|
Tim Hyfforddi / Managment Team
RHEOLWR / MANAGER: CHRIS JONES
|
Apwyntiwyd i swydd y rheolwr yn Ebrill 2024. Rheolwr ac hyfforddwr profiadol sydd yn ddeiliad Trwydded Hyfforddi ‘B’ UEFA a ganddo Radd Hyfforddi a Rheoli yr Universal Centre of Sport, Yn rheolwr ar glwb AFC Knowsley am 3 blynedd, gan ennill Adran 1af Cynghrair Sir Gaer cyn ymuno wedyn â Prestatyn lle bu’n gyfrifol am adfywio canlyniadau’r clwb yn 2022/23. Wedi hyfforddi hefyd gyda Bootle FC ac Academi Burnley.
Appointed manager in April 2024. An experienced coach and manager who holds an UEFA ‘B’ Coaching Licence and has a Coaching & Management Degree from the Universal Centre of Sport. Held the manager’s post with AFC Knowsley for 3 seasons, winning the Cheshire League First Division before joining Prestatyn Town where he was responsible for reviving the club’s fortunes in 2022/23. Has also held coaching posts with Bootle FC and at the Burnley FC Academy.
|
IS-RHEOLWR /ASSISTANT MANAGER: MARC SEDDON
|
Apwyntiwyd yn is-rheolwr yn Gorffennaf 2024. Unwaith eto mae Chris jones wedi troi at Marc am gefnogaeth. Bu yn rhan o’r tîm rheoli efo Chris yn Prestatyn a gyda AFC Knowsley clwb o Gynghrair Caer. Bu’r ddau yn cydweithio hefyd yn Bootle gyda'r tîm Dan 21.
Appointed assistant manager in July 2024. Chris Jones has turned for support to Marc who has been a part of his management team at both Prestatyn Town and at Cheshire League club AFC Knowsley He has also worked with Chris at Bootle U21s.
|
Cyfarwyddwr Datblygu Chwaraewyr / Director of Player Development: HAYDN WYN JONES
|
Apwyntiwyd i’r rôl newydd ym Mehefin 2024 gyda’r bwriad o greu llwybr i chwaraewyr ifanc sy’n arwain at y tîm cyntaf. Gyda chynllun 5-mlynedd yn ei le, mae’r camau cyntaf yn cynnwys integreiddio’r ‘Porthmadog Juniors’ i strwythur y clwb ac ail enwi’r ail-dîm yn Garfan Ddatblygol. Yn gyn chwaraewr i’r clwb, lle bu hefyd yn rhan o strwythur yr Academi fel yr oedd cynt ar Y Traeth. Ganddo’r profiad a’r cymwysterau ar gyfer y rôl hon.Treuliodd 10 mlynedd gyda chlwb Caernafon yn chwarae rhan bwysig wrth sefydlu a datblygu’r academi, fel Cyfarwyddwr yr Academi ac yn fwy diweddar yn hyfforddi ac arwain grwpiau oedran. Fel hogyn lleol mae’n ymwybodol o’r hyn a olygir i wisgo’r crys coch a du.
Appointed to this new role in June 2024. Set up to provide young players with a pathway leading to the first team. A 5-year plan is in place which includes the integration of the ‘Porthmadog Juniors’ into the club structure and re-titling the the reserves as a Development Squad. The former player, who also coached within the club academy set up, has the experience and qualifiications for the role. Spent 10 years at Caernarfon Town FC playing an instrumental role in establishing and developing the academy, initially as Academy Director and more recently as an age group lead coach. As a local lad he knows exactly what it means to wear the red and black of Port.
|
RHEOLWR y TÎM DATBLYGOL / DEVELOPMENT SQUAD MANAGER:
TRYSTAN DAVIES
|
Apwyntiwyd yn rheolwr y Tîm Datblygol ar gyfer 2023/24. Derbyniodd y sialens o adfywio ac ail-sefydlu’r garfan a hynny mewn cynghrair anodd a chystadleuol. Er waetha’r problemau cwblhaodd y garfan ifanc eu tymor gan ennill lawer iawn o brofiad yn y broses. Cynt roedd Trystan yn aelod o dîm hyfforddi ein cymdogion yn CPD Penrhyndeudraeth. Mae yn ddeilydd Trwydded ‘B’ UEFA.
Appointed manager of the Development Team for 2023/24 taking up the challenging task of reviving and re-establishing the squad in what turned to be a difficult and competitive league. Despite the problems the young squad completed the season and gained worthwhile experience in the process. Previously was part of the coaching staff of neighbours CPD Penrhyndeudraeth. He is a UEFA ‘B’ Licence holder.
|
FFISIO / PHYSIO:
DEZ JONES
|
Yn dilyn ymateb i’r alwad a’r angen am ffisio yn hydref 2023, bellach mae Dez yn cychwyn ar ei ail dymor yn y cwt rheoli. Yn sydyn iawn arwyddodd ar gyfer yr hyfforddiant angenrheidiol. Mae ganddo’r cymhwysterau ac yn rhan bwysig o’r tîm wrth ochr y cae.
Having responded to the call to fill the vacancy as club ffisio in autumn 2023, Dez commences on his second season in the dugout. Having very quickly signed up to receive the necessary training he is now qualified, and a respected and valued part of the team.
|
Golgeidwad / Goalkeeper
MEILIR ELLIS
DG / DOB: 25/05/1993 |
Dychwelodd i’r clwb yng Ngorffennaf 2013 yn dilyn ymadawiad sydyn Morgan Jones, Cadwodd lechen lân yn ei gêm gynta yn erbyn Pwllheli. Wedi chwarae i nifer o glybiau eraill Gwynedd gan gynnwys Pernrhyndeudraeth, Nefyn a’r Bermo. Dywedodd Paps amdano ei fod yn un sy’n rheoli’r bocs ac yn uchel ei gloch; yn ogystal yn arbedwr ergydion ac yn ddosbarthwr da
Returned to the club following the sudden departure of Morgan Jones in July 2023. Kept a clean sheet in his return game with Pwllheli. Has represented a number of other Gwynedd clubs which include Penrhyndeudraeth, Nefyn and Barmouth. Paps describes him as commanding and vocal, a good shot stopper with good distribution.
|
OLIVER FAREBROTHER
DG / DOB: 27/05/2000 |
Ymunodd â Port yn Ionawr 2024 o glwb Y Waun gan greu argraff yn syth gyda pherformiadau cadarn yn y frwydr i aros yn y Cymru North. Golwr ifanc, talentog sydd yn awyddus i ddatblygu ei gêm. Yn ogystal â phrofiad ar lefel y Cymru North mae ei gyn glybiau yn cynnwys Penrhyncoch, Aberystwyth a nifer o glybiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Treuliodd amser gyda TNS yn chwaraewr ifanc
Joined Port in January 2024 from Chirk AAA making an immediate impression with strong performances in the battle against relegation Talented young keper who is keen to make progress in the game. As well as experience at Cymru North level his previous clubs include Penrhyncoch, Aberysytwyth and several clubs in North West England. Spent time at TNS at youth level.
|
Amddiffynwyr / Defenders
JOSH BANKS
DG / DOB: 21/05/1992 |
Chwaraewr sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol o hir a ffyddlon i’r clwb ers ymuno o’i glwb cartref, CPD Pwllheli, yn Hydref 2012. Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr yn 2022/23 yn dilyn perfformiadau cyson ac allweddol yn yr amddiffyn. Gall chwarae yng nghanol yr amddiffyn neu ar yr ochr chwith. Mae ei allu yn yr awyr, yn y ddau focs, yn aml yn holl bwysig .
The long serving defender has given outstanding service to the club since joining from his hometown club Pwllheli in October 2012. A very experienced talented left back who loves to attack but in recent seasons has contributed mainly in central defence. Named the Supporters Player of the Season in 2022/23. His aerial ability in both boxes has often proved vitally important. |
IDDON PRICE
DG / DOB: 18/01/1991 |
Bu’n aelod allweddol o’r garfan ers ymuno o CPD Penrhyndeudraeth yn Hydref 2014. Bu’n gapten ar Port ac yn graig yng nghanol yr amddiffyn. Amddiffynwr effeithiol a digyfaddawd ond hefyd yn ddosbarthu’n greadigol o’r cefn. Anafiadau wedi bod yn rhwystr yn ystod y tymor diwetha’. Dechreuodd ei yrfa ar y Traeth gan hefyd gynrychioli Dyffryn Nantlle a cyfnod gyda Chaernarfon
A key member of the squad since signing from CPD Penrhyndeudraeth in October 2014. He has captained the club and has been a rock at the centre of the defence. A highly effective and uncompromising defender who distributes creatively from the back. Injuries reduced appearances last season. Started at the Traeth as a youngster, also played for Nantlle Vale in addition to a spell at Caernarfon. |
NATHAN WILLIAMS
DG / DOB: 12/10/1995 |
Ymunodd yn mis Gorffennaf 2022. o glwb Conwy gan sefydlu ei hun yn bresenoldeb cyson yn yr amddiffyn. Chwaraewr Y Tymor y Rheolwr am 2022/23. Gall Nathan chwarae mewn safleoedd amddiffynnol ar draws y cefn a hefyd mae'n fygythiad o giciau gosod ac yn giciau cornel gan gyfrannu goliau pwysig. Cynt bu gyda Caernarfon a hefyd CPD Llanberis.
Joined from Conwy Borough in July 2022. Quickly established himself as a key performer in the Port defence, earning him the Manager’s Player of the Season Award for 2022/23. A versatile defender who can play anywhere across the back four also chipping in with important set piece goals. Previously represented Caernarfon Town and CPD Llanberis. |
GRUFFYDD ELLIS
DG / DOB: 16/08/2004
|
Ymunodd â Port o CPD Caernarfon yn Ionawr 2023. Yng nghanol yr amddiffyn mae Gruff wedi chwarae dros Port ond gall hefyd gyfrannu yng nghanol cae. Chwaraewr ifanc addawol iawn sydd wedi creu argraff arbennig o dda gyda’i berfformiadau aeddfed. Cynt bu’n rhan rheolaidd o garfan ddatblygol. Caernarfon. Collodd llawer o rhan ola’r tymor diwetha’ yn dilyn anaf ond gall edrych ymlaen i wneud cyfraniad pwysig y tymor hwn.
Joined from Caernarfon Town in January 2023. Used mainly in central defence by Port but can also contribute in midfield. He has impressed with his mature perfromances at the back. A young promising talent who was a regular part of Caernarfon’s Development Squad.. Missed the latter part of 2023/24 season due to injury but can now look forward make an important contribution this season |
RYAN WILLIAMS
DG / DOB: 07/10/1998
|
Ymunodd â Port yng Ngorffennaf 2023 o glwb Llandudno. Croesawyd yn ôl am dymor arall yn 2024/25. Gall chwarae mewn unrhyw safle ar draws y cefn neu yng nghanol cae. Daw â phrofiad y Cymru Premier yn ogystal a’r Cymru North. Cyfuniad o dalent naturiol a gwaith caled, mae’n arweinydd ar y cae. Ymysg ei glybiau blaenorol mae Wrecsam a Chaernarfon
Joined Port in July 2023 from Llandudno Town. Delight at the club that he is back for another season at the Traeth. The versatile defender can play anywhere across the back and also in midfield, bringing a huge amount of Cymru Premier as well as Cymru North experience to the club. A real natural talent who is a leader on the pitch. His other former clubs include Wrexham and Caernarfon. |
JACK McGONVILLE
DG / DOB:
|
Ymunodd â Port yn Hydref 2024 o glwb Burscough sy’n chwarae yng Nghynghrair Gogledd Orllewin Lloegr. Amddiffynnwr ochr chwith ydy Jack sydd hefyd yn medru cyfrannu yng nghanol cae pan fydd y galw. Chwaraeodd ei gêm gynta’ dros Port yn eilydd hwyr yn erbyn Conwy. Yn chwaraewr ifanc bu yn Academi Burnley. Gwnaeth Chris Jones droi at Jack er mwyn ychwanegu at ei opsiynau amddiffynol.
Joined Port in October 2024 from North Western Premier League club BurscoughFC. A left sided defender who can also contribute in left midfield. He made his first appearance as a late substitute against Conwy. As a youth Jack was at the Burnley Academy. Manager Chris Jones turned to Jack in oreder to bolster his defensive options. |
Canol Cae / Midfield
RHYS ALUN WILLIAMS
DG / DOB: 13/11/97 |
Ymunodd â’r clwb am y tro cyntaf ym Mehefin 2019 o glwb Nantlle Fêl. Prif sgoriwr 2021/22 gyda 23 o goliau gan gynnwys hatric yn Ffeinal yr Ail-gyfle. Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr am 2021/22. Chwaraewr allweddol yn cyfrannu ar yr asgell neu fel ymosodwr canol. Mae ganddo lygad am gôl gan gynnwys o giciau rhydd. Chwaraewr cyffrous â ganddo’r doniau i newid gem yn ddramatig. Yn 2023 treuliodd gyfnod gyda Chaernarfon.
First joined the club in June 2019 from Nantlle Vale. Top scorer in 2021/22 with 23 goals, including a hat-trick in the Play-off Final. Supporters' Player of the Season for 2021/22. A key player who can contribute as a winger or in the centre of the attack.. A skilful touch player who possesses excellent close control and is an exciting and often spectacular player. In 2023 spent a short spell at Caernarfon Town.
|
CAIO EVANS
DG / DOB: 18/12/2004 |
Ymunodd â Port yng Ngorffennaf 2023 o glwb Caernarfon lle bu’n rhan o garfan ddatblygol Dan 19 y clwb gan hefyd gwneud ei ymddangosiad cynta’ yn y JD Cymru Premier. Cafodd y chwaraewr ifanc canol cae creadigol dymor cynta’ arbennig ar y Traeth. Pan roedd angen cyfranodd hefyd yn safle’r cefnwr de. Pleidleisiwyd yn chwaraewr y tymor am 2023/24 ar y cyd efo Danny Brookwell a hefyd enwyd yn chwaraewr y mis ar sawl achlysur.
Joined Port from Caernarfon Town in July 2023 where he played for the U19 Development Squad and also made his senior debut in the JD Cymru Premier. Enjoyed an outstanding first season at the Traeth. A creative all action midfielder who also filled in at right back when needed. Joint player of the season for 2023/24 and also voted player of the month last season on several occasions. |
JAKE JONES
DG / DOB: 13/09/1998 |
Ail ymunodd â Port yn Ionawr 2024 o glwb Y Waun ar ôl cynrychioli Port am y tro cynta' yn nhymor 2017/18. Ymunodd â Port yn 2017 o academi Cei Connah cyn symud ymlaen i Bwllheli a wedyn Llangefni cyn ymuno â’r Waun yn 2021. Chwaraewr canol cae ochr dde a hefyd yn gefnwr de,safle lle mae wedi creu cryn argraff ers ail ymuno.
Re-joined Port in January 2024 from Chirk AAA having previously represented the club in season 2017/18. First joined Port from the Connahs Quay youth set-up, later joining Pwllheli and then Llangefni Town from where he moved on to Chirk AAA in 2021. A right sided midfielder or right back where he has had a considerable impact since rejoining the club. |
GETHIN THOMAS
DG / DOB: 22/12/1999 |
Ail ymunodd â Port yn Ionawr 2024 ar ôl chwarae i’r clwb yn flaenorol yn ystod tymor 2019/20. O Port aeth i Nantlle Fêl cyn symud i Bangor 1876 yn haf 2020. Chwaraewr canol cae ymosodol gyda llygad am gôl a sydd yn cynnig cyfraniad cyson a chadarn yng nghanol y cae. Mae Gethin wedi cynrychioli Cymru ar lefel Colegau Dan 19.
Re-joined Port in January 2024 having previously played for the club during the 2019-20 season. From Port he moved to Nantlle Vale, from where he signed for Bangor 1876 in summer 2020. An attacking midfielder with an eye for goal who also offers a consistent hard working contribution.. Gethin has represented Wales at Under-19 Colleges level. |
JAMIE JONES
DG / DOB: 16/12 2004 |
Ymunodd â Port yn ystod Gorffennaf 2024 o glwb Dyffryn Nantlle. Chwaraewr canol cae creadigol sydd hefyd yn sgorio goliau pwysig. Yn hynod o addawol ac wedi creu argraff fawr gyda’i glwb blaenorol ac yn y cyfnod cyn dymor.Bydd ei rhediadau cyflym, clyfar yn brawf ar unrhyw amddiffyn. Cynt bu’n chwaraewr ifanc yn Academi Caernarfon a gyda’i Carfan Ddatblygol.
Joined Port in July 2024 from Nantlle Vale. A highly promising young creative midfielder who chips in with important goals. His pace and skilful runs is a test for defences. Previously part of the Caernarfon Youth set-up and the Development Squad. Signed up for 2024/25 after impressing last season for his former club and again during pre-season. |
SION WILLIAMS
DG / DOB: 22/08/1999 |
Ymunodd â Port yn ystod Gorffennaf 2024. Chwaraewyr canol cae amddiffynnol cadarn a ymunodd ar gyfer tymor 2024/25 o glwb Dyffryn Nantlle. Hyn ar ôl creu argraff ar y rheolwr Chris jones yn ystod y cyfnod cyn-dymor
Joined Port in July 2024, A strong, defensive midfielder who joins the club for the 2024/25 season from Nantlle Vale. This after having impressed manager Chris Jones during the pre-season period. |
KURTIS PEARSON
DG / DOB: 03/02/2000
|
Ymunodd â Port yn Awst 2024 o glwb Prestatyn. Mae ei gyn glybiau hefyd yn cynnwys Rhuthun ac AFC Knowsley. Wedi gweitho yn llwyddianus yn y gorffennol gyda’r rheolwr Chris Jones. Enwyd yn chwaraewr y flwyddyn yn 2022/23 tra gyda Prestatyn. Chwaraewr cyffrous canol cae ymosodol a ddisgrifiwyd gan y rheolwr yn un anodd i’w rwystro ac yn bleser ei wylio
Joined Port in August 2024 from Prestatyn Town. His previous clubs also include Ruthin Town and AFC Knowsley. Has previously worked successfully with manager Chris Jones. Named player of the season at Prestatyn in 2022/23. An exciting attacking midfielder described by his manager as unplayable on his day and a real joy to watch |
Ymosodwyr/ Strikers
CAI JONES
DG / DOB: 03.10.92 |
Dychwelodd o Gaernarfon am y 3ydd tro yn Awst 2022 wedi iddo chwarae dros 100 o gemau yn ystod y 4 tymor ar yr Oval. Ail ymunodd o Gaernarfon am y tro cynta yn 2014 ac eto yn Ionawr 2020. Gall chwarae fel blaenwr ond y tymor diwetha’ bu mewn rôl ddyfnach gan ychwanegu ei ddawn a phrofiad i’r garfan. Chwaraeodd ei gêm UGC gynta ar Ffordd Ffarar dros Port yn 17 oed. Chwaraeodd dros Ysgolion Cymru Dan 18.
Re-joined from Caernarfon for the 3rd time in August 2022 after playing over 100 games during a 4 season stay. First re-joined from Caernarfon in 2014, then again in January 2020. Can play as striker, but last season took up a deeper role, contributing with his quality and experience to the squad. Made his WPL Port debut aged 17 years at Farrar Road. Capped for Welsh Schools at Under 18 level |
DANNY BROOKWELL
DG / DOB: 09/03/1993 |
Arwyddodd o Llandudno yn haf 2023 ac er trafferthion Port cafodd dymor cynta disglair ar y Traeth. Enwyd yn gyd chwaraewr y tymor llynedd a fo hefyd oedd y prif sgoriwr. Ymosodwr dawnus ochr chwith, daeth a sgiliau creadigol gwych i’r garfan. Cynt cafodd gyfnod llwyddianus gyda Chaernarfon yn y Cymru Premier rhwng 2015-20.. Enillodd gap i Cymru ‘C’ yn 2019 ac mae hefyd wedi cyrychioli Ynys Môn. Un o hogiau Môn, mae ei gyn clybiau yn cynnwys Llanfairpwll a Glantraeth.
Joined from Llandudno Town in July 2023,and despite Port’s diffiulties he had an outstainding first season at the Traeth. .Named joint player of the season and also the top scorer. A flair left-sided attacker, who brought great creative skillsl to the squad, Previously he had a successful time with Caernarfon Town in the Cymru Premier between 2015-20 . Gained a Wales ‘C’ cap in 2019 and has also represented Ynys Môn Hailing from the Island his previous clubs also include Llanfairpwll and Glantraeth. |
JOHN LITTLEMORE
DG / DOB: 10/12/1994 |
Dychwelodd i Port yn haf 2024 ar ôl cynrychioli’r clwb am y tro diwetha’ yn y tymor dyrchafiad yn 2021/22. Ers hynny mae wedi chwarae i Llangefni a Conwy. Blaenwr gyda digonedd o brofiad gan gynnwys helpu Met Caerdydd i ennill dyrchafiad i’r Cymru Premier yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr. Enillodd fedal aur gyda Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd.
Returned to Port in summer 2024 after last representing the club in the promotion season of 2021/22. Since then he has played for Llangefni Town and Conwy Borough. A hugely experienced forward who helped Cardiff Met gain promotion to the Welsh Premier in his student days. Gained a gold medal representing Ynys Môn in the Island Games. |
ASHLEY OWEN
DG / DOB: 21/04/1997 |
Ymunodd â Port yn Ngorffennaf 2024 o glwb Dyffryn Nantlle. Sgoriwr cyson iawn a hynny dros y 5 tymor diwetha’ gyda’i gyn glwb, lle rhwydodd 65 o goliau mewn 125 o gemau. Bydd Port yn edrych ato i sgorio’r goliau sydd wedi bod yn brin yn ddiweddar. Arwyddodd i’r Fêl o CPD Llanrug.
Joined Port in July 2024 from Nantlle Vale FC. A proven goalscorer, and that consistently over the past five seasons with his former club, netting 65 goals in 125 appearances. Port will now look to him to provide the goals that have been lacking in recent seasons. Signed for the Vale from Llanrug United.. |
TOM HILDITCH
DG / DOB: 05/08/2000 |
Ymunodd â Port yng Noghorffennaf 2024 yn dilyn cynrychioli Burscough, clwb yn y North West Counties, y tymor diwetha’. Blaenwr cyffrous sydd yn barod wedi ychwanegu at ei record arbennig fel sgoriwr cyson. Rhwydodd 20 gôl mewn 27 gêm i Prestatyn yn nhymor 2022/23 gan hefyd cael ei enwi yn nhîm y tymor Cymru North. Ymysg ei gyn glybiau hefyd mae Y Fflint a Skelmersdale Utd.
Joined Port in July 2024 having played last season for Burscough FC in the North West Counties. An exciting forward who has provided Port with plenty of goal threat. Scored 20 goals in 27 appearances for Prestatyn Town in 2022/23 and was named in the Cymru North team of that season. His former clubs also include Flint Town Utd and Skelmersdale United. |
JACK GIBNEY
DG / DOB: 06/09/1999 |
Arwyddodd i Port yng Ngorffennaf 2024. Cafodd brofiad o’r Cymru North gyda Prestatyn pan oedd Chris Jones yn rheoli. Cynt cafodd brofiad gyda AFC Knowsley a Pilkington FC yng ngogledd orllewin Lloegr. Mae’n asgellwr chwim a llygad pendant am gôl.
Joined Port in July 2024 having previously had Cymru North experience with manager Chris Jones at Prestatyn. His previous clubs also include AFC Knowsley and Pilkington FC in N.W England. He is a pacey winger with a real eye for goal. |
ZAC PIKE
DG / DOB: 08/05/2006 |
Arwyddodd i Port yng Ngorffennaf 2023 yn dilyn chwarae i Dan19 Bala. Blaenwr, a hefyd chwaraewr canol cae, addawol iawn sydd wedi creu argraff yn ystod y cyfnod cyn-dymor gan ganfod y rhwyd i’r garfan hyn a’r Ail-dîm. Daeth fyny drwy glwb y Porthmadog Juniors.
Erbyn hyn wedi ymuno â Nantlle Vale Pob lwc Zac,
Signed for Port in July 2023 having previously for Bala U19s. A highly promising young forward or midfielder, who has impressed during pre-season finding the net for both the senior squad and the revived reserves. Came through the Porthmadog Juniors set-up.
Has now joined Nantlle Vale. Good luck Zac |
MABON OWEN
DG / DOB: 25/01/2007 |
Chwaraewr ifanc efo sgiliau da a digon o gyflymder. Gwnaeth ei ymddangosiad Cymru North cynta yn 16 oed y tymor diwetha' fel eilydd. Cafodd hefyd dymor llawn i’r Tîm Datblygol yn 2023/24. Cychwynodd i’r tîm cynta am y tro cynta’ y tymor hwn yn erbyn Amlwch yng Nhwpan Cymru
A talented, very promising skilful and pacey young player. Made his sub Cymru North debut last season as a 16 year-old. Also played a full season for the Development Squad in 2023/24. His first start for the senior team came this season in the Welsh Cup tie with Amlwch Town. |
|