Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
08/12/25
CHWARAEWR MIS TACHWEDD / NOVEMBER PLAYERof the MONTH


Llongyfarchiadau i LIAM MORRIS dewis y cefnogwyr yn Chwaraewr Mis TACHWEDD
Creodd Liam argraff arbennig ers ymuno â Port o Bangor 1876. Rhwydodd dwy gôl hwyr yn erbyn Port Talbot gan sicrhau mynediad Port i Rownd 4 Cwpan Cymru.
Dilynoddd hyn drwy rhwydo eto 9 munud fewn i’r gêm nesaf gan rhoi Port ar y ffordd i fuddugoliaeth dros Llangefni.
Bydd Liam yn derbyn poteli Mws Piws, llun gan Jeff Guile wedi’i fframio a plac gan Teledu Port TV

Congratulations to LIAM MORRIS the supporters choice as Player of the Month for NOVEMBER.
Liam made an immediate impact at the Traeth following his switch from Bangor 1876, scoring two late goals against Port Talbot to secure Port’s place in Round 4 of the JD Welsh Cup.
Liam followed this, with a goal after only 9 minutes to set Port on their way to a big win over Llangefni
Liam will receive bottles of Purple Moose, a framed picture by Jeff Guile and a plaque by Teledu Port TV.
07/12/25
Pnawn siomedig yn Nantporth / A disappointing afternoon at Nantporth


Am yr ail dro y tymor yma mae ymweliad â Nantporth wedi gorffen â Port yn colli. Y tro yma colli i Trearddur gyda’r clwb o Ynys Môn sydd wedi ymgartrefu ym Mangor yn cadarnhau gymaint o fwgan ydynt i Port.
Gêm ryfedd ar lawer ystyr gyda Port, er gwaetha’r perfformiad gwan, yn cael eu hun dwy gôl ar y blaen ac ond 10 munud yn weddill ac eto yn gorffen heb ddim gyda’r Bae yn rhwydo 3 gôl hwyr a cipio’r 3 phwynt.
Yn ddigon eironig sgoriwyd dwy o’r dair gôl gan Tom Hilditch, sgoriwr cyson i Port y tymor diwetha’, a fo rhwydodd y gic o’r smotyn i ennill y gêm.
Darllenwch Adroddiad Dylan adroddiad
Pennau lawr ond am funud yn unig a fyny eto i groesawu CPD Y Rhyl 1879 i;r Traeth!!
C'mon Port!

For the second time this season a visit to Nantporth ended in defeat. This time at the hands of Trearddur. The Bangor based Anglesey club further added to their reputation as Port’s bogey team.
A strange game in many ways. Port, despite being well below their best, found themselves two goals up with just 10 minutes to go and yet ended up on the losing side as rhe Bay netted three late goals and took the 3 pts.
Ironically two of those three goals were scored by Tom Hilditch, a prolific scorer for Port last season, who strokes home the winning goal from the penalty spot.
Read Dylan’s full Match Report adroddiad
Heads go down but just for the moment and very much rise again by the time we welcome CPD Y Rhyl 1879 to the Traeth next Saturday!
C'mon Port!!
06/12/25
GÊM YMLAEN / GAME ON


Yn dilyn archwiliad o’e cae yn Nantporth mae gêm heddiw yn erbyn Trearddur YMLAEN (2.30 pm).

Following a pitch inspection at Nantporth, today’s game against Trearddur is ON (2.30pm)
02/12/25
TREARDDUR: Ardal NW: Sadwrn / Sat: Nantporth, Bangor 2.30pm LL57 2HQ


Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Nantporth, Bangor lle mae Trearddur bellach yn chwarae eu gemau cartref. Bydd y gic gynta’ am 2.30pm, mewn gêm sydd wedi’i hail drefnu ar gyfer pnawn Sadwrn.
Mae’r ddau glwb, eisoes wedi cyfarfod y tymor hwn, gyda Port yn mynd allan o Gwpan y Gynghrair yn colli i 9 dyn Trearddur. Hefyd gwnaeth Trearddur y dwbl dros Port y tymor diwetha’ sydd yn awgrymu yn gryf fod y clwb o’r Ynys, sydd yn chwarae ar y tir mawr, yn dipyn o fwgan i Port.
Yn y tair gêm a chwaraewyd rhyngddynt, bu Trearddur yn gadarn yn y cefn ac yn anodd i’w hagor i fyny. Yn y blaen mae ganddynt nifer o dalentau amlwg, gan gynnwys cyn chwaraewr Port, Tom Hilditch.
Bu Treardur ar rhediad da yn y gynghrair yn ennill 4 gêm yn olynol sy’n golygu eu bod yn y 6ed safle yn y tabl. Hefyd maent, fel Port, drwodd i 16 olaf Cwpan Cymru.
Ond mae gan Port record dda yn y gynghrair y tymor hwn ac hefyd yng Nghwpan Cymru, lle cafwyd nifer o gemau cyffrous iawn. Y Sadwen diwetha cafodd Port un o’u canlyniadau gorau yn curo Llangefni o 5-2. Pnawn Sadwrn bydd y sylw i gyd ar y gynghrair, a prawf anodd arall, wrth i’r frwydr am ddyrchafiad boethi ymhellach.
C’mon Port!!

On Saturday, Port will travel to Nantporth, Bangor, where Trearddur now play their home games. The re-arranged Ardal NW fixture will kick off at 2.30pm.
The two clubs have already met this season, when Port went out of the League Cup at the first hurdle to 9-man Trearddur. In fact Trearddur, with some evidence to back it, can claim to be Port’s bogey side. Last season they performed the double over Port and in all three games have proved to be strong at the back and very difficult to break down. Up front they have several talented threats, including the former Port striker, Tom Hilditch.
Trearddur are on a good run of form with 4 straight league wins and, like Port, have reached the last 16 of the Welsh Cup.
Port also have a good record through most of the season and have been part of some very exciting Welsh Cup ties at the Traeth. Now, however, attention must be on yet another vital league fixture and another stern test as the promotion race continues to hot up.
C’mon Port!!
LLUN / PHOTO: Caio Evans: dylanwdol eto yng nghanol cae / influential again in midfield
02/12/25
Gohirio gêm Dan 17 / Under 17s game OFF


Siom i’r hogia’ Dan17 ond bu’n rhaid gohirio gêm heno yn erbyn Bangor.
Mae’r Traeth wedi diodde eto o’r llifogydd ar Y Glaslyn,hyn yn dilyn glaw trwm iawn ddoe.

Disappointingly for our U 17s, tonght’s game with Bangor has been postponed.
The Traeth has again suffered badly from flooding on the Glaslyn which follows from yesterday’s torrential rain.
30/11/25
Buddugoliaeth dda / League win


Llwyddiant i Port gan gynnal y sialens ar frig y gynghrair a hyn yn ddilyniant i fuddugoliaeth Bangor nos Fercher dros Llangefni i’w roi yn ôl ar y brig gyda pwynt o fantais. Erbyn hyn mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau ar y brig â’r trydyddd yn 5 pwynt a Bangor a Port wedi chwarae dwy gêm yn llai.
Gyda gôl gynnar gan Liam Morris roedd Port ar eu ffordd i fuddigoliaethac roedd safon y chwarae ddilynodd yn eu gwneud yn bnawn i’w fwynhau i i’r cefnogwyr.
Roedd yna 5 sgoriwr gwahanol, gan gynnwys dwy gôl gan amddiffynwyr yn dilyn ciciau cornel ond roedd un gôl yn wirioneddol gofiadwy, ergyd wych gan Shaun Cavanagh yn troelli i gongl ucha’r rhwyd a dod a’r dorf i’w thraed.,br> Darllenwch Adroddiad Treflyn adroddiad

Port maintained their challenge at the top of the table, following on from Bangor’s midweek win over Llangefni which put them back on top, a point ahead with the gap between the top two and the 3ed placed club now standing at 5pts, with the top two having two games in hand.
Liam Morris’ early goal set Port on the road to victory and the quality of the play which followed made it a really good day for Port and entertaining for supporters.
There were five different names on the scoresheet including two set piece goals from defenders but the stand out finish of the afternoon, perhaps of the season, was Shaun Cavanagh’s curler into the top corner bringing the crowd to its feet.
Read Treflyn’s full Match Report adroddiad
29/11/25
DAN 17 DAN y GOLEUADAU / UNDER 17’s UNDER the LIGHTS


CPD Porthmadog Profiad arbennig i hogia’ Tîm Dan 17 CPD Porthmadog pan fyddant yn chwarae Tîm Dan 16 Dinas Bangor 1876, dan y llifoleuadau ar Y Traeth. nos Fawrth 2ail Rhagfyr am 7.30yh
Gêm fydd hon yng Nghynghrair Pêl-Droed Ieuenctid Gwynedd.
Dewch draw i gefnogi'r hogia.
Hefyd bydd cyfle i weld eu cit newydd, ac estyn croeso i’w noddwyr:
SQUEAKY CLEAN<, O.J. JONES, AJ BROWN (ELECTRICAL) & CHIPPY’R DRE


An exciting prospect for the Porthmadog FC U17's who will play Bangor City 1876 U16's under the lights at Y Traeth on Tuesday 2nd December at 7.30pm.
This is a Gwynedd Junior League fixture.
Come along and support the lads.
There will also be an opportunity to see their new kit, and extend a welcome on the night their sponsors:
SQUEAKY CLEAN<, O.J. JONES, A.J. BROWN (ELECTRICAL) & CHIPPY’R DRE.

27/11/25
CWPAN JD Cymru Rd 4 / JD WELSH CUP RD 4


Yn Rownd 4 Cwpan Cymru 2025/26 bydd Port adra’ yn erbyn CPD RHYL 1879
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 12/13 Rhagfyr

In tonight’s draw for the 4th Round of the Welsh Cup Port have been drawn at HOME to CPD RHYL1879
The games will be played on Friday / Saturday 12th 13th December
Newyddion cyn 27/11/25
News before 27/11/25

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us