|
|||
English Cymraeg / Welsh Ffurfiwyd CPD Porthmadog, un o glybiau hynaf Cymru, yn 1872. Am flynyddoedd bu’r clwb yn arddel y syniad mai yn 1884 cafodd y clwb ei ffurfio ond mae ymchwil diweddar wedi lluchio allan y ddamcaniaeth yna. ‘Roedd y clwb yn aelodau cychwynnol o’r Cambrian League yn 1896 gan orffen yn ail i Tywyn ond wedyn ar ól un tymor yng Nghynghrair Sir Gaernarfon ymunwyd á Chynghrair Arrfordir y Gogledd yn 1902/03 gan sicrhau’r teitl ar yr ymgais gyntaf ond ni enillwyd pencampwriaeth arall tan Cynghrair Cymru (y Gogledd) yn 1937/38 pan hefyd enillwyd Cwpan Cookson a Chwpan Amatur Gogledd Cymru. Cynt, yn 1905-06, cyrhaeddodd y clwb rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru. Yn 1934/35 enillwyd Cwpan Alves. Roedd y '50au, '60au a'r '70au yn ddegawdau llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Daeth mwy o lwyddiant i'r Traeth yn y chwedegau wrth i’r clwb arwyddo Mel Charles. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) tri thymor yn olynol rhwng 1966 ac 1969. Hefyd yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ar y Vetch o flaen torf o 10,941. Yn ystod y saithdegau bu i'r clwb fwynhau llwyddiant eto drwy ennill Cynghrair Cymru (Gogledd) yn 1974, a colli dim ond unwaith ar y ffordd i frig y tabl, i ffwrdd i Pwllheli. Buont yn bencampwyr eto y tymor canlynol, ac yn ail yn 1976/77 a 1977/78 ac yn drydydd y tymor wedyn. Roedd arwyr megis Ted Turner,, Steve Joel, Jimmy McCarthey, Steve Woodin ac amddiffynwr amlwg Roly Evans yn aelodau blaenllaw o'r timau buddugoliaethus yma. Bu hi dros ddeg mlynedd nes i Port gyrraedd y brig wedyn yn y Welsh Alliance. Yn 1990, ymunodd Port â chynghrair newydd y Cymru Alliance, ac yna yn 1992 roedd Port yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Pêl-droed Cymru. Sicrhawyd fod y stadiwm yn cyrraedd y safonau angenrheidiol a gyda Meilir Owen yn rheolwr gorffenodd Port eu tymor cyntaf yn 9fed. Roedd llawer o'r diolch, am y llwyddiant i goliau Dave Taylor. Aeth Dave ymlaen, yn ei ail dymor, i fod yn brif sgoriwr y Gynghrair ac hefyd Ewrop. Yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb, sgoriodd 62 o goliau mewn 66 gêm. Llwyddodd Marc Lloyd Williams a Dave Taylor rwydo 70 o goliau rhyngddynt yn nhymor 1993/4 ond unfed ar ddeg oedd Port. Llwyddwyd hefyd i dorri record arall sef torf uchaf' y Gynghrair Genedlaethol. Sicrhaodd Bangor y bencampwriaeth o flaen torf o 2,500 ar Y Traeth. Profodd y trydydd tymor yn un anodd gan lwyddo o drwch blewyn yn unig i aros i fyny. Dechreuodd y tymor gyda chyn chwaraewr Cymru, Ian Edwards yn rheolwr a wedyn Mickey Thomas, cyn chwaraewr Man. U., Wrecsam a Chymru yn cymryd drosodd. Apwyntiwyd Colin Hawkins i swydd y rheolwr ar ddechrau 1995/96. Digwyddiadau oddi ar y cae hawliodd y sylw gyda thrafferthion ariannol yn bygwth dyfodol y clwb. Ail lansiwyd y clwb fel cwmni cyfyngedig ac achubwyd y sefyllfa pan godwyd £10,000 o bunnoedd drwy werthu cyfranddaliadau. Yn 1996/97, gyda'r sefyllfa ariannol yn gwella, cafodd y tîm ddechrau arbennig i'r tymor. Ni gollwyd gêm gartref tan y flwyddyn newydd a, phan ddaeth Y Barri i'r Traeth, roedd y gêm rhwng ail a phedwerydd. Un o'r chwaraewyr, a gyfrannodd fwyaf at y cychwyn hwn, cyn iddo adael y clwb i ymuno â Wrecsam am £10,000, oedd Paul Roberts. Gorffennodd y clwb y tymor yn y degfed safle ond enillwyd Cwpan Her Arfordir y Gogledd. Yn 1998/99, yn ôl yn y Cymru Alliance. gorffennodd Port yng nghanol y tabl ond llwyddwyd i gipio Cwpan y Gynghrair. Yn dilyn ymadawiad Colin Hawkins cymrodd Viv Williams yr awenau gan orffen yn bumed yn 1999-2000. Wrth i Viv ac Osian Roberts adeiladu tîm newydd, codwyd gobeithion y cefnogwyr fod y dyddiau da ar fin dychwelyd i'r Traeth. A dyna sut y bu, wrth i Port gael un o’r tymhorau gorau yn eu hanes yn 2002-03. Enillwyd pob gêm gartref trwy gydol y tymor. Dyrchafwyd Port i Uwch Gynghrair Cymru gyda mantais o 19 pwynt ar frig y Gynghrair Undebol. Ychwanegwyd dwy gwpan (Cwpan Her y Gogledd a Chwpan y Gynghrair) at eu llwyddiannau. Gyda Viv Williams ac Osian Roberts yn ffurfio’r bartneriaeth rheoli a hyfforddi, camodd Porthmadog yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru gan orffen yn 12fed yn 2003-04. Yn y tri tymor canlynol, gorffen yn 11eg oedd yr hanes ac yn 2006-07 cyrhaeddwyd rownd gyn derfynol Cwpan y Gynghrair. Daeth cyfnod llwyddiannus Viv ac Osian wrth y llyw i ben ar ddiwedd 2006-07 gyda ymadawiad Osian i swydd flaenllaw gyda’r Gymdeithas Bêl Droed a Viv yn ymddiswyddo ar ôl 7 mlynedd gyda’r clwb. Dilynwyd hyn gyda cyfnod o ansicrwydd â’r canlyniadau’n dioddef o’r herwydd. Yn ystod y tri thymor 2007-10 bu 4 rheolwr gwahanol wrth y llyw gyda Clayton Blackmore yn colli ei swydd ar ôl ychydig fisoedd ac yn ôl daeth Viv Williams, dros dro, i helpu’r clwb gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair. Byr fu cyfnod Paul Whelan yn y swydd cyn i’r profiadol Tomi Morgan ddod yn rheolwr gan lwyddo i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair yn 2008/9, unwaith eto o drwch blewyn. Ond gyda adrefnu’r Uwch Gynghrair a chwe chlwb yn colli eu lle nid oedd dihangfa y tro yma ac ar ddiwedd 2009/10 disgyn i’r Cymru Alliance oedd yr hanes. Yn 2010 apwyntiwyd Gareth Parry yn rheolwr i ddilyn Tomi Morgan. Bu Gareth yn y swydd am 4 tymor gyda’r 4ydd safle yn 2011/12 y gorau ac yn 2013/14 cyrhaeddwyd rownd wyth olaf Cwpan Cymru. Ar ddechrau 2014/15 apwyntiwyd Craig Papirnyk, a bu yn y swydd am 9 tymor heblaw am gyfnod byr pan roedd Sion Eifion yn y swydd. Gorffennodd y clwb yn 4ydd yn 2016/17 ac yn 3ydd yn 2018/19. Ond ar ddiwedd tymor 2019/20 gostwng i’r 3ydd Haen oedd yr hanes gyda’r safleoedd yn y tabl yn cael eu penderfynu yn ôl trefn ‘pwyntiau y gêm’ oherwydd y pandemig Covid-19. Oherwydd y pandemig hefyd, ni chwaraewyd yr un gêm yn 2020/21 Ar ôl dim ond un tymor yn yr Ardal North West arweiniodd Craig Papirnyk y clwb yn ôl i’r Ail-haen drwy'r drefn ail-gyfle a dathlwyd 150 mlynedd o fodolaeth, 1872-2022, yn ôl yn y Cymru North. Yn dilyn dau dymor anodd yn ôl yn yr Ail-haen gostwng eto wnaeth Port ar ddiwedd 2023/24. Cymrodd Steve Williams le Craig Papirnyk yn Ionawr 2024 ond ni lwyddwyd i osgoi’r cwymp. Apwyntiwyd Chris Jones yn reolwr ar gyfer tymor 2024/25. Saesneg / English Porthmadog Football Club, one of the oldest in Wales, was founded in 1872. For many years the club promoted the notion that it was formed in 1884.Recent research has debunked this theory and indicates that the club was in fact formed in 1872. They were inauagural members of the Cambrian League in 1896 finishing runners-up to Tywyn and after one season in the Caernarvonshire District League joined the North Wales Coast League in 1902/03 and were champions at the first attempt. Though the club reached the final of the Welsh Amateur Cup in 1905 -06 they had to wait until 1937-38 before they gained another championship, winning the Welsh League (North) and going on to complete the treble by also winning the Cookson Cup and the North Wales Amateur Cup. The 1930s also saw them win the Alves Cup in 1934/35 The '50s, '60s and '70s were highly successful decades for Port. The Welsh Amateur Cup was won in 1955/56 and 1956/57. The arrival of Mel Charles heralded more success. Port were league champions in three successive seasons between 1966 and 1969. Also in 1966, they played against Swansea in the Welsh Cup at the Vetch, before a crowd of 10,941. In the seventies the club enjoyed unparalleled success, winning the Welsh League North in 1974/75, being beaten only once to the title by Pwllheli and District away. They were champions again the following season. They ended up runners up the following two seasons and third in 1978/79. The championship winning sides included players like Ted Turner, Steve Joel, Jimmy McCarthey, Steve Woodin and defensive linchpin Roly Evans. It was not until 1989/90 that the club topped the Welsh Alliance, which was formed after the demise of the Welsh League North.This secured Port a place in the newly formed Cymru Alliance (1990). In 1992, Port became inaugural members of the League of Wales. Ground improvements were made and thanks to a late surge, the team, with Meilir Owen as manager, finished in a creditable 9th place in their first season. This was largely thanks to free scoring striker Dave Taylor. Dave went on, in his second season, to become the league's top scorer as well as Europe’s highest. During his spell at the club, he scored 62 goals in 66 games. Dave Taylor and Marc Lloyd-Williams between them netted 70 goals, in the 1993-4 season as they finished in 11th spot. Port broke another record - the highest League of Wales attendance. A crowd of 2,500 came to see Bangor clinch the league title. The 1994/95 season started with ex-Wales International, Ian Edwards as manager but a slide down the table saw Mickey Thomas, ex-Man. U., Wrexham and Wales, take charge. The situation did not improve and the club came close to being relegated. For the 1995/96 season Colin Hawkins was promoted to the manager's job but financial difficulties claimed most of the attention. The danger of folding was averted thanks to a re-launch of the club as a limited company and £10,000 was raised through the sale of shares. In 1996/97, with the financial situation improved, the team had a fine start to the season. No home game was lost until the New Year and, when champions Barry came to the Traeth, it was second against fourth. One of Port's most influential players was Paul Roberts. Before leaving the club to join Wrexham for £10,000, he had played for Wales Under-21 and was the league's leading scorer. Port finished in tenth place but lifted the North Wales Coast Challenge Cup. In the 1997/98 season, Port's time in the League of Wales came to an end following a poor run of form towards the end of the season. League re-organisation meant that Porthmadog lost their WPL status despite ending the season 4 places from the bottom. In 1998/99, now back in the Cymru Alliance, Port were League Cup winners and the following season managed 5th spot thanks to a late run after Viv Williams had taken over as manager. Viv, together with Osian Roberts, re-built the team and 2002-03 proved to be one of the most successful in the history of the club. Every home game was won and they returned to the WPL with a 19 points advantage over their nearest rivals. Port also lifted the League Cup and North Wales Coast Challenge Cup. Under the management of Viv Williams and Osian Roberts, the club took the step back into the WPL and finished season 2003/04 in 12th position. In the following three seasons, they finished in 11th place and. in 2006/07, the club reached the semi-final of the League Cup. With the departure of Osian to a senior coaching position at the FAW and Viv deciding to call it a day after 7 years at the helm, the club entered a period of uncertainty and results consequently suffered. During the three seasons 2007/10 the club had four different managers with Clayton Blackmore being dismissed after a few months and Viv Williams returning to take temporary charge helping the club to retain its WPL status. Paul Whelan became the third manager to fall by the wayside to be replaced by the experienced Tomi Morgan. Though the club once more narrowly retained its WPL place in 2008/09 league reorganisation meant that six clubs were relegated in 2009/10 and this time there was no hiding place for Port as they were demoted to the Cymru Alliance. Following relegation Gareth Parry succeeded Tomi Morgan as manager and served for four seasons with a 4th place finish in 2011/12 proving his best. In 2013/14 they reached the quarter final of the Welsh Cup. Craig Papirnyk became manager in 2014/15 and served the club for 9 seasonsapart from a short period when Sion Eifion took charge. The club finished in 4th place in 2016/17 and 3rd in 2018/19. But season 2019/20 was curtailed owing to the Covid-19 epidemic and the club were relegated to the 3rd Tier on a ‘points per game’ basis. Season 2020/21 had to be abandoned in it’s entirety due to the pandemic After a season in the Ardal North West Craig Papirnyk led Port back to Tier 2 via a play-off. In 2023 the club celebrated 150 years of it's existence, 1872-2022, After two difficult seasons back in the Cymru North the club were relegated again at the end of 2023/24. Though Steve Williams had replaced Craig Papirnyk in January 2024 the run of poor results could not be arrested. Chris Jones was appointed to the post of manager for the 2024/25 season. |
|||
|