Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Lee Webber yn ffarwelio / Lee Webber says farewell

Saesneg / English

Carwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn CPD Porthmadog. Gwnes fwynhau yn wirioneddol fy 7-8 mlynedd gyda’r clwb, y cefnogwyr gwych, y staff, y pwyllgor ac unrhyw un arall imi gyfarfod yn ystod fy amser yna. Gwnes adael am resymau nad wyf am drafod ond yn bersonol teimlais fod angen imi fynd –bod rhaid imi. Ond dymunaf y gorau i Port yn ystod y tymor ac i’r dyfodol gan fod y clwb wedi bod yn ail gartref imi –pasport Cymreig oedd y cwbl oedd angen arna i!!

Pob lwc ac unwaith eto diolch yn fawr!

Webbs


Dymuniad cefnogwyr Port ydy diolch i Lee am y cyfan a wnaeth dros y clwb a phob lwc iddo yn y dyfodol. Teithiai Lee dros y wlad fel rhan o’i waith ond, er hynny, anaml y byddai’n colli un o gêmau Porthmadog gan unwaith ddychwelyd o Gaint i chwarae mewn gêm nos -arwydd pendant o’i frwdfrydedd a’i deyrngarwch. Mae’n arweinydd naturiol a bu’n boblogaidd iawn gyda’r cefnogwyr a’r chwaraewyr a fo oedd y capten yn ystod y tri tymor ers dychwelyd i Gynghrair Cymru. Ymunodd â Phorthmadog am y tro cyntaf at ddiwedd tymor 1998-99. Yn y tymor canlynol ymunodd â St Helens cyn ail ymuno â Phorthmadog yn 2000-01 gan chwarae’n rheolaidd iddynt ers hynny tan rŵan. Bu’n amddiffynnwr cadarn yn y tîm a sicrhaodd ddyrchafiad yn ôl i’r Gynghrair Genedlaethol. Roedd yn beryglus o giciau rhydd a chiciau cornel gan ffurfio partneriaeth lwyddiannus gyda Mike Foster. Pob lwc Lee.



English

I would like to take this opportunity to thank everyone at Port FC. I have truthfully enjoyed my 7-8 years at the club, from the brilliant fans, supporters, staff, committee and any one else I have met while being there. I left due to reasons I won't go into but personally needed to and felt I had to. But I hope for Port all the best for this season and in the future because the club was like a second home for me, I only needed a Welsh passport!!!

Good luck and once again thank you!

Webbs


All Port fans would like to wish Lee the very best in the future and thank him for his dedicated service to the cause at Porthmadog. Lee’s work took him all over the country but he rarely missed a game even returning from Kent to play in an evening match such was his enthusiasm and loyalty. He is a natural born leader who was popular with fans and players and captained the side since the return to the Welsh Premier three seasons ago.. He first joined the club towards the end of the 1998-99 season. The following season he appeared for St Helens before rejoining Porthmadog in 2000-01 and became a regular in the side. He was a stalwart defender who was the defensive lynchpin of the side that won promotion back into the Welsh Premier. He was a danger at set pieces forming a successful partnership with Mike Foster. Good luck Lee.

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us