Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Cynghrair Dwy Adran / Two Division league

Saesneg / English

John DeakinMae’r siawns o weld newid yn Uwch Gynghrair Cymru wedi symud cam mawr yn agosach wrth i Fwrdd y gynghrair gyhoeddi newidiadau ysgubol i strwythur y gynghrair. Cynghrair uwch o 10 clwb gyda ail lefel o ddeg clwb oddi tano ydy’r cynigion. Byddai’r clybiau yn chwarae ei gilydd 4 gwaith y tymor fel sydd yn digwydd yn y gynghrair yn yr Alban. Byddai gêmau ‘play-offs’ rhwng y clybiau ar waelod yr adran uwch a’r clybiau ar ben yr ail adran i benderfynu dyrchafiad.
Eglurodd John Deakin y feddylfryd tu ôl i’r newidiadau arfaethedig.
“Mae’r gynghrair wedi cyrraedd tir gwastad ac mae angen ail frandio radical er mwyn gwella safon y cynnyrch.
“Y rationale tu ôl hyn ydy cael y 10 clwb o’r safon orau yn cychwyn yn yr adran uwch.
“Dim yn unig safon y chwarae ond hefyd safon y stadiwm a sut mae’r clwb yn cael ei redeg ac hyd yn oed –os caf fentro dweud- faint o bobl sy’n mynd drwy’r giât.
“Pwrpas y cynllun ydy sicrhau safon ac nid niferoedd ac mae’r ymateb cyntaf o’r clybiau wedi bod yn un positif
“Dymunwn weld torfeydd o 500-600 fel y norm ac nid eithriad.”

Trafodwyd y pwnc gan fwrdd y gynghrair yn eu cyfarfod ar 18 Mawrth a deellir bod trafodaethau rhanbarthol wedi cymryd lle rhwng y clybiau.
“Bydd yna gyfarfod yn TNS ar Sul, Ebrill 13, pan fydd y clybiau i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd. Os gawn gytundeb rhwng y clybiau a’r Gymdeithas Bêl-droed byddwn yn edrych i gyflwyno’r newidiadau erbyn tymor 2009/10,” ychwanegodd Deakin.

Sylw’r Wefan
Mae llawer i ddweud dros y newidiadau a gallant arwain at gryfhau’r gynghrair. Un peth sydd wedi’u gwneud yn fwy derbyniol ydy fod y clybiau fydd tu allan i’r 10 uchaf yn aros tu fewn i drefn Uwch Gynghrair Cymru ac nid yn cael eu taflu allan i’r diffeithwch.
Ond mae golwg ar y tabl presennol yn dangos fod yna broblem ymarferol amlwg. Ni fydd y deg uchaf yn wahanol iawn i’r deg uchaf yn y tabl presennol gan mai ‘r deg yma gyda un neu efallai dau eithriad ydy’r deg clwb cryfaf gyda’r adnoddau gorau. Mae’r trawsdoriad daearyddol hefyd yn weddol gyda 5 clwb o’r de poblog, tri o’r canolbarth a dau o’r gogledd. Ond mae’r 8 ar y gwaelod i gyd o’r gogledd a’r canolbarth. I gyrraedd deg clwb, rhaid ychwanegu Prestatyn neu Llandudno o’r Cymru Alliance a Lido Afan o’r de. Bydd hyn yn gadael Lido Afan fel yr unig glwb o’r de gyda llawer iawn o deithio gyda’r ‘darbi’ agosaf yng Nghaersws!
Dylid rhoi ystyriaeth i wneud yr ail adran yn rhanbarthol (10 o’r gogledd a 10 o’r de i gyd yn barod i dderbyn dyrchafiad). Byddai hyn yn golygu llai o deithio i’r clybiau llai ond eto yn aros tu fewn i’r strwythur ac yn gallu gwneud cynnydd. Ni fyddai adran uwch yn cael ei gwanhau gan mai drwy ‘play-offs’ byddai ennill dyrchafiad.

Two Division League

Uwch Gynghrair / welsh PremierChange in the WPL has moved more than a step closer as the league board announced proposals for sweeping changes to the structure of the league. The proposals are for a top division of 10 clubs with another 10 clubs in a second tier. The clubs would then play each other 4 times a season as is the pattern in the Scottish League. Promotion and relegation would be decided by means of end of season play offs between the bottom clubs in the top division and the top clubs in the second tier.
League Secretary, John Deakin has explained the thinking behind the new proposals.
"The league has reached a plateau and we need radical rebranding to hopefully improve the quality of the product.
"The rationale behind it is to have the top 10 quality teams in the league starting in the top division,
"That's not just about playing standards, but also what the stadium's like, how the club’s administered, and even – dare I say it – how many supporters they get through the gate.
“It is designed to ensure quality, rather than quantity, and the initial feedback we have had from clubs is a positive one.
"We want crowds of five or 600 to be the norm, not a rarity."

The league board has discussed the matter in their meeting on 18 March and it is understood that discussions have already taken place amongst clubs on a regional basis.
"There will be a meeting at TNS on Sunday April 13, where there will be a round table of all the clubs. If we get the agreement of the clubs and the FAW we'll be looking to make the change for the 2009/10 season,” added Deakin.

Website Comment
These changes have much to commend them and could well lead to a strengthening of the league. One change which will help to make it palatable for clubs who find themselves outside the top ten is that they will remain in the WPL structure and not be dumped into the outer darkness.
But one look at the current league table gives rise to an immediate practical problem. The top tier might not differ a great deal from the current top ten in the table for, with but one or may be two exceptions, those are the ten strongest clubs with the best facilities. There is also a fairly reasonable geographical breakdown with five clubs from the more populated south three from mid Wales and two from the north. However, the bottom eight, who will form the nucleus of the second tier, are all clubs from the mid or the north regions. To reach ten clubs add Prestatyn or Llandudno from the Cymru Alliance and Afan Lido from the Welsh League (South). This leaves Afan Lido as the only southern club with loads of travelling and their nearest derby game at Caersws!
Consideration could be given to a regionalised second tier (10 clubs each in the north and south) of clubs committed to promotion? This would leave the smaller clubs with less travel but remaining within the Welsh Premier set up and with the opportunity to make progress. The strength of the top tier would not be diminished as progress to the top tier could be via play offs.





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us