|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Anrhegion Nadolig i rai... Saesneg / English Mae torfeydd Uwchgynghrair Cymru dros y ddau ddiwrnod diwethaf i’w canmol yn fawr. Dros fil yn ymweld â’r Ofal ddoe i weld Caernarfon yn herio Bangor, tra fod Rhyl v Prestatyn heddiw wedi denu 2,126 i’r Belle Vue (bron i fil yn fwy na welodd Wrecsam yn cael gęm gyfartal ddoe yn Barrow). Mae torfeydd o’r fath yn codi proffil ein cynghrair genedlaethol ac yn dod ag arian i mewn i goffrau’r clybiau. Siom felly ydy gweld nad ydy John Deakin a phenaethiaid yr Uwchgynghrair / FAW yn credu mewn rhannu yr anrhegion Nadolig yn deg rhwng y clybiau i gyd. Fel yr adroddodd y wefan yma nôl yn mis Mehefin (mwy...), Porthmadog a Chei Conna yw’r unig dimau yn y gynghrair sydd heb gael gemau darbi dros gyfnod y ‘Dolig. Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae’r diffyg darbi leol wedi gwneud gwahaniaeth anferthol i’r dorf. Cafodd Caernarfon dros 5 gwaith yn fwy na’u torf gyfartalog, tra roedd torfeydd Hwllffordd a Rhyl 3 a ˝ gwaith yn fwy na’r arferol. Roedd pob un o’r torfeydd yn dipyn uwch na’r arferol (TNS oedd salaf, gydag ond 16% yn fwy na’r arferol) – hynny ydy, pob gęm ond yr un ar y Traeth. Roedd y dorf Port o 213, 8% yn waeth na’r dorf gyfartalog am y tymor. O ystyried y bydd trysoryddion Caernarfon a Rhyl yn cyfri’r miloedd o bunnoedd a gymrwyd ar y gât, mae’n amlwg fod clybiau Port a Chei Conna wedi derbyn cosb ariannol annheg iawn gan y gynghrair. Mae’n debyg mae siomedig fydd y dorf yng Nghei Conna ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn hefyd ond dydi hyn ddim syndod i neb. Mae’n gylch-daith o 150 milltir o Borthmadog i Gei Conna a does yna ‘rioed wedi bod hanes o gystadleuaeth frwd rhwng y ddau glwb. Bydd coffrau’r ddau glwb yn amlwg yn lawer tlotach na’r lleill sydd wedi derbyn anrheg mor hael gan y gynghrair. Mae’n bosib deall pam fod John Deakin, ysgrifennydd y gynghrair, mor frwd am weld gemau darbi yn Rhyl a Chaernarfon. Ond rhaid bod yn deg gyda’r holl glybiau. Pam fod rhaid i’r ‘run timau chwarae dwywaith dros y Nadolig? Beth sydd o’i le ar i Gaernarfon chwarae Bangor ar Wyl San Steffan a chwarae Porthmadog ar ddiwrnod Calan? Y flwyddyn wedyn gallai’r gemau gael eu cyfnewid i osgoi rhoi mantais annheg i unrhyw glwb. Rhaid i hyn newid er mwyn sicrhau tegwch i bob clwb.
* cyfartaledd ddim yn cynnwys y gęm ddiweddaraf / average does not take latest game into account
Christmas presents for some... The Welsh Premiership’s attendances over the past couple of days are to be congratulated. It is great to see over a thousand at the Oval yesterday to see Caernarfon welcoming Bangor and better still was the crowd of 2,126 which flocked to the Belle Vue to watch Rhyl v Prestatyn (almost a throusand more than saw Wrexham draw at Barrow). Good attendances can only improve the league’s image and will bring in much needed funds for the clubs involved. With this success in mind, it is sad to see that John Deakin and the Welsh Premiership / FAW have not shared the Christmas presents out fairly between all the league’s clubs. As this website reported back in June (more...), Porthmadog and Connah’s Quay are the only two clubs without a derby game over the Christmas period. As would be expected, the lack of a derby match has made a big difference to the crowd. Caernarfon had 5 times their average crowd while Haverfordwest and Rhyl had 3 ˝ times more than usual. Every other crowd was larger than usual (TNS were worst – only 16% more than usual) – that is, apart from the game at the Traeth. Port’s attendance of 213 was actually 8% worse than the season’s average. When it is considered that the treasurers at Caernarfon and Rhyl with be counting the thousands of pounds taken on the gate, it is clear that Port and Connah’s Quay have been severely short changed by the league. It is likely that the crowd at Connah’s Quay on New Year’s Day will be equally disappointing but this is no great surprise. The fact is that the round-trip is some 150 miles and there is no great history of rivalry between the two clubs. Both clubs’ finances will clearly receive much less of a boost than the other clubs who have received such a generous gift by the league. It is understandable that John Deakin, the league secretary, would be keen to see derby games at Rhyl and Caernarfon. But it is important to be fair with all the clubs. Why is it absolutely necessary for clubs to play the same club twice over the Christmas period? What is wrong with Caernarfon playing Bangor on Boxing Day and playing Porthmadog on New Year’s Day? The following year, the fixtures could be reversed to avoid any bias. The current arrangements must be changed to ensure fairness for all clubs. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|