|
|||
Tawelwch mawr am y Gynghrair Ail Dimau All quiet on the Reserve League Saesneg / English Gyda Ail Dimau yn cael eu rhwystro rhag chwarae mewn cynghrair uwch na’r 4ydd lefel mae clybiau yn y Gogledd Orllewin yn aros i glywed beth sydd gan Cymdeithas Arfordir y Gogledd i gynnig ar gyfer y tymor nesaf. Ond gyda’r gymdeithas honno mewn cryn drafferthion ac heb swyddogion, does yna fawr all ddigwydd yn sydyn o’r cyfeiriad yna. Rhaid gofyn felly pam y gwrthododd Cymdeithas yr Arfordir i Port chwarae yn Uwch Gynghrair Ail Dimau Clwyd. Hon oedd yr unig gynghrair oedd ar gael o’r safon priodol. Hefyd daeth y penderfyniad yn hwyr yn y dydd, a hynny mae’n debygol er mwyn ceisio cynnal Cynghrair Gwynedd. O ganlyniad i’r dryswch a achoswyd gan benderfyniad hwyr Cymdeithas yr Arfordir arwyddodd chwaraewyr yr Ail Dîm i glybiau eraill. Golyga hyn nad oedd yn bosib i Port gael ail dîm ar gyfer tymor 2010/11. Ond mae’r amser yn mynd heibio ac mae’n hen bryd i rhywbeth ddigwydd er mwyn cael cynghrair addas mewn lle i ail dimau yn 2011/12. Diffyg Ail Dîm oedd y rheswm am benderfyniad Borthmadog i beidio gwneud cais am Drwydded Ddomestig yn ystod y tymor hwn. Doedd y penderfyniad yn ddim i wneud a ‘diffyg uchelgais’ fel yr awgrymwyd gan un o uchel swyddogion y Gymdeithas Bêl-droed –un a ddylai wybod yn well. Dyma ddywed rheolau’r Drwydded Ddomestig: Dylai’r ymgeisydd am drwydded gael isafswm o’r timau ieuenctid canlynol yn rhan o’u trefn gyfreithiol a) dau dîm ieuenctid yn yr amrediad oed 15-21 Rhaid i’r timau ieuenctid gymryd rhan mewn cystadlaethau neu rhaglenni sydd yn cael eu cydnabod gan y gymdeithas genedlaethol ac yn cael eu chwarae ar lefel genedlaethol, daleithiol neu lleol. Rhaid i bob chwaraewr gael ei gofrestru yn genedlaethol neu/ac yn daleithiol Dim ond un tîm sydd gan Port yn yr oed 15-21 ac heb ail dîm nid oedd yn bosib sicrhau tîm D19 i chwarae yng Nghwpan Ieuenctid Cymru. Os ydy Port am wneud cais am Drwydded Ddomestig y flwyddyn nesaf bydd rhaid adfer yr ail dîm. Yn anffodus mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn gwneud penderfyniadau heb sicrhau fod y strwythur angenrheidiol mewn lle, yn is lawr yr ystôl bêl-droed yn Nghymru. Cyn cyflwyno’r newidiadau rhaid cael y strwythur i glybiau a chwaraewyr ddatblygu.. Mae Uwch Gynghrair Cymru yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ffurfio cynghrair D19. O gyflwyno hyn yn y gogledd, fel mae rhai yn gynnig, gellir cynnwys clybiau UGC a HGA. Nid yw’n bosib gorbwysleisio pwysigrwydd cynghrair ail dimau neu D19 (gyda’r hawl i gynnwys 2/3 o chwaraewyr dros oed). Byddai cynghrair o’r fath, ar gaeau da, yn werthfawr wrth ddatblygu chwaraewyr ifanc ac yn sicrhau ffitrwydd y chwaraewyr carfan. Os na fydd cynghrair o’r fath yn gweld golau ddydd dylid caniatáu i Port chwarae yn Uwch Gynghrair Ail Dimau Clwyd. Gwrthodwyd mynediad i’r gynghrair yng Nghlwyd i Gonwy hefyd, a hynny mewn amgylchiadau tebyg iawn i bantomeim. Mae Conwy rŵan yn chwarae yng Nghynghrair Caernarfon a’r Cylch. Os na fydd cynghrair bwrpasol i ail dimau yn cael ei ffurfio, cychwyn ar waelod y pyramid fydd hanes Port hefyd. Dylai’r rhai mewn awdurdod sylweddoli fod eu cymdeithasau yn bodoli i wasanaethu pêl-droed yng Nghymru, a’r clybiau yn eu hardaloedd. Un gair o rhybudd wrth Phil Jones y cadeirydd. Bydd adfer yr Ail Dîm yn dyblu’r traul ar y cae. Golyga hyn hefyd dyblu gwaith y grŵp bach sy’n edrych ar ôl y cae er mwyn cadw’r safon uchel. Yr unig ffordd i hwyluso’r gwaith ydy i fwy o wirfoddolwyr ddod ymlaen i gynorthwyo yn y gwaith o drin y cae. All quiet on the Reserve League With reserve teams now excluded from the pyramid above the fourth level, clubs in the North West of Wales have been expecting to hear what the North Wales Coast FA have planned for them. But with that organisation in disarray and without officials we cannot expect an early move from that direction. It begs the question as to why the NWCFA refused Porthmadog entry into the Clwyd Reserve Premier League, the only reserve league of a suitable standard available to them. This decision came very late in the day in order to prop up the ailing Gwynedd League. The confusion caused by the lateness of the NWCFA decision led to most Port reserve players signing for other clubs and has meant that Port have been unable to field a reserve team during 2010/11. Time passes and if a suitable Reserve League is to be in place by 2011/12 then prompt action needs to be taken. The lack of a reserve team has meant that Porthmadog have been unable to apply for a Domestic License in the current round. It was in no way due to ‘a lack of ambition,’ as was suggested by a high ranking FAW official who should have known better. The Domestic Licensing Rules state: The licence applicant must at least have the following youth teams within its legal entity or affiliated to its legal entity: a) at least two youth teams within the age range of 15 to 21; The youth teams in the above age ranges must take part in official competitions or programmes recognised by the national association and played on national, regional or local level. Each youth player of those teams must be registered either on national and/or on regional level. Port have only one team in the 15-21 age group and without a reserve team there was no possibility of forming an U19 team for entry into the FAW Youth Cup. If Port are to apply next season for a Domestic Licence then they will need to re-form their Reserve team. Unfortunately the FAW make decisions but fail to ensure that the necessary structure exists lower down the Welsh football ladder to implement the changes needed for clubs and individuals to develop. The Welsh Premier is exploring the possibility of an U19 league. If this was introduced, as some suggest, on a regional basis a league could be formed to include both WPL and HGA clubs. The importance to player development of a reserve or U19 league (with 2/3 over age players allowed) cannot be underestimated. Such a league, played on decent pitches, could be of great value in both player development and fringe player fitness. If this league does not materialise then Port should be allowed to enter the Clwyd Premier Reserve League for 2011/12. Conwy United like Port were refused entry to this reserve league and that in circumstances more akin to a pantomime. They have been forced into the Caernarfon and District League. Port likewise, in the absence of a reserve league, could be made to start at the bottom of the pyramid. Those in authority should realise that their regional associations exist to serve Welsh football and the clubs within their area. A word of warning comes from the chairman, Phil Jones. Reforming the reserve team means doubling the amount of wear and tear on the pitch at the Traeth. It will also mean doubling the amount o work needed to maintain the high quality surface. The work at present is being done by a very small group and, should the reserve team be re-established, then ensuring more volunteers becomes essential. |
|||
|