|
|||
Lleisiau’n codi yn erbyn y "Super 10" Saesneg / English Mae yna fwy o leisiau yn codi yn erbyn y cynllun i adrefnu’r gynghrair a sefydlu’r "Super 10" yn nhymor 2010/11. Dywedodd Mike Beech, ysgrifennydd clwb Derwyddon Cefn, wrth Gareth Bicknell o’r Daily Post " ... beth sydd angen ar UGC –canlyniad fel y cawsom ni (yn curo’r Rhyl), y canlyniad a gafodd Airbus (yn curo TNS), a’r canlyniad a gafodd Cei Conna (yn erbyn Llanelli). Beth sydd angen ar y gynghrair yw chwistrelliad o gyffro gyda clybiau bach fel ni yn mynd i’r Rhyl a gwneud job o waith. Dydy cynghrair o ddeg ddim yn mynd i weithio. Bydd clybiau yn chwarae yr un timau gymaint ac wyth gwaith y tymor. Mae pawb yna (yn y gynghrair) yn haeddiannol a does dim gwahaniaeth os oes ganddynt bocedi dwfn, fel mae Rhyl yn honni sydd ganddynt, neu beidio." Un arall sydd wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i gynghrair dwy adran ydy ysgrifennydd Port, Gerallt Owen. Ysgrifennodd yng ngholofn ‘Talking Point’ yn rhaglen y clwb. "Rwyf, erbyn hyn, yn hollol sicr fod y penderfyniad yn mynd i fod yn drychineb i’r 10 fydd tu allan i Adran 1. ...buom yn ddigon gwirion i gytuno i’r newid dramatig hwn heb gyfle i feddwl y peth drwyddo, ac yn y mwyafrif o achosion heb ymgynghori yn ein clybiau. Fues i yn y cyfarfod pan bleidleision ni dros newid. Yr unig ffordd y gallaf esgusodi fy hun am hyn yw fy mod wedi dioddef pwl o wallgofrwydd tymor byr! Mae’r syniad o gael Adran 2 yn farw cyn cychwyn. Bydd mwyafrif yr arian, sylw’r wasg a’r nawdd yn mynd i glybiau Adran 1 fel sydd wedi digwydd yn Uwch Gynghrair Lloegr. Caiff Adran 2 fynd yn anghofrwydd disylw. Dwy gêm adref a dwy gêm ffwrdd yn erbyn clybiau fel Airbus, Derwyddon Cefn, Caersws, Caernarfon, Y Trallwng, Prestatyn a Chastell Nedd. Prin y medraf aros!" Ychwanegodd "Efallai ein bod yn colli yn erbyn y timau cryfaf ond dyna’r gemau sy’n denu torf ... dyna’r gemau lle mae angen mwy na mini i gario cefnogwyr yr ymwelwyr .... y gemau sy’n gwneud i’r gwaed lifo. Yr unig ddewis credadwy ydy dileu’r cynllun rŵan a throi yn gynghrair 16 clwb .... a wedyn bydd mwy o bres noddi, grantiau UEFA ar gyfer yr Academi ac arian gwella caeau yna i’w rannu." More voices raised against the "Super 10" More voices are questioning the merits of the proposed league reorganisation to establish a "Super 10" for season 2010/2011. Speaking to Gareth Bicknell in the Daily Post the Cefn Druids secretary Mike Beech said "... what the WPL needs –the result we had (beating Rhyl), the result Airbus had (beating TNS) and the result Connah’s Quay had (beating Llanelli).What this league needs to inject a bit of excitement is little clubs like us going to Rhyl and doing a job. A 10-team league is never going to work. You could end up playing the same team eight times in one season. Everybody is there on merit whether or not you’ve got deep pockets like Rhyl claim they have." Another who has come out strongly in opposition to the two division league is Port secretary Gerallt Owen. In the Talking Point column in the Port match programme he writes, "I am now convinced that this decision will be disastrous for the 10 not in Division One. ... we all stupidly agreed to this dramatic change without any chance to think it through properly and in most cases without proper consultation within the clubs. I was at the meeting and we voted for the change. I can only plead for clemency on the grounds of temporary insanity! Division 2 is dead in the water. The majority of the money will go to Division 1 as has happened with the Premiership in England so will all the media attention and the sponsorship income. Division 2 will become a forgotten backwater. Two matches home and two away to the likes of Airbus UK, Cefn Druids, Caersws, Caernarfon Welshpool, Prestatyn and Neath. I can hardly wait!" He added "We may lose against the stronger clubs but they are the games ... which attract a crowd, these are the ones where you need more than a mini to hold the visiting support ... and are the ones that get the blood racing." He adds "The only credible alternative is to scrap the plan now and run as a 16 club league ...and the sponsorship money, the UEFA aid towards Academies and money for ground improvements goes that much further." |
|||
|