Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Cymryd golwg ar Gynllun Strategol newydd CBDC
Taking a look at the FAW’s Strategic Plan

Saesneg / English

“Bu’r neges yn eglur ar y bathodyn ers blynyddoedd, ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’. Mae’r neges yn glir, mwy o weithredu fel tîm, gwell cyfathrebu, persbectif tymor hir drwy dyfu ac ennill mwy.”

Dyma eiriau Jonathan Ford, Prif Weithredwr CBDC, wrth gyflwyno’r ‘Cynllun Strategol’ sy’n cymryd golwg gynhwysfawr ar bêl-droed yng Nghymru gan ddangos y ffordd ymlaen mewn modd na welwyd o’r blaen yng Nghymru.

Roedd Alun Evans wedi cyflwyno newidiadau dau ddegawd yn ôl dim ond iddynt sefyll yn yr unfan o dan deyrnasiad David Collins. Ond un penderfyniad goleuedig a gyflwynwyd oedd apwyntio Osian Roberts, cyn reolwr Porthmadog, yn Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed a chyfeirir yn yr arolwg at gyfraniad ‘rhagorol’ y corff hwnnw. Roedd John Toshack wedi diwygio pêl-droed 16-21 gan rhoi’r cyfrifoldeb am pob carfan genedlaethol yn yr oed i Brian Flynn. Roedd hyn yn newid sylweddol gan fod rheolwyr cenedlaethol blaenorol wedi cyfyngu eu diddordeb i’r garfan hŷn yn unig. Gall y ‘Cynllun Strategol’ adeiladu ar y gwaith yma.

Cyflwyno’r Neges

Mae’r cynllun yn cyfeirio at y problemau i’w goresgyn os ydy pêl-droed i ddatblygu yn brif gamp yng Nghymru. Mae barod yn brif gamp cyn belled a mae’r niferoedd sy’n chwarae ac o rhan nifer y cefnogwyr. Er waethaf hyn y broblem i oresgyn ydy’r statws ‘euraid’ a rhoi’r i rygbi yng Nghymru. Mae dyfodiad Jonathan Ford i sedd y Prif Weithredwr, ac apwyntiad Ian Gwyn Hughes yn dilyn hyn, wedi chwyldroi’r ffordd y mae’r Gymdeithas yn cyfathrebu gyda’u chefnogwyr. Cafwyd nifer o ‘Sioeau Ffordd’ i fynd a’r neges i’r clybiau ac mae cylchgrawn newydd dwyieithog , ‘Y Llais’ hefyd wedi cario’r neges at y cefnogwyr. Mae’r wefan newydd ddwyieithog hefyd yn gam mawr ymlaen. Bydd CBDC yn canolbwyntio ar wella delwedd ac elwa ar y potensial masnachol sy’n deillio o’r ffaith fod pêl-droed yn denu mwy o gefnogwyr nac unrhyw gamp arall.

Hunaniaeth Gymreig a’r Ffordd Gymreig

Bydd llawer yn croesawu’r pwyslais ar hunaniaeth Gymreig wedi’r blynyddoedd o weithredu fel ychwanegiad dibwys i FA Lloegr. Newidir y pwyslais rŵan i ddatblygu’r ‘Ffordd Gymreig’ o weithio ac o chwarae. Bydd yna symud at gysoni arddull chwarae a negeseuon hyfforddi ar draws pob lefel a phob oedran. Bydd y ffaith fod gennym griw ifanc o chwaraewyr rhyngwladol rhagorol yn gwneud hyn yn bosib ar y lefel uchaf. Anelir i greu llwybr i’r llwyfan rhyngwladol i chwaraewyr a dyfarnwyr. Gwelir eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn rhan o frand y Gymdeithas sy’n ein huno. Bwriad y Gymdeithas ydy integreiddio’r Ymddiriedolaeth Bêl-droed llwyddiannus i brif lif strategaeth y CBDC gan eu defnyddio i godi safonau ar hyd a lled Cymru.

Uwch Gynghrair Cymru

Bwriedir sefydlu 4 stadiwm drwy Gymru i chwarae gemau rhyngwladol Dan-21 gan ystyried y posibilrwydd o gynnwys un stadiwm UGC. Datblygu’r gêm ddomestig i fod yn rhan bwysig o’r hunaniaeth Gymreig. Rhoi cymorth i glybiau er mwyn gwella eu perfformiadau yn Ewrop a sicrhau proffil uwch i Gwpan Cymru a cystadlaethau eraill CBDC. Mae’n fwriad i gyflwyno cynllun peilot i ystyried cap ar gyflogau chwaraewyr yn UGC.

Yn y Rhanbarthau

Nodir y berthynas gymhleth sy’n bodoli rhwng CBDC a’r Cymdeithasau Ardal yn un o’r problemau a wynebir wrth ddatblygu’r gêm yng Nghymru. Bydd llawer yn gobeithio gweld y pŵer lleol sydd wedi cael ei adeiladu mewn ambell rhanbarth yn cael ei ffrwyno. Awgrymir fod Cymdeithasau Ardal yn mabwysiadu set o reolau yn unol a rhai CBDC a fod y Cymdeithasau yn mabwysiadu prosesau a gweithdrefnau cyffredin. Yn ogystal dylai gweithdrefnau disgybli’r Cymdeithasau gael eu canoli ar Borth(Portal) CBDC.

Academïau

Mae’n fwriad i apwyntio aelod staff llawn amser i oruchwylio Rhaglen yr Academi gan ffurfio chwech Academi (16-19) rhanbarthol. I gyd-fynd â hyn anelir i ddatblygu 10 ‘canolbwynt pêl-droed’ drwy gyfrwng meysydd artiffisial 3G. Un bwriad a allai achosi problem ydy hwnnw i gyflwyno’r rheol un chwaraewr/un clwb i bob Academi.

Mae’r strategaeth yn un addawol a diddorol ond bydd cryn waith o flaen CBDC i’w gweithredu. Edrychwn ymlaen i weld y neges bositif hon yn chwythu newidiadau drwy’r gêm yng Nghymru.



Taking a look at the FAW’s Strategic Plan

“The message has been clear on the badge for years. ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’. Best Play is Team Play. Our messages are clear; greater team work, better communication, a longer term perspective through evolution and winning more.”

These are the words of FAW Chief Executive Jonathan Ford when unveiling the ‘Strategic Plan’ which takes a comprehensive look at football in Wales and points the way the forward as it has never been done before in Wales.

The innovative Alun Evans had moved things forward two decades ago only for them to stagnate under David Collins. However one rare touch of enlightenment during that period had been the appointment of former Porthmadog manager Osian Roberts as Director of the Welsh Football Trust and that organisation’s contribution is referred to as ‘exemplary’ by the current review. John Toshack’s total reform of 16-21 age groups putting Brian Flynn in charge of the national age group squads was a sea change breaking with a past where national team managers confined their attention to the national senior squad only. The strategic plan can now build on this work.

Getting the Message across

The plan refers to some of the problems to be overcome if football is to develop as the major sport in Wales as it already has as far as participation and spectator numbers are concerned. Despite this, a problem to be overcome is the ‘crown jewels’ status awarded to rugby in Wales. The arrival of Jonathan Ford to the Chief Executive’s chair and following this, the appointment of Ian Gwyn Hughes has revolutionised the way in which it communicates with supporters. There have been several Roadshows which have taken the FAW message to the clubs and a new bilingual magazine ‘The Voice’ further connects with supporters. The new fully bilingual website is another big step forward. The FAW will aim to improve its image and maximise the commercial potential based on the fact that football is the No1 spectator sport.

Welsh Identity and Welsh Way

Many will welcome the emphasis on a Welsh identity after years of operating as a seeming irrelevant appendix of the English FA. The aim now is to develop a ‘Welsh Way’ of playing and operating. They will move to develop a consistency of playing styles and coaching messages throughout all levels and ages. The fact that there is such an excellent crop of young players will make this achievable at senior level. The FAW will seek to put in place a pathway for players and referees to reach the international stage. The commitment to the Welsh language is seen as an integral part of the FAW brand and will be seen as a unifying action. It aims to integrate the excellent Welsh Football Trust into the mainstream FAW strategy and use it as a tool to raise standards throughout Wales.

Welsh Premier League

It aims to develop 4 stadiums Wales wide to play U-21 internationals and include the possibility of using a WPL ground. The domestic game also has a part in creating a clear Welsh identity. Assistance is to be given to clubs to improve performances in Europe and a higher profile sought for the Welsh Cup and other FAW competitions. A pilot scheme is to be introduced regarding a wage cap for WPL clubs.

Grassroots

It identifies the complex relationship which exists between the FAW and the Area Associations as one of the problems facing the development of the game in Wales. Many will hope that the empire building that has grown in several regions can be reversed. It suggests that all area associations should adopt a set of rules which coincide with those of the FAW and that they adopt common processes and ways of working. Disciplinary procedures of all area associations, it says, should be centralised on the FAW portal.

Academies

It suggests the appointment of a full time member of FAW staff to oversee the Academy development programme and the formation of six regional academies at 16-19 level. Associated with this will be the development of 10 community hubs via 3G artificial pitches. One possibly contentious suggestion is that the one player one club rule should apply to Academies.

The strategy is a very interesting contribution and full of good ideas but will take some effort to introduce. Can we all now look forward to the wind of change blowing through Welsh football?





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us