|
|||
Cadeirydd yn galw am ariannu teg “Resolve this Academy discrepancy,” says Chairman Saesneg / English “Mae yna annhegwch sylfaenol yn y driniaeth mae’r 11 academi, sydd tu allan i Uwch Gynghrair Cymru (UGC), yn ei dderbyn a’r math o gefnogaeth ariannol sy’n cael ei roi i’r 12 academi UGC.” Dyna farn Cadeirydd Porthmadog, Phil Jones. Mae o’n mynd ymlaen i ddweud, “Yn syml iawn tra fod y 12 clwb UGC yn derbyn £20,000 pob tymor at eu academïau nid yw’r gweddill, yr 11 academi arall, yn derbyn yr un ddimai goch. Does yna ddim math o gyfiawnhad am y gagendor hwn, gan fod pob academi yn bodoli i roi’r hyfforddiant gorau posib i’n ieuenctid.” Mae’n ychwanegu, “Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford, ‘... fod yr arian sydd wedi’i fwriadu i’w wario yn uniongyrchol ar yr academïau ddim o anghenraid yn gorffen cant y cant yn cael ei wario dim ond ar hynny.’ Sut felly mae hyn yn cyd fynd gyda honiad y Prif Weithredwr wrth Bwyllgor y Cynulliad, fod ‘.... academïau yn gwbl hanfodol i lwyddiant pêl-droed.’? “Eto pan fydd clybiau yn gwneud cais am Drwydded Ddomestig,” meddai Phil, “bydd disgwyl i glybiau tu allan i UGC fod ac Academi llawn yr un fath a’r 12 yn yr Uwch Gynghrair. Tan fod yna degwch, dylai’r Gymdeithas Bêl-droed ystyried adolygu’r rheolau a hepgor y disgwyliad i’r clybiau tu allan i UGC ddarparu Academi, tan eu bod yn sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ac yn medru hawlio grant llawn. Os nad yw hyn yn bosib, dylid cyfyngu i ddau dîm yn lle’r tri presennol gan fyddai hyn hefyd yn lleihau’r costau.” Mae Phil yn gwadu unrhyw feirniadaeth ei fod yn chwilio am arian hawdd, “Nid mater o ofyn am gardod a disgwyl i’r Gymdeithas Bêl-droed helpu allan ydy hyn. Mae clybiau tu allan i UGC yn brysur yn codi arian at amrywiaeth o bwrpasau ac er mwyn cael arian at yr Academi mae CPD Porthmadog wedi agor siop yng nghanol y dref, yn gwerthu nwyddau newydd ac ail law. Bydd angen lleiafswm o £5,000 at yr Academi a bydd codi hyn, yn ogystal â’r holl alwadau eraill am arian ac amser, yn gryn gamp.” Ond mae disgwyl i’r 11 tu allan i UGC fyw gyda’r gwahaniaeth sy’n bodoli rhwng y rhai breintiedig a’r rhai difreintiedig. “Mae Academïau UGC yn medru cynnig cit newydd i’w ieuenctid a tripiau ac yn talu am y math o gyfleusterau teithio mae’r 11 tu allan yn methu fforddio,” meddai Phil. “Dylai’r ieuenctid mewn ardal wledig dderbyn yr un math o gyfleoedd. Ac mae gwir angen Academi ym Mhorthmadog er mwyn i ieuenctid Llŷn ac Eifionydd a Meirionnydd gael eu cyfle.” Mae’r ffaith fod pedwar o’r chwe clwb yn Rowndiau Terfynol yr Academi yn y Drenewydd yn academïau tu allan i UGC yn cadarnhau barn Phil am bwysigrwydd yr academïau yma i ddatblygiad y gêm, fel mae’r Gymdeithas ei hun wedi amlinellu yn ei dogfen y ‘Cynllun Strategol’. Ychwanegodd Phil, “Mae rhieni a chonsyrn mawr am y gagendor sy’n bodoli ac mae un rhiant yn teimlo ddigon cryf am y sefyllfa i sgwennu at y Gymdeithas Bêl-droed. Mae disgwyl i academïau yr 11 gadw at yr union un rheolau a’r clybiau WPL ac, mewn cyfnod lle mae costau ar gynnydd, mae’r pwysau ar rhieni yn fwy mewn ardal wledig am fod mwy o deithio ac felly mwy o gostau. Gair olaf Phil i’r Gymdeithas Bêl-droed oedd, “Medrwch chi ddim dal ati i guddio tu ôl i’r esgus fod yr arian a dderbynnir wrth UEFA ar gael i glybiau UGC yn unig. Rhaid ichi setlo’r broblem neu dod o hyd i ffordd o’i chwmpas. Mae’r 11 tu allan i UGC y haeddu gwell na chydymdeimlad gan fod eu record yn siarad cyfrolau.” “Resolve this Academy discrepancy,” says Chairman “There is a basic unfairness in the way the 11 academies outside the WPL are treated in comparison with the kind of financial backing received by the 12 WPL club academies,” is the view expressed by Porthmadog Chairman, Phil Jones. He goes on to say, “The simple facts are that while the 12 WPL clubs each receive £20,000 to operate their Academies every season, the other 11 non-WPL Academies receive absolutely nothing. There can be no justification for such a discrepancy, as all academies exist to provide youngsters with the best coaching we can provide. ” He adds “Jonathan Ford has gone on record stating ‘...that money intended to be spent directly on academies doesn’t necessarily 100% end up being spent just on that.’ How does that match up with the FAW’s Chief Executive’s assertion to the Welsh Assembly Committee that, ‘Academies are absolutely fundamental to the success of football.’ “Yet when clubs apply for a Domestic License,” he says “clubs outside the WPL are expected to have a fully fledged Academy just like their counterparts in the WPL. Until a level playing field is provided, the FAW should consider revising their rules and perhaps exempt non-WPL clubs from having to provide an Academy until they themselves are promoted to the WPL and become eligible to receive the full grant. Failing that the demand could be reduced to maybe providing two Academy teams instead of three.” Phil Jones denied any accusation of looking for easy money, “It is not a case of holding out our begging bowls and expecting the FAW to provide. Non-WPL clubs are actively raising money for a wide range of purposes and in an attempt to provide funds for the Academy, Porthmadog FC have opened a shop in the centre of Porthmadog selling a range of new and second hand goods. A minimum of £5,000 is needed to operate an Academy and even with our best efforts raising that amount will be quite an achievement bearing in mind all the other demands on both time and money.” But non-WPL Academies are having to live with the gulf that exists between the haves and have nots. “WPL Academies are able to offer youngsters new kit, trips and can spend on the kind of transport for matches which non-WPL Academies cannot afford,” says Phil. “Youngsters in rural areas deserve the same opportunities and the Porthmadog Academy is needed to give the youngsters in Llŷn and Eifionydd and Meirionnydd their opportunity.” The fact that four of the six clubs at Academy Finals Day in Newtown were non-WPL academies seems to confirm Phil’s view of the importance of these academies to developing the game as outlined in the FAW’s own ‘Strategic Plan’. Phil added, “Parents are concerned about the gulf and one of our Academy parents has felt strongly enough to write to the FAW. Non-WPL academies are subject to exactly the same regulations and in a period of rising costs, pressure on parents is increased and in a rural area travelling distances and therefore costs are greater.” In a final reminder to the FAW, Phil said, “They cannot go on hiding behind the pretext that the monies they receive from UEFA can only be handed out to WPL clubs. They must resolve the problem and find a way round the difficulty. The 11 non-WPL Academies deserve more than sympathy as their record speaks for itself.” |
|||
|