|
|||
Clayton Blackmore: Y Rheolwr Clayton Blackmore: The Manager Saesneg / English Ymunodd Clayton Blackmore â CPD Porthmadog fel chwaraewr o glwb Bangor ym mis Tachwedd 2006 ac ar ôl chwarae15 o weithiau iddynt mae wedi cymryd yr awenau fel rheolwr gan olynu y bartneriaeth lwyddiannus sef Osian Roberts a Viv Williams. Ganwyd Blackmore yng Nghastell Nedd ac mae wedi cael gyrfa broffesiynol arbennig gan ymuno â Manchester United fel hogyn ysgol gan gynrychioli ei wlad ar lefel ysgol a ieuenctid cyn mynd ymlaen i ennill 39 o gapiau llawn i Gymru. Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf fel eilydd yn erbyn Norwy yn 1985 a hyn ar ôl ond dwy gêm i dîm cyntaf Manchester United. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r clwb hwnnw yn 1984 ac aeth ymlaen i’w cynrychioli 219 o weithiau gan sgorio 26 gôl. Mae’n chwaraewr amryddawn yn gallu llenwi unrhyw safle yn yr amddiffyn neu yng nghanol y cae -dawn a oedd hefyd yn gweithio yn ei erbyn wrth iddo geisio sicrhau lle rheolaidd yn y tîm. Yn 1990, enillodd fedal Cwpan Lloegr a’r flwyddyn wedyn medal Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop am ymddangosiad fel eilydd yn erbyn Barcelona. Gadawodd Man Utd ym Mai 1994 gan ymuno â Bryan Robson yn Middlesbrough. Wedyn yn 1999 symudodd i Barnsley ac wedyn i Notts County a Rushden and Diamonds. Yn 2001, ymunodd â chlwb Bangor gan ymddangos 161 o weithiau i glwb Ffordd Ffarar. Dilynodd Peter Davenport fel rheolwr ar Ffordd Ffarar. Trwy gyfnod Mark Hughes yn rheolwr Cymru, cafodd Blackmore rôl bwysig yn y tîm hyfforddi. Mewn cyfweliad ag Adran Chwaraeon y BBC, awgrymodd y byddai’n dal ati i chwarae ond, gan ei fod wedi honni fod gwneud y ddwy swydd yn anodd pan oedd gyda Bangor, bydd rhaid aros i weld sut bydd pethau’n datblygu. Bydd yn dda gan gefnogwyr glywed ei fod yn bwriadu dal at y polisi o ddefnyddio a datblygu chwaraewyr talentog, lleol. Mae Port eisoes wedi elwa o brofiad Blackmore ar y cae a rwan edrychwn ymlaen iddo ddefnyddio’i brofiad fel chwaraewr ac fel hyfforddwr ar y maes ymarfer. English Clayton Blackmore joined Porthmadog FC as a player in November 2006 from Bangor City and having made 15 appearances for the club during season 2006-07 he now becomes their manager succeeding the successful duo of Osian Roberts and Viv Williams. Blackmore, born in Neath, has enjoyed a distinguished professional career joining Manchester United on schoolboy forms and then having played for Wales at schoolboy and youth levels he went on to represent his country on 39 occasions. He made his Wales debut as a substitute against Norway in 1985 after only two first team appearances for Manchester United. His debut for his club came in 1984 and he went on to make 219 appearances for them scoring 26 goals. A versatile player he was able to fill any defensive or midfield role sometimes to his detriment in so far as nailing down a secure position for himself. In 1990, he gained a FA Cup winner’s medal and a year later a European Cup-winners Cup medal for a substitute appearance against Barcelona. He left Manchester United in May 1994 becoming Bryan Robson’s first signing at Middlesbrough. From there, he moved on to Barnsley in 1999 and also appeared for Notts County and Rushden and Diamonds. In 2001, he joined Bangor City for whom he made 161 WPL appearances. He followed Peter Davenport as manager at Farrar Road. Throughout Mark Hughes’s period as Wales’ manager he was given an important role in the coaching set-up. In an interview with BBC Sport, he suggested that he might carry on playing for Porthmadog but, since he claimed doing both jobs at Bangor was something of a burden, we will have to wait and see. Fans will be pleased to hear that he intends continuing with his predecessors’ policy of giving talented local players their opportunity. Blackmore’s experience has already benefited Porthmadog on the field and we can now expect him to bring this to bear on the training ground. |
|||
|