|
|||
Angen gwneud y drefn drwyddedu yn dryloyw / Make the licensing system Transparent Saesneg / English Bydd brwdfrydedd y clybiau sy’n anelu at ddyrchafiad yn pylu rhywfaint wrth edrych ymlaen at y tymor newydd a chofio fod yr un clwb wedi’i ddyrchafu o’r HGA yn ystod y ddau dymor diwethaf. Yn dilyn gwrthod cais Cei Conna am drwydded ddomestig mae angen i’r Gymdeithas Bêl-droed wneud y broses yn agored ac yn dryloyw . Dylai’r rhesymau am wrthod, yn ogystal a’r rhesymau am ganiatáu trwydded i glwb ar apêl, gael eu chyhoeddi. Y gwir a’u pheidio mae yna deimlad eang ym mhêl-droed Cymru fod y broses ym mhell o fod yn eglur ac yn ddiduedd. Bydd y gred yma yn aros â chyhuddiadau fod y gynghrair yn un ‘drwy wahoddiad’ yn dal i fodoli tan fydd y rhesymau am benderfyniadau yn dod yn gyhoeddus a wedyn bydd y panel apêl yn atebol i’r clybiau a’r cefnogwyr. Dywedodd Owen Durbridge, ysgrifennydd clwb y Drenewydd, “Rhaid imi feirniadu’r drefn mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi gosod yn ei lle, gan fod y cyfrinachedd sy’n amgylchynu rhoi’r trwyddedau, neu’n bwysicach fyth penderfyniadau’r pwyllgor apêl, yn gwneud dim ond creu amheuon.” Mae’r ddadl gyda chlwb Cei Conna yn troi o gwmpas gwaith a wnaed wedi 31 Mawrth, sef dyddiad cwblhau y ‘first instance’. Dywedodd John Gray , cadeirydd Cei Conna, “Yn ystod y cyfnod apêl gwnaed a chwblhawyd y gwaith ar amser ac yn unol a chyfarwyddiadau’r Gymdeithas Bêl-droed a bu’r clwb mewn cysylltiad cyson gyda’r Gymdeithas yn ystod y cyfnod. Ond dewis Pwyllgor Trwyddedu’r Gymdeithas Bêl-droed oedd peidio ystyried hyn a wedyn gwastraffwyd amser ac arian ar yr apêl.” Mater hawdd a chall fyddai i’r Gymdeithas Bêl-droed ddatgan beth a ddigwyddodd a pam yr anogwyd clwb Cei Conna i wella’r goleuadau ond wedyn gwrthod rhoi trwydded iddynt. Yn allweddol ychwanegodd John Gray, “ Mae’n ymddangos fod clybiau eraill wedi cael ‘amser disgresiwn’ i gwblhau eu gwaith yn ystod y cyfnod apêl a hyn yn mynd tu hwnt i’r dyddiad cau cyntaf, sydd yn awgrymu fod rhai clybiau wedi’u ffafrio dros eraill.” Os ydy’r honiad yn wir, mae’n amlwg yn tanseilio’r holl broses, a tra fod y Gymdeithas yn dal yn ddistaw ynglŷn a’r mater mae’r amheuon a’r sibrydion yn parhau. Ar y llaw arall os ydy’r honiadau yn ddi-sail mae gan y Gymdeithas y modd i dawelu’r sibrydion. Mae dyrchafu a gostwng yn rhoi bywyd i’r pyramid tra fod cael clybiau sy’n teimlo eu bod yn cael cam yn gwneud dim i wella safonau. Roedd Llangefni yn teimlo eu bod yn cael cam ar ôl ennill y Cymru Alliance yn 2009/10 a deuddeg mis yn ddiweddarach mae’r clwb yn ymddangos mewn peth trafferth. Mae gan y Gymdeithas gyfrifoldeb am wirfoddolwyr sy’n cynnal y gêm yng Nghymru ac sy’n haeddu parch ac ystyriaeth y swyddogion cyflogedig a’r rhai etholedig. Mae wyneb newydd yn arwain y Gymdeithas sy’n rhoi cyfle am drefn mwy agored a chefnogol,a dyma’r lleiaf y dylai’r clybiau a’r cefnogwyr ei ddisgwyl. Bydd angen mwy na ychydig o sioeau ar y ffordd –er fod yna groeso i rheini- i berswadio cefnogwyr fod pethau am newid er gwell ym mhêl-droed Cymru. Cafodd clwb Porthmadog brofiad –mewn mater gwahanol- o ddioddef un o benderfyniadau gwarthus y Gymdeithas Bêl-droed ac felly yn ymwybodol o’r boen mae hyn yn achosi. Mae yna beryg fod y gystadleuaeth flynyddol drwyddedu yn ei ffurf bresennol y gosod gormod o bŵer yn nwylo swyddogion a gormod o straen ar wirfoddolwyr yn y clybiau wrth neidio drwy’r cylchoedd bob un blwyddyn. Er fod y drefn wedi dod a gwelliannau i’r caeau efallai y gellir adolygu’r drefn a’i gwneud yn decach ac yn llai o faich. Oes yna unrhyw rheswm er enghraifft pam na ellir rhoi trwydded am dair blynedd yn lle un? Byddai hyn yn gosod llai o bwysau ar wirfoddolwyr a gwneud cynllunio tymor hir yn haws. Yn fwy na dim rhaid i bawb fedru gweld bod cyfiawnder yn cael ei wneud. Barn Gareth Williams cyfrannwr i wefan ysydd yn yr erthygl hwn. Nid oes unrhyw ymgais i siarad ar rhan swyddogion y clwb. Make the licensing system Transparent Enthusiasm at the approaching season will be tempered, for those clubs in the HGA aiming for promotion, by the knowledge that no club has been promoted to the WPL in the past two seasons. Following their refusal to grant Connah’s Quay a Domestic Licence the FAW now need to take action to make the process open, clear and transparent. The reasons for the refusal as well as the grounds for granting a licence to other clubs on appeal should be published. Whether it is justified or not there is a widespread feeling in Welsh football that the process is far from straight forward and above board. This will remain the case, and accusations of an ‘invitation league’ will continue, until the reasons for the licensing decisions are made public and the appeals panel become answerable to clubs and supporters. Newtown secretary, Owen Durbridge, has said “I have to criticise the system the FAW have put in place as the secrecy surrounding the issuing of licences and, more importantly the appeals panel decisions, does nothing but breed suspicion and harbour doubts.” The dispute with Connah’s Quay centres around works carried out after the first instance deadline of 31 March. Club chairman John Gray said, "During the following Appeal period, however, all works were carried out and completed on time as per instructions from the Football Association of Wales, who the club frequently liaised with during this time. However, the FAW's Licensing Committee chose not to take this into consideration, therefore time and money was wasted on the appeal.” It would be a simple and wise move by the FAW to declare what happened and why Connah’s Quay were encouraged to complete the improvements to their lights only to be subsequently refused a licence. John Gray crucially adds, "It appears that other clubs have been granted 'discretionary time' to complete their works during the appeal time beyond the initial deadline, which implies some clubs have been favoured over others.” If this claim is true then it clearly undermines the whole process and while the FAW remain silent the speculation will continue. On the other hand if all the speculation is baseless the FAW have the means to end it. Promotion and relegation breathes life into the pyramid system and disillusioned clubs do nothing for Welsh football progress. Llangefni felt aggrieved at the way they were treated in 2009/10 after winning the Cymru Alliance and 12 months on the club appears to be in difficulties. The FAW have a responsibility to the volunteers who are the lifeblood of the game in Wales and who deserve greater respect and consideration by both paid and elected officials. A fresh face at the top of the FAW is an opportunity for a more open and supportive regime and it is the least that clubs and supporters should expect. It will take action rather than just a few PR Roadshow visits around the clubs –welcome though they are- to convince football followers in Wales that things are changing for the better in Welsh football. Porthmadog have experience, in another matter, of being at the wrong end of a ludicrous FAW decision and know of the anxiety and worry this causes. There is a danger that this annual licensing beauty contest in its current form places undue power in the hands of FAW officials and puts an excessive strain on hard working club officials to leap these hoops on an annual basis. Though the system has produced ground improvements it might be timely to review it and see whether it can be fairer and less of an imposition. Is there any reason why a licence cannot be granted for three seasons rather than one? This would reduce pressure on volunteers and make longer term planning possible. But above all else justice needs to be seen to be done. These are the views of website contributor Gareth Williams. They do not claim to represent the view of Porthmadog FC officials. |
|||
|