Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Cynghrair i Ail Dimau - dim datblygiad?
No news on Reserve League?

Saesneg / English

Gyda ond 8 mis yn weddill mae’n ymddangos nad oes unrhyw ddatblygiad ynglyn â ffurfio cynghrair i ail-dimau yng Ngwynedd a Môn ar gyfer 2010/2011. Mae’r angen yn codi o benderfyniad y Gymdeithas Bêl-droed i rwystro ail-dimau rhag chwarae yn y pyramid -o’r tymor nesaf ymlaen.

Efallai fod y penderfyniad yn un doeth ond fel llawer penderfyniad arall mae’n gadael gormod o gwestiynau heb eu hateb. Beth yw bwriadau’r Gymdeithas? Pwy sy’n gyfrifol am drefnu cynghrair newydd? Ai cyfrifoldeb Cymdeithas yr Arfordir ydyw neu cyfrifoldeb Cynghrair Gwynedd neu efallai rhywun arall? Ydy’r Gymdeithas yn gweld ail-dimau â rhan bwysig wrth ddatblygu chwaraewyr?

Symudodd Cynghrair Clwyd yn gyflym yn y Gogledd Ddwyrain a threfnu cynghrair gyda 10 o glybiau ar gyfer y tymor presennol. Ffurfiwyd y gynghrair ar ôl cyfarfod a gynhaliwyd mor gynnar a Hydref 2008! Mae’r gynghrair yn cynnwys ail-dimau 3 chlwb UGC, 3 chlwb Cymru Alliance, a 4 clwb Welsh Alliance.

I fod yn ddefnyddiol rhaid i’r gynghrair newydd gyfarfod criteria arbennig. Dylai fod yn ddigon cryf i sicrhau fod chwaraewyr ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu a dylai hefyd fod o safon derbyniol i chwaraewyr ymylol y tîm cyntaf ac i’r rhai sy’n dychwelyd ar ôl anaf.

Ar hyn o bryd mae dau glwb ac ail dîm yng Nghynghrair Gwynedd (Porthmadog a Chaergybi). Mae ail dîm Bangor ar y blaen yn Adran1 Cynghrair Caernarfon a’r Cylch, gyda ail-dimau Nefyn, Llanrug, Blaenau Ffestiniog a Llanystumdwy hefyd yn y gynghrair honno. Yn yr ail adran mae ail-dimau Pwllheli, Bermo, Bethesda a Phrifysgol Bangor. Mae ail-dîm Llanfairpwll yn chwarae yn Nghynghrair Môn. Mae hynny yn gyfanswm o 13 o glybiau ond rhaid cyfaddef ni fyddai cynghrair fel hon yn cyfarfod â’r gofynion uchod.

Yn ddelfrydol dylai’r gynghrair gynnwys ail-dimau clybiau UGC a’r Cymru Alliance. Os ydy’r gynghrair hon i fod yn barod ar gyfer y tymor nesaf bydd yn rhaid gweithredu rwan.

Efallai mai’r dewis gorau i glybiau sydd o ddifri am greu cynghrair addas ydy cael trafodaethau gyda Chynghrair Clwyd gan ei bod yn edrych mai hwn yw'r opsiwn gorau i ddatblygu cynghrair o safon.



No news on Reserve League?

With only 8 months to go it appears that there have been no developments in providing reserve teams in Gwynedd and Anglesey with a suitable competition for 2010/11. This follows the FAW decision to exclude club reserve teams from the pyramid next season.

The decision to exclude reserve teams could well be a wise one but leaves too many loose ends. What does the FAW intend will happen? Who is responsible for organising a reserve league in the North West? Is it the area association or the Gwynedd League or someone else? Does the FAW see a reserve league as an important step in player development?

The Clwyd League moved promptly in the North East and organised a league with 10 clubs which is already up and running for the current season. This followed a meeting held as early as October 2008. The league consists of the reserve sides of 3 WPL clubs, 3 CA clubs and 4 Welsh Alliance clubs.

A Reserve League to be useful needs to meet certain criteria. It should be strong enough to provide scope for player development and should be of an acceptable standard for fringe first team players and those returning from injury.

Currently there are only two reserve sides in the Gwynedd League (Porthmadog and Holyhead). Bangor Res lead the Caernarfon and District Div 1 with Nefyn, Llanrug and Blaenau Ffestiniog and Llanystumdwy also having teams in that league. In Div 2 are the reserves of Pwllheli, Barmouth, Bethesda and Bangor University. Llanfairpwll Res play in the Anglesey League. That makes a total of 13 reserve sides but should these form a league it would hardly meet the above criteria.

Ideally the reserve league should consist of the reserve teams of WPL and Cymru Alliance clubs. If a suitable league is to materialise before next season then those in authority need to take action.

Perhaps a better option would be for clubs who are concerned about the future of their reserve teams to open negotiations with the Clwyd League as that would appear to best chance of providing a league of suitable strength.





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us