![]() |
![]() |
![]() |
|
|||
16/10/25 BWCLE / BUCKLEY TOWN: Cwpan Cymru / JD Welsh Cup Rd 2: Sadwrn / Sat: Y Traeth:2.00pm Noddwyr y Gêm / Match Sponsors: GALERI HARLECH Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsors: BLOCKFOIL MANCHESTER & EDDIE BLACKBURN ![]() Hon fydd y 3ydd tro i’r ddau glwb gyfarfod yn y Gwpan yma yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf. Bwcle enillodd y ddwy gêm flaenorol yn y gystadleuaeth hon, felly ar bapur ddim y nodyn mwyaf gobeithiol i Port. Yn Rhagfyr 2021 enillodd Bwcle o 3-1 yn yr Ail Rownd gyda’i rheolwr presennol, Asa Hamilton, yn rhwydo ddwywaith. Cyfarfu’r ddau eto ar Y Traeth yn Rhagfyr 2023, y tro yma yn 4ydd Rownd gyda Bwcle yn ennill o 2-0 gyda Callum Humphries a Liam Driscoll yn rhwydo i’r ymwelwyr. I gael buddugoliaeth gan Port rhaid mynd yn ôl i dymor 1996/97. Yr adeg honno roedd Port yn yr Uwch Gynghrair gyda Bwcle yn y Cymru Alliance. Y sgôr oedd 6-1 i Port. Dyma’r tymor gwnaeth Paul Roberts ei farc am y tro cynta’ mewn crys Port ac roedd yn chwaraewr allweddol yn y gêm Ail Rownd honno. Roedd y dair gêm ar Y Traeth ac ar y Traeth y byddwn eto pnawn Sadwrn. Gyda Asa Hamilton yn rheolwr mae Bwcle wedi symud fyny lefel a bellach maent yn 6ed yn y tabl ac yn eu gêm gynghrair ddiwetha’ curo Gresffordd o 7-0 oedd eu hanes. Bydd y gêm hon eto yn dipyn o sialens i Port a bydd angen yr un ysbryd a’r ymroddiad i frwydro hyd y diwedd a welwyd yn y gêm yn erbyn Dinbych. C’mon Port!! ![]() Saturday’s meeting will be the third time the two clubs have met in the Welsh Cup during the last 5 seasons. The results of these two previous ties do not bode well for Port as Buckley ran out winners on both occasions. In December 2021 they chalked up a 3-1 2nd Rd victory, with their current manager Asa Hamilton scoring twice. The two met again in the Welsh Cup in December 2023, this time in a 4th Round tie, again at the Traeth with Buckley 2-0 winners. Callum Humphries and Liam Driscoll netted for the visitors. To come across a Port cup victory we can look back to season 1996/97 when Port were a League of Wales club with Buckley in the Cymru Alliance. Port were 6-1 winners. That was the season when Paul Roberts made his mark for the flrst time in a Port shirt and indeed he was a key player in that 2nd Round tie with Buckley. Interestingly all three games were played at the Traeth as will be the case again on Saturday. Under manager Asa Hamilton the Flintshire club have stepped up a level and now lie in 6th spot in the Cymru North and last time out they recorded a 7-0 win at Gresford. This will be another stiff challenge for Port and we must hope that the spirit which gave them the victory against the odds over Denbigh Town in the last round, will come to the fore again on Saturday. C’mon Port!! 11/10/25 PORT yn SYMUD i’r BRIG!! / PORT MOVE to the TOP!! ![]() Y Tabl yn dangos eu bod 2 bwynt ar y blaen i Bangor 1876 gyda Llangefni yn 3edd safle ar ôl colli am y tro cynta’ yn erbyn Llai heddiw. Roedd gôl Danny Brookwell ar ôl 50 munud yn ddigon i sicrhau’r 3 phwynt mewn gêm gyffrous gystadleuol. Y gynghrair yn mynd yn dda ond ffordd bell i fynd (23 o gemau!!) DARLLENWCH ADRODDIAD TREFLYN adroddiad Llongyfarchiadau i Treflyn, yn Daid am y tro cyntaf. Pob lwc i’r teulu bach. The win over Llannefydd today in a tight contest at the Traeth maintains their 100% record in the league moving them to the top of the Ardal North West 2 pts ahead of Bangor 1876 with both clubs having played 7 games. A goal from Danny Brookwell 5 mins into the 2nd period was enough to give Port all three points in a battle royal. Llangefni in 3rd spot behind Bangor on goal difference suffered their first loss of the season at Llay. Going well...so far. A long way to go -23 more league games!! READ TREFLYN’S Match Report adroddiad Congratulations to Treflyn on the birth o his grandaughter and best wishes to the happy family. 09/10/25 LLANNEFYDD: Sadwrn / Saturday:Ardal North West: Y Traeth: 2.30pm ![]() Noddwyr y Bêl/ Match Ball Sponsors: BLOCKFOIL Manchester Adra’ fydd Port unwaith eto pnawn Sadwrn a hynny yn dilyn penwythnos heb gém. Yn ól at fara menyn y gynghrair gan groesawu CPD Llannefydd i’r Traeth. Fel y profwyd y tymor diwetha’ bydd y clwb o Sir Ddinbych yn sialens i unrhyw glwb a’u llygaid ar ddyrchafiad. Yn wir roedd colli yn drwm ar Gae Llan y tymor diwetha yn ddigon i newid tymor Port. Aeth Llannefydd ymlaen i gymryd 4 pwynt wrth Port diolch i gém gyfartal gyffrous ar Y Traeth. Yng nghanol y llu o gemau cwpan diweddar, collodd Llan ddwy gém gynghrair a hynny yn erbyn Llangefni a Prestatyn dau glwb a’u llygaid ar ddyrchafiad. Yn y 6ed safle mae Llannefydd ac yn teithio yn barod am sialens. Gyda sawl chwaraewr bellach yn gwella o’u anafiadau, bydd gan Chris Jones ddewis ehangach pnawn Sadwrn. Gobeithio am rhagor o’r chwarae cyson sydd wedi sicrhau 6 buddugoliaeth mewn 6 gém gynghrair a llai o’r perfformiadau siomedig fel y gafwyd wrth golli i 9 dyn Trearddur. Amdani felly C’mon Port!! ![]() As was proved last season Llannefydd will provide a stern test for any promotion aspirations. A heavy defeat away in Denbighshire proved a turning point in Port’s 2024/25 season. Llannefydd then went on to take 4 pts from Port following an exciting draw at the Traeth. In amongst the host of cup-ties which have dominated the recent fixture list, Llannefydd have suffered league defeats against promotion hopefuls Llangefni and Prestatyn. They however remain in 6th spot and will relish the challenge of a visit to the Traeth. With several players now returning from injury, Chris Jones will enjoy the luxury of greater squad choice. Port will hope to continue the consistent form which has resulted in 6 wins out of 6 in the league rather than the disappointing cup form displayed the last time out at the Traeth against Trearddur. Go for it lads. C’mon Port!! 06/10/25 Diolch i FRAGDY MWS PIWS am y Diffribriliwr / Thanks to PURPLE MOOSE BREWERY for the Defibrillator Hoffai CPD Porthmadog estyn diolch diffuant i Bragdy Mws Piws am eu haelioni a’u cefnogaeth gymunedol arbennig. Diolch i’w cyfraniad caredig, mae diffibriliwr bellach ar gael ar Y Traeth – adnodd hanfodol ar gyfer diogelwch pawb sy’n defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon. Mae sicrhau mynediad at offer achub bywyd fel hyn yn rhan allweddol o’n hymrwymiad i iechyd a lles ein chwaraewyr, cefnogwyr, ac ymwelwyr. Mae’r cydweithrediad hwn yn enghraifft wych o’r gymuned leol yn dod ynghyd er budd pawb. Diolch o galon i bawb a fu’n rhan o wireddu’r fenter. Yn y llun: Craig Hacking, Is-Gadeirydd, a Marc Seddon, Dirprwy Reolwr, gyda’r diffibriliwr newydd. CPD Porthmadog would like to express our heartfelt thanks to Purple Moose Brewery for their generosity and outstanding community support. Through their kind contribution, we now have a defibrillator available at Y Traeth – a vital resource for the safety of everyone using our sporting facilities. Ensuring access to life-saving equipment like this is a key part of our commitment to the health and wellbeing of our players, supporters, and visitors. This collaboration is a wonderful example of the local community coming together for the benefit of all. Our sincere thanks to everyone involved in making this initiative a reality. In the picture, Craig Hacking, Vice Chairman and Assistant Manager Marc Seddon with the new Defibrillator. 05/10/25 Chwaraewr y Mis / Player of the Month ![]() Mae Shaun wedi mwynhau cyfnod arbenning dros yr wythnosau diwethaf, gan wneud cyfraniad arbennig i lwyddiant y clwb yn sucrhau 6 buddugoliaeth yn olynol yn yr Ardal NW sy’n golygu cychwyn 100% i’r tymor yn y gynghrair. Gyda Danny Brookwell yn absennol drwy anaf mae llawer o’r chwarae creadigol wedi disgyn ar ysgwyddau Shaun ac mae wedi ymateb yn wych yn ogystal a rhwydo goliau pwysig. Bydd Shaun yn derbyn poteli Mws Piws, llun gan Jeff Guile wedi’i fframio a plac gan Teledu Port TV Congratulations to SHAUN CAVANAGH the supporters’ choice as Player of the Month for SEPTEMBER. Shaun has had an outstanding spell over the past weeks, making a great contribution to the 6 straight league victories and the 100% start. With Danny Brookwell missing through injury, much of the creative play has fallen on Shaun’s shoulders and he has responded brilliantly, as well as bagging a couple of valuable goals. Shaun will receive bottles of Purple Moose, a framed picture by Jeff Guile and a plaque by Teledu Port TV. 04/10/25 Ychydig Mwy o Ystadegau / A few more Stats ![]() Y chwaraewyr sy’n ehwydo’r goliau sydd bob amser yn denu’r sylw. Does ‘na ‘run o ymosodwyr Port yn y pump uchaf o sgorwyr yr Ardal NW. Gwelwn dau enw cyfarwydd iawn yn y tri uchaf; Corrig McGonigle (Bangor 1876) a Tom Hilditch (Trearddur) efo 7 yr un. Ond prif sgoriwr yr Ardal NW, ac yn wyneb newydd, ydy Osian Hughes (Bethesda Athletic) sydd wedi rhwydo 8 gôl. Prif sgoriwr Port ydy Rhys Alun gyda 5 gôl gynghrair. Y clwb gyda’r cyfanswm ucha’ o goliau ydy Bangor 1879 yn sgorio 23 o goliau mewn 7 gêm cynghrair gyda un yn llai mewn 6 gêm i Port. Ystadegyn sy’n plesio’n fawr ydy fod 11 o chwaraewyr yn rhannu’r 22 gôl mae Port wedi sgorio mewn gemau cynghrair. Nid yn dibynnu felly ar un chwaraewr i gyfrannu mwyafif y goliau. Shaun Cavanagh sy’n dal i arwain rhestr y cynorthwywyr gyda 7 cymorth. Josua Jones Pwllheli sy’n dilyn gyda chwech. Tri o chwaraewyr Port sydd wedi cychwyn bob un o’r 6 gêm gynghrair. Y tri dibynadwy: Ryan Williams, Jake Jones a Cai Jones. Yn amddiffynol cadwyd 3 llechen lân allan o’r 6 gêm. Derbyniodd 16 o chwaraewyr yr Ardal NW gardiau coch, neb o Port. Da Iawn! Dengys y rhestr cardiau melyn fod Kai Wallis (Prestatyn) eisoes wedi casglu 6 cerdyn gyda Math Thomas (Llanrwst) â 5.Tri o chwaraewyr Port sydd wedi codi cerdyn melyn mewn gemau cynghrair; Gruff Ellis, Jack Gibney and Cai Jones efo un yr un. ![]() Goalscorers at all levels of the game always get most attention. No Port attacker appears in the League’s top 5. Two familiar names appear in the top 3; Corrig McGonigle (Bangor 1876) and Tom Hilditch (Trearddur), each with 7 goals. But heading the list with 8 goals is newcomer Osian Hughes (Bethesda Athletic). Rhys Alun leads Port’s scorers with 5 league goals. The club which has netted most goals is Bangor 1879 with 23 goals in 7 games while Port have just one fewer in 6 games. Indeed the pleasing feature for Port is that 11 players have netted in league matches sharing the 22 goals. A healthy situation rather then dependece on the one striker. Port’s Shaun Cavanagh still leads the ‘assists’ list with 7, followed by Josua Jones of Pwllheli with six. Three Port players have started all 6 league games. The reliable trio; Ryan Williams, Jake Jones and Cai Jones. Defensively, it is a case of 3 clean sheets out of 6 in league fixtures. In the Ardal NW, 16 players have received Red Cards, none from Port and long may it last. The Yellow Cards list shows that Kai Wallis (Prestatyn) has already picked up six followed by Math Thomas (Llanrwst ) with five. Three Port players have picked up a single yellow in the league, Gruff Ellis, Jack Gibney and Cai Jones but 6 more have in cup games. 03/19/25 CYNGHRAIR AIL DIMAU CBDC (Gogledd) / FAW RESERVE LEAGUE (North) CANLYNIAD / RESULT: Llandudno 13-0 Port Bydd y tîm Datblygu oddi cartref dydd Sul Hydref 5ed yn Llandudno. Bydd y gic gynta’am 5 o’r gloch. The Development Team are away to Llandudno Res on Sunday 5th October Kick off will be at 5 pm. 29/09/25 ** CLWB 100 ** ENILLWYR MEDI / SEPTEMBER WINNERS 1af/st £100 - NO. 29 - ALED & HELEN ELLIS 2ail/nd £60 - NO.72 – JEFF GUILE 3ydd/3rd £40 - NO. 36 – ENID OWEN Llongyfarchiadau / Congratulations |
|||
|