|
|||
Barn Cefnogwr / Fan's View - Rhyl v Port Saesneg / English Teithiodd nifer dda o gefnogwyr i lan y môr Y Rhyl gyda’r cadeirydd Phil Jones yn llogi bws-mini ychwanegol i’r ffans ifanc a oedd yn chwarae pêl droed eu hunain yn y bore. Roedd yn braf clywed y gweiddi mewn gêm i ffwrdd – rhywbeth sydd heb ddigwydd yn aml yn y gorffennol. Mae'r hogiau'n gwerthfawrogi hyn a daeth yr hyfforddwr Campbell Harrison at y cefnogwyr i ddiolch am y gefnogaeth. Ond os oedd y cefnogwyr yn gobeithio cael blasu holl hwyl y ffair, roedd y digwyddiadau ar y cae yn siomedig. Yn wir roedd y digwyddiadau ar y cae yn dipyn fwy digynnwrf na’r gweiddio a’r hwyl yn yr eisteddle. Er bod Y Rhyl wedi cael dipyn fwy o’r meddiant na Port, roeddynt yn cael trafferth i droi’r pwysedd yn gyfleoedd gwirioneddol. Roedd perfformiad Rhys Roberts yn allweddol wrth rwystro’r Rhyl gyda pherfformiad arall ardderchog yn y cefn. Yn wir, mae wedi cael tymor cyntaf arbennig iawn. Hefyd roedd yna groeso mawr i ddychweliad hir-ddisgwyliedig John Gwynfor i’r amddiffyn. Mae John wedi bod yn chwaraewr cadarn a phenderfynol i Port yn y gorffennol fel rwy’n siwr y bydd unwaith eto y tymor hwn. Yn y blaen, roeddem yn gweld colli Les Davies a oedd wedi’i wahardd. Roedd hyn yn lleihau opsiynau Port wrth ymosod. Ond bydd yn ddiddorol gweld sut bydd Les yn cyd-chwarae gyda’r bartneriaeth newydd o Carl Owen a Jason Sadler. Un o ddigwyddiadau mwaf allweddol y gêm oedd penderfyniad y dyfarnwr i anwybyddu apêl Carl Owen am gic o’r smotyn. Roedd Carlo mewn safle da i benio croesiad Danny Hughes, pan gafodd ei wthio gan George Horan. Roedd y croesiad yn dilyn gwaith da gan Jason Sadler a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf i Port. Cynhyrfwyd y cefnogwyr tu ôl i’r gôl gan y penderfyniad - ond nid y ffans yn unig oedd yn cwestiynu’r penderfyniad. Codwyd y mater hefyd gan y sylwebydd Dylan Griffiths yn ei sylwebaeth o’r gêm ar ‘Y Clwb Pêl-droed’. Roedd y penderfyniad yn dyngedfennol gan y byddai cic o’r smotyn o bosib’ wedi dod â’r sgôr yn gyfartal ar 1-1 a phwy a wyr beth fyddai wedi digwydd wedyn. Ond rhaid cyfaddef fod Y Rhyl yn haeddu’r fuddugoliaeth gan eu bod wedi sicrhau llawer mwy o’r meddiant na Port. Ar y llaw arall, teimlaf fod gwahaniaeth o dair gôl yn fwy na’u haeddiant. Felly Caersws amdani yr wythnos nesaf a gêm wahanol iawn –gêm lawer fwy agored gobeithio na’r un yn Y Rhyl. Un rhwystr posib i hyn allai fod y cae yng Nghaersws sydd i'w weld mewn cyflwr wael ar hyn o bryd. Iwan Gareth. Fan's View - Rhyl v Port Port took a decent away contingent on this trip to the seaside, with Chairman Phil Jones chartering an extra mini-bus for the crowd of youngsters who were in youth football action in the morning. It was good to hear some chanting at an away game – something we haven’t seen too often in the past. This is much appreciated by the lads, with Coach Campbell Harrison thanking us punters for our support. But if the supporters went to Rhyl hoping for all the fun of the fair, they were disappointed by what happened on field. The chanting and banter in the stands overshadowed a match that passed off with the minimum amount of action. Despite Rhyl’s superior possession they struggled to turn this pressure into clear-cut chances in the first half. This was thanks in no small part to Rhys Roberts who put in another excellent performance at the back. He’s hardly put a foot wrong all season. Defence-wise, the long-anticipated return to action of John Gwynfor was very welcome indeed. His strength and determination have been huge assets for Port and will be again this season I’m sure. Up front, I feel we missed the suspended Les Davies. This gave Port less attacking options. It’ll be interesting to see how he works with the new strike pairing of Carl Owen and Jason Saddler. One of the main turning points came when the referee turned down Carl Owen’s appeal for a penalty. Carlo was in a good position to head home Danny Hughes’ cross, after some good work by debutant striker Jason Saddler, when he was pushed off the ball. Clearly, the Port supporters behind the goal were up in arms at this decision, but it wasn’t only us who questioned this. Commentator Dylan Griffiths also brought this up in his match commentary on S4C’s ‘Y Clwb Pêl-droed’. The decision not to award a penalty being all the more crucial as it would have made the score 1-1, and who knows how things would have panned out had the pen been awarded. Rhyl probably deserved to win, as they had the lion share of the possession, however I feel the final score flattered them a little. Caersws next week will probably be a totally different affair, and hopefully a more open game of football than the Rhyl match. One possible stumbling block might be the Caersws pitch that seems to be in a sorry state at present. Iwan Gareth. |
|||
|