Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Clybiau am ail-feddwl am y 12 Disglair?
Are clubs about to force a Super 12 re-think?

Saesneg / English

Torrodd y newyddion yn y Daily Post ddydd Gwener fod nifer o glybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ceisio gwyrdroi cynlluniau’r Deg Disglair ar gyfer y tymor nesaf. Mae sawl clwb wedi sgwennu at John Deakin, ysgrifennydd y gynghrair yn gofyn am Gyfarfod Cyffredinol Arbennig i drafod y mater ymhellach. Ymysg y clybiau sydd wedi ysgrifennu i alw am gyfarfod mae clwb Porthmadog. Er mwyn sicrhau fod John Deakin yn galw cyfarfod o’r fath bydd rhaid i dau draean o’r clybiau ysgrifennu ato. Golyga hyn 12 o glybiau. Fe’i dyfynnir yn yr erthygl yn dweud nad oes, “yn agos at y nifer yma wedi gwneud hyd yma.”

Cawn weld os fydd datgelu hyn yn perswadio fwy o glybiau i ysgrifennu. Mae’r cyswllt ddiweddar a fu rhwng clybiau yn cadarnhau fod yna 12 clwb wedi datgan y byddant yn ysgrifennu i ofyn am Gyfarfod Arbennig -ond bydd rhaid aros i weld os bydd hyn yn digwydd. Rym ni fel clwb wedi bod yn erbyn y cynllun yma o’r dechrau ac wedi bod o blaid cynghrair 16 clwb. Mae’n ymddangos fod y galwadau diweddar yn yr Alban i gynyddu’r gynghrair i 16 clwb gyda’r un fath yn digwydd mewn rhai gwledydd Ewropeaidd wedi sbarduno rhai clybiau i ail feddwl. Ond fel mae erthygl Dave Jones yn y Daily Post yn awgrymu fod y Gymdeithas Bêl-droed yn annhebygol iawn i ganiatáu unrhyw newid. Buont o blaid cwtogi maint y gynghrair ers blynyddoedd ac roedd penderfyniad y clybiau 18 mis yn ôl yn ei siwtio yn berffaith. Byddant y siwr o wrthwynebu’n gryf unrhyw newid sy’n dod mor hwyr yn y dydd.

Mae trafodaethau diweddar rheolwyr yr Uwch Gynghrair hefyd yn awgrymu fod y mwyafrif llethol ohonynt yn erbyn cwtogi’r gynghrair. Yn gyffredinol mae cefnogwyr wedi gwrthwynebu ac sgwn i beth yw teimladau Rondo ac S4C am y newidiadau. Pwy felly heblaw am y Gymdeithas Bêl-droed sydd o blaid y newid? Mae’n debyg nad hwn fydd y tro cyntaf na’r tro olaf pan fydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gwthio newidiadau yn groes i ddymuniad pawb –ond dyna ni pêl-droed Cymru ydy hwn!

Gerallt Owen (ymddangosodd yn rhaglen y clwb 05/04/10).



Are clubs about to force a Super 12 re-think?

News broke in the Daily Post on Friday that a number of WPL clubs are attempting to force a U-turn on the Super-12 plans for next season. Some clubs have written to John Deakin asking for a Special General Meeting to discuss the matter further. Porthmadog is one of the clubs who have written requesting such a meeting. Two thirds of the clubs in the league need to write requesting such a meeting to force John Deakin to call one. That means 12 clubs. He is quoted in the article as saying that “nowhere near that number have come forward so far.” We shall see whether the disclosure of this brings a few more out of the woodwork.

In recent communications between clubs, it was confirmed that 12 clubs have vowed to write to seek the Special General Meeting, whether they will or not remains to be seen. We of course have been against this course of action since the start and have always advocated a 16 club league. Recent calls in Scotland to increase their Premier Division to 16 clubs and similar moves in other European countries seem to have ignited this change of heart amongst some clubs. As Dave Jones’s Daily Post article suggests even if the clubs decide they would prefer to go with 16 clubs it is very unlikely that the FAW would allow the change. They have been in favour of reducing the league for many years and the clubs decision 18 months ago was perfect for the FAW. They will be very resistant to a further change at this late stage.

Recent discussions amongst the WPL managers also suggest that the vast majority of them are against the reduced league. Supporters have generally been against the changes and I wonder what are the feelings of Rondo and S4C. So who apart from the FAW is in favour? This is not the first or probably the last time, the FAW force change through against the wishes of all and sundry, but hey that’s football in Wales!

Gerallt Owen (reproduced from the Match programme 05/04/10)





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us