG / DOB:
25/07/2005
Arwyddodd i Port ym Medi 2023 gan greu argraff yn syth wrth iddo gymryd at ddyletswyddau tîm cynta yn dilyn yr anaf i Matt Wallace. Darllen y gêm yn dda ac yn barod wedi cyfrannu gyda nifer o arbedion pwysig. Yn ddosbarthwr ardderchog gyda chic allan anferth. Golwr ifanc addawol iawn a fuodd yn Academi Dinas Bangor.
Signed for Port in September 2023 and made an immediate mpact stepping up for first team duties following the injury to Matt Wallace. Reads the game well and has made some vital saves. Has excellent distribution qualities and an impressive raking kick. A talented young keeper who is a Bangor City Academy product


Amddiffynwyr / Defenders
Top^^

JOSH BANKS



DG / DOB:
21/05/1992
Chwaraewr sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol o ffyddlon i’r clwb. Bellach wedi cwblhau 10 tymor ar Y Traeth ers ymuno o’i glwb cartref, CPD Pwllheli, yn Hydref 2012. Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr yn 2022/23 yn dilyn perfformiadau cyson ac allweddol yn yr amddiffyn. Gall chwarae yng nghanol yr amddiffyn neu ar yr ochr chwith. Bu ei allu yn yr awyr, yn y ddau focs, yn ddefnyddiol iawn hefyd.
The long serving defender has completed his 10th season at the Traeth.since joining from his hometown club Pwllheli in October 2012. A very experienced talented left back who loves to attack but for much of last season also contributed in central defence. 2022/23 was amongst his best being deservedly named the Supporters Player of the Season. His aerial ability in both boxes has also proved more than useful.

IDDON PRICE


DG / DOB:
18/01/1991
Ail ymunodd â’r clwb ym mis Ionawr 2022. Cynt bu’n aelod allweddol o’r garfan ers ymuno o CPD Penrhyndeudraeth yn Hydref 2014. Bu’n gapten ar Port ac yn graig yng nghanol yr amddiffyn. Amddiffynwr effeithiol a digyfaddawd ond hefyd yn ddosbarthu’n greadigol o’r cefn. Anafiadau wedi bod yn rhwystr yn ystod y tymor diwetha’. Dechreuodd ei yrfa ar y Traeth gan hefyd gynrychioli Dyffryn Nantlle a cyfnod gyda Chaernarfon
Re-joined the club in January 2022. Previously a key member of the squad after signing from CPD Penrhyndeudraeth in October 2014. He has captained the club and has been a rock at the centre of the defence. A highly effective and uncompromising defender who distributes creatively from the back. Injuries reduced appearances last season, Started at the Traeth as a youngster, also played for Nantlle Vale in addition to a spell at Caernarfon.

NATHAN WILLIAMS



DG / DOB:
12/10/1995
Ymunodd yn mis Gorffennaf 2022. o glwb Conwy gan sefydlu ei hun yn bresenoldeb cyson yn yr amddiffyn. Chwaraewr Y Tymor y Rheolwr am 2022/23. Gall Nathan chwarae mewn safleoedd amddiffynnol ar draws y cefn a hefyd mae'n fygythiad o giciau gosod, yn cyfrannu 5 gôl bwysig y tymor diwetha’. Cynt bu gyda Caernarfon a hefyd CPD Llanberis.
Joined from Conwy Borough in July 2022. Quickly established himself as a key performer in the Port defence, earning him the Manager’s Player of the Season Award for 2022/23. A versatile defender who can play anywhere across the back four also chipping in with 5 important set piece goals. Previously represented Caernarfon Town and CPD Llanberis.

GRUFFYDD ELLIS



DG / DOB:
16/08/2004
Ymunodd â Port o CPD Caernarfon yn Ionawr 2023. Chwaraeodd Gruff ei gêm gynta’ yng nghanol yr amddiffyn ond gall hefyd gyfrannu yng nghanol cae. Chwaraewr ifanc addawol a fu’n rhan rheolaidd o garfan ddatblygol. Caernarfon. Er i anaf gyfyngu ar nifer ei ymddogosiadau bu’n ddigon iddo greu argraff dda iawn.
Joined from Caernarfon Town in January 2023. Gruff made his debut in central defence and can also contribute in midfield. A young promising talent who was a regular part of Caernarfon’s Development Squad. Appearances since joining were restricted by injury but he enjoyed sufficient game time to create a very favourable impression.

RYAN WILLIAMS



DG / DOB:
07/10/1998
Ymunodd â Port yng Ngorffennaf 2023 o glwb Llandudno. Gall chwarae mewn unrhyw safle ar draws y cefn neu yng nghanol cae. Daw â phrofiad sylweddol i’r clwb o’r Cymru Premier yn ogystal a’r Cymru North. Cyfuniad o dalent naturiol a gwaith caled, mae’n arweinydd ar y cae. Ychwanegiad pwysig i’r garfan. Ymysg ei glybiau blaenorol mae Wrecsam a Chaernarfon.
Joined Port in July 2023 from Llandudno Town. The versatile defender can play anywhere across the back and also in midfield, is a major signing for the club. He brings a huge amount of Cymru Premier as well as Cymru North experience to the club. A real natural talent with a hardworking ethic, who is a leader on the pitch. His other former clubs include Wrexham and Caernarfon.

MORGAN OWEN



DG / DOB:
08/11/2000
Ymunodd a Port yng Ngorffennaf 2023 o glwb Llandudno. Cychwynnodd yn Academi Llandudno, gan wedyn dreulio cyfnod gyda Bae Colwyn a hefyd ar fenthyg yng Nglan Conwy, Daeth Sean Eardley a’r amddiffynnwr pwerus ochr dde yn ôl wedyn i Faesdu. Mae Morgan hefyd wedi chwarae yng nghanol y cael.
Joined Port from Llandudno Town in July 2023.. A product of the Llandudno Town Academy, he also spent a short period with Colwyn Bay FC and also a loan spell at Glan Conwy, before being brought back to Maesdu by Sean Eardley. A strong, powerful right sided defender who has also played in midfield.



Canol Cae / Midfield
Top^^

IFAN EMLYN



DG / DOB:
18/05/98
Ymunodd â Port yng Ngorffennaf 2017 o glwb Bangor, lle serenodd i dîm Dan 19 y clwb. Enwyd yn Chwaraewr y Tymor y Rheolwr am 2021/22 yn dilyn cyfraniad allweddol i’r ymdrech am ddyrchafiad. Pwyllog a dylanwadol yng nghanol cae, efo’r gallu i daro cefn y rhwyd gyda ergydion troed chwith o bell. Methodd llawer o dymor 2022/23 oherwydd anaf cyn dod yn ôl i helpu’r clwb i gadw ei lle yn y Cymru North.. Wedi cynrychioli Academiau Cymru Dan 19 a hefyd Colegau Cymru Dan18.
Joined Port in July 2017 from Bangor City where he starred for their U19s. Named Manager’s Player of the Season for 2021/22 following his key conribution to the promotion effort. Calm and composed in central midfield, he also has the ability to strike goals from distance with a great left foot Missed much of last season through injury, returning in time to help the club retain their place in the Cymru North.. Was a member of Wales Academy U19 squad and also the Welsh Colleges U18s.

RHYS ALUN WILLIAMS



DG / DOB:
13/11/97
Ymunodd â’r clwb am y tro cyntaf ym Mehefin 2019 o glwb Nantlle Fêl. Prif sgoriwr 2021/22 gyda 23 o goliau gan gynnwys hatric yn Ffeinal yr Ail-gyfle.Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr am 2021/22. Chwaraewr allweddol yn y râs am ddyrchafiad yn cyfrannu ar yr asgell neu fel ymosodwr canol. Mae ganddo lygad am gôl gyda’r sgiliau ar y bêl i agor amddiffyn. Chwaraewr cyffrous â ganddo’r doniau i newid gem yn ddramatig. Dychwelodd i Port ym mis Awst 2023 ar ôl cyfnod byd gyda Chaernarfon.
First joined the club in June 2019 from Nantlle Vale. Top scorer in 2021/22 with 23 goals, including a hat-trick in the Play-off Final. Supporters' Player of the Season for 2021/22. A key player in the club’s promotion drive contributing in a wide attacking role or central striker with a keen eye for goal. A skilful touch player who possesses excellent close control and is an exciting and often spectacular player. Returned to Port in August 2023 after a short spell at Caernarfon Town.

GARETH JONES EVANS



DG / DOB:
02/07/1992
Dychwelodd i’r garfan yn Hydref 2023. Ail ymunodd â Port yn Ionawr 2020 o’i glwb cartref, Pwllheli. Cafodd dau gyfnod blaenorol ar Y Traeth rhwng 2010-13 a 2016-18. Chwaraeodd nifer o gemau yn gefnwr y tymor diwetha’ ond yng nghanol cae mae’n gwneud ei brif gyfraniad, yn chwaraewr creadigol sydd a’r gallu i agor unrhyw amddiffyn. Chwaraeodd cynt hefyd i Gaernarfon a Hotspyrs Caergybi.
Returned to the squad in October 2023. Re-joined Porthmadog in January 2020 from his hometown club Pwllheli. He had two previous spells at the club between 2010-13 and 2016-18. Played a number of games at full back last season but makes his major contribution as a creative midfielder who, can open defences with his accurate passing. His previous clubs also include Caernarfon Town and Holyhead Hotspurs.

STUART ROGERS



DG / DOB: 01/05/1988
Ail-ymunodd â Port ar gyfer tymor 2021/22. Cynt fe dreuliodd dau dymor ar Y Traeth rhwng 2014 a 2016. Yn dilyn hynny bu’n aelod o garfan llwyddianus CPD Cegidfa am 5 tymor. Hefyd wedi chwarae i’w glwb lleol Bermo a Dyffryn. Daw a phrofiad helaeth i ganol cae lle mae ei ddylanwad creadigol yn amlwg. Yn 2023/24 bydd Stuart yn cymryd rôl newydd, yn gyd rheolwr ar yr Ail-dîm gyda Trystan Davies.
He re-joined Port for the 2021 /22 season. Previously he spent two seasons at the Traeth between 2014 and 2016. Following this he was part of a successful Guilsfield FC squad for five seasons. He has also played for his hometown club Barmouth and Dyffryn. Brings a wealth of experience to the midfield where his creative influence is clear. For 2023/24 he will assume a new role as reserve team manager working jointly with Trystan Davies.

CIAN PRITCHARD



DG / DOB:
18/06/2005
Chwaraewr ifanc addawol a chwaraeodd ei gêm gynta’ yn yr Ardal North West pan yn 16 oed.Hyn yn dilyn creu argraff gyda’r Ail-dîm. Chwaraewr ifanc talentog a defnyddiwyd yn bennaf ar yr asgell lle mae ei gyflymder a'i gyffyrddiad sicr yn fygythiad. Bu yn aelod rheolaidd o garfan llwyddianus Ysgolion Cymru Dan 18.AR FENTHYG GYDA CPD NANTLLE VALE 2023/24.
A young player who made his first team debut in the Ardal North West as a 16 year-old having impressed for the Reserves. A very talented young player used mainly in wide roles where his pace and close control make him a real threat. He has been a regular in the highly successful Wales U18 Schools squad. CURRENTLY ON LOAN WITH NANTLLE VALE FC 2023/24

LUKE SMITH



DG/DOB:
08/12/2000
Ymunodd â Port yn Awst 2023 yn dilyn cyfnod byr gyda Conwy. Bu’n aelod rheolaidd o garfan Llandudno yn y Cymru North y tymor diwetha’. Presenoldeb cry’ yng nghanol y canol cae, cychwynnodd ei gêm gynta’ dros Port yn y gêm oddi cartref ym Mwcle. Hefyd wedi chwarae i Llandudno Albion.
Joined Port in August 2023 following a brief spell with Conwy Borough. A first team regular for Llandudno Town in the Cymru North last season. A strong presence in central midfield, he made his Port debut in the away fixture at Buckley Town. Has also played for Llandudno Albion.

TOM MAHONEY



DG /DOB:
19/03/1996
Ymunodd â Port yn Ionawr 2023 o Runcorn, clwb yng Nghynghrair y North West Counties. Ynghynt cynrychiolodd CPD Pwllheli a chlwb Nantlle Fêl. Ar ôl symud i Lerpwl chwaraeodd hefyd i glybiau South Liverpool a AFC Knowsley. Chwaraewr pwerus, tal sydd yn bresenoldeb yng nghanol cae. Ganddo lygad am gôl a chreodd argraff yn syth wrth sgorio yn ei gêm gynta’ ar Y Traeth ac wrth gyfrannu at y frwydr i gadw’r lle yn y Cymru North.
Joined Port in January 2023 from North West Counties club Runcorn Town. Earlier in his career he repreented both Pwllheli and Nantlle Vale but following a move to Liverpool also played for South Liverpool and AFC Knowsley. A tall, strong presence in midfield with an excellent touch and an eye for goal. Made an immediate impact scoring on his home debut and impressed in the battle to maintain the club’s Cymru North place .


CAIO EVANS



DG / DOB:
18/12/2004
Ymunodd â Port yng Ngorffennaf 2023 o glwb Caernarfon lle bu’n chwarae i garfan ddatblygol Dan 19 y clwb, Gwnaeth ei ymddangosiad cynta’ yn y JD Cymru Premier i brif dîm clwb Yr Ofal tuag at ddiwedd y tymor diwtha’. Chwaraewr ifanc sydd wedi creu argraff yn y cyfnod cyn dymor gyda’i agwedd gadarnhaol a’i awydd i ddysgu.
Joined Port from Caernarfon Town in July 2023 where he played for the U19 Development Squad. Towards the end of last season he also made his senior debut in the JD Cymru Premier. A young player who has impressed during pre-season with a great attitude and a willingness to learn.

TELOR WILLIAMS



DG / DOB:
03/07/2001
Ail ymunodd â Port y tro yma o glwb Llandudno, lle dreuliodd tymor 2022/23. Chwaraewr ochr chwith llawn sgil sy’n gyfforddus fel amddiffynwr neu mewn rôl mwy ymosodol ar yr asgell chwith. Bu gyda Port yn ystod tymor 2019/20 cyn symud i Gaernarfon. Cafodd brofiad ar lefel Cymru Premier tra gyda Fflint a Chaernarfon. Cynrychiolodd Ysgolion Cymru Dan18
Re-joined Port in July 2023 from Llandudno Town where he played last season. Was previously at the Traeth in season 2019/20. A skilful left sided player he is comfortable at left back or in a more attacking role on the left wing. Now returns to the Traeth a more experienced player having also played in the Cymru Premier for Caernarfon Town and Flint Town United. Represented Wales Schools U18.



Ymosodwyr/ Strikers
Top^^


SHAUN CAVANAGH

DG / DOB:
18/12/1997
Dychwleodd o glwb Llandudno yng Ngorffennaf 2023 gan rhwydo hatric mewn 7 munud yn ei gêm gynta'nol. Y tro diwetha iddo chwarae i Port oedd yn 2020. Blaenwr cyflym llawn sgil sydd hefyd yn ymosod o ganol cae. Yn ychwanegu goliau a chreadigrwydd yn y blaen. Un o flaenwyr gorau’r gynghrair mae ganddo’r gallu i newid gemau. Ymysg ei glybiau blaenorol mae Dinas Bangor, Caernarfon a Phrestatyn.
Returned from Llandudno Town in July 2023 after last playing for Port in 2020. Announced his return with a hat-trick in 7 mins in 1st game back. A pacy skilful forward or attacking midfielder, he will certainly add much needed fire power and creativity up front. Ability to change games, he is amongst the top forwards in the league. His previous clubs include Bangor City, Caernarfon and Prestatyn.
Welcome back Shaun.

CAI JONES


DG / DOB:
03.10.92
Dychwelodd o Gaernarfon am y 3ydd tro yn Awst 2022 wedi iddo chwarae dros 100 o gemau yn ystod y 4 tymor ar yr Oval. Ail ymunodd o Gaernarfon am y tro cynta yn 2014 ac eto yn Ionawr 2020. Gall chwarae fel blaenwr ond y tymor diwetha’ bu mewn rôl ddyfnach Rhif 10 yn ychwanegu ei ddawn a phrofiad i’r garfan. Chwaraeodd ei gêm UGC gynta ar Ffordd Ffarar dros Port yn 17 oed. Chwaraeodd dros Ysgolion Cymru Dan 18.
Re-joined from Caernarfon for the 3rd time in August 2022 after playing over 100 games during the 4 seasons. First re-joined from Caernarfon in 2014, then again in January 2020. Can play as striker, but last season took up a deeper No 10 role, bringing his quality and experience to the squad. Made his WPL Port debut aged 17 years at Farrar Road. Capped for Welsh Schools at Under 18 level

DANNY BROOKWELL


DG / DOB:
09/03/1993
Arwyddodd i Port o Llandudno gan ymuno â’r clwb hwnnw o Gaernarfon yn Ionawr 2021. Cafodd gyfnod disglair gyda Chaernarfon yn y Cymru Premier rhwng 2015-20. Ymosodwr dawnus ochr chwith, daw a sgiliau creadigol gwych i’r garfan. Enillodd gap i Cymru ‘C’ yn 2019 ac mae hefyd wedi cyrychioli Ynys Môn. Un o hogiau Môn mae ei gyn clybiau yn cynnwys Llanfairpwll a Glantraeth.
Joined Port from Llandudno Town in July 2023, having signed for Llandudno in January 2021 from Caernarfon Town where he played with great success in the Cymru Premier between 2015-20. A flair left-sided attacker, who brings great creative skillsl to the Traeth squad . Gained a Wales ‘C’ cap in 2019 and has also represented Ynys Môn Hailing from the Isle of Anglesey his previous clubs also include Llanfairpwll and Glantraeth.

ZAC PIKE


DG / DOB:
08/05/2006
Arwyddodd i Port yng Ngorffennaf 2023 yn dilyn chwarae i Dan19 Bala. Blaenwr, a hefyd chwaraewr canol cae, addawol iawn sydd wedi creu argraff yn ystod y cyfnod cyn-dymor gan ganfod y rhwyd i’r garfan hyn a’r Ail-dîm. Daeth fyny drwy glwb y Porthmadog Juniors
Signed for Port in July 2023 having previously for Bala U19s. A highly promising young forward or midfielder, who has impressed during pre-season finding the net for both the senior squad and the revived reserves. Came through the Porthmadog Juniors set-up.

ELIS PUW


DG / DOB:
05/03/2006
Arwyddodd i Port yng Ngorffennaf 2023 yn dilyn chwarae i Dan19 Bala. Fel Zak mae’n Flaenwr, a hefyd chwaraewr canol cae, addawol iawn sydd wedi creu argraff yn ystod y cyfnod cyn-dymor gan hefyd ganfod y rhwyd i’r garfan hyn a’r Ail-dîm. Daeth fyny drwy glwb y Porthmadog Juniors
Signed for Port in July 2023 having previously for Bala U19s. A highly promising young forward or midfielder, who has impressed during pre-season finding the net for both the senior squad and the revived reserves. Came through the Porthmadog Juniors set-up.

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us