Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Golwg yn ôl dros y tymor
A look back at the season

Saesneg / English

Gyda’r llwch bellach wedi setlo ar dymor 2010/11 mae’n bosib edrych yn ôl a gweld lle mae’r clwb wedi cyrraedd. Roedd y cefnogwyr yn ymwybodol o gychwyn y tymor mai tymor o ddatblygiad oedd hwn i fod, wedi nifer o dymhorau o frwydro yng ngwaelodion UGC. Roedd Gareth Parry a Campbell Harrison yn sylweddoli fod absenoldeb tîm ieuenctid/ail dîm yn golygu na fyddai’n bosib sicrhau Trwydded Ddomestig y tymor hwn.

Aethant ati i ail adeiladu tîm gan ddychwelyd at bolisi traddodiadol Porthmadog o ddefnyddio chwaraewyr lleol o Wynedd a Môn. Golyga hyn y byddai’n bosib ymarfer yn rheolaidd ddwywaith yr wythnos efo’u gilydd ac wrth i’r tymor fynd yn ei flaen roedd bendithion y paratoadau yma yn dod i’r amlwg.

Ni chawsant y cychwyn gorau i’r tymor, cyfartal yn y gêm gyntaf a cholli’r dair nesaf, gyda’r rheolwr heb nifer o’u chwaraewyr mwyaf profiadol. Ond gwella wnaeth pethau gyda rhediad o 9 gêm yn ddiguro mewn amrywiol gystadlaethau. Un o nodweddion amlycaf y tymor ydy anghysondeb –rhediad da a wedyn ambell perfformiad rhwystredig o wael yn dilyn yn enwedig ar y Traeth. Nid oedd y toriad oherwydd y tywydd gwael yn fawr o gymorth chwaith yn y cyfeiriad yma ac, hyd yn oed wedi buddugoliaethau ardderchog dros Rhos Aelwyd a Rhuthun tua ddiwedd y tymor, collwyd adref yn erbyn Caersws gan adael i’r clwb o’r canolbarth gwblhau y dwbl drostynt. Ond rhaid ychwanegu fod Caersws wedi edrych yn dîm i gadw llygad arno at y tymor nesaf.

Er mai braidd yn siomedig ydy’r tîm rheoli, y chwaraewyr, y bwrdd a’r cefnogwyr gyda’r 8fed safle mae yna fwy o agweddau cadarnhaol na negyddol wrth edrych yn ôl ar y tymor. Yn unigol mae yna nifer o lwyddiannau werth eu nodi. Roedd yn dymor olaf arbennig i Mike Foster wrth iddo gychwyn 26 o gemau ac ychwanegu at ei restr hir dros y clwb gan unwaith eto brofi ei hun yn amddiffynnwr o safon uchel. Roedd yn dymor da hefyd i un arall o’r chwaraewyr profiadol gyda Paul Roberts ar ben rhestr sgorio’r clwb ac yn drydydd tu ôl i Gary O’Toole a Mike Burke yn rhestr sgorio’r HGA am 2010/11. Hefyd bu Richard Harvey rhwng y pyst ym mhob un o’r gemau cystadleuol –tipyn o gamp i chwaraewr a ddioddefodd anafiadau tymor hir dros y ddau dymor blaenorol ac ond yn dechrau 6 o gemau yn 2009/10. Roedd Port yn ffodus iawn o’i bresenoldeb a nhw heb golwr wrth gefn am fwyafrif y tymor.

Roedd parodrwydd y rheolwr i rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc yn agwedd bositif iawn. Mae Cai Jones a Jamie McDaid wedi dod drwy Academi Port ac erbyn hyn wedi dechrau 18 ac 17 o gemau’r un. Mae’r ddau hefyd wedi cynrychioli Ysgolion Cymru Dan-18 yn ystod y tymor. Gwnaeth chwaraewr ifanc arall deunaw oed, Gareth Jones Evans, gyfraniad enfawr ar ôl iddo ymuno o Bwllheli. Mae’n werth cofio hefyd fod Jack Jones, cyn hyfforddai yn Wrecsam, ond yn ugain oed. Hyn i gyd yn dangos parodrwydd y rheolwyr i weithio’n galed i ddatblygu’r chwaraewyr ifanc ac yn neges glir i recriwtiaid eraill posib. Bydd hyn hefyd yn bwysig wrth i Mike Foster ail adeiladu’r ail dîm.

Dyma un neu ddau o ffeithiau gan geisio roi ychydig o bersbectif i’r tymor. Roedd clybiau canol tabl yr HGA yn agos iawn at eu gilydd a dim ond 5 pwynt oedd yn gwahanu’r 4ydd a’r 8fed safle. Enillodd Port un gêm yn fwy na’r ddau glwb a orffennodd yn syth uwch ei pennau. Yn yr 11eg gêm olaf o’r tymor sgoriwyd 29 o goliau tra yn yr 11eg cyntaf 18 gôl a sgoriwyd –arwydd o’r gwaith a wnaed ar y cae hyfforddi i wneud y mwyaf o’r ciciau gosod a’r ciciau rhydd ac i greu gwell gwasanaeth i’r blaenwyr. Dangoswyd yn hanner cyntaf y gemau yn erbyn Rhos Aelwyd a Fflint ac yn y gêm ar Lannau Dyfrdwy y math o bêl-droed na welwyd gan Port ers sawl blwyddyn.

Cam angenrheidiol wrth adeiladu tîm llwyddiannus ydy datblygu’r ysbryd cywir yn y garfan ac mae hyn wedi bod yn arbennig o wir i Gareth Parry wrth iddo ddibynnu ar garfan o 18 heb ail dîm. Golyga hyn fod nifer bob wythnos yn methu cael gêm ond eto wedi aros yn ffyddlon i’r clwb a’r rheolwr. Yn ystod wythnosau olaf y tymor pan wnaeth anafiadau daro yn fawr ni fyddai wedi bod yn bosib rhoi tîm ar y cae heblaw am barodrwydd nifer o chwaraewyr i ddal ati i chwarae er yn cario anafiadau.

Bydd y sylw bellach yn troi at dymor 20011/12 ac os ydy Port i osod sialens am y teitl bydd rhaid anelu i gryfhau’r garfan. Does ’na neb yn fwy ymwybodol o hynny na’r rheolwr. Mae’r camau yma mewn llaw a cawn wybod mwy yn ystod y mis nesaf.



A look back at the season

With the dust having settled on the 2010/11 campaign it is possible to take stock and see where we are at. Supporters were aware from the start of the season that this was to be a development season coming on the back of several years of struggle near the bottom of the WPL. With the lack of a youth/reserve team this season Gareth Parry and Campbell Harrison knew that the club could not qualify for a Domestic Licence.

They set about rebuilding the team and returned to Porthmadog’s traditional policy of using players from within the Gwynedd and Anglesey region. This meant that the team could train regularly together twice a week and as the season wore on the benefits of this preparation became more and more obvious.

The season did not start well, a draw in the opening game followed by three defeats with the manager unable to call on several of his senior players. But things improved and, in a mixture of league and cup games, an unbeaten run of 9 games followed. One of the most noticeable features of the season has been inconsistency -a good run often followed by some frustratingly poor performances especially at home. The enforced long winter break further emphasised this tendency and even at the end of the season excellent away victories over form teams Rhos Aelwyd and Ruthin Town were followed by a home defeat against Caersws allowing the mid-Wales club to complete a season’s double, though having said that, Caersws looked like a team to watch out for next season.

Though management, players, board and supporters will all be disappointed with the 8th place finish there are far more positives than negatives when we look back on the season. Individually there are some noteworthy achievements. It was a great swansong season for Mike Foster with 26 more starts to add to his list and once again proving himself a quality defender. Another of the senior brigade, Paul Roberts, topped the club goal scoring list showing that he still has the knack of being in the right place at the right moment finishing third behind Gary O’Toole and Mike Burke in the HGA scoring list for 2010/11. Goalkeeper Richard Harvey kept goal in every single competitive match during the season a remarkable achievement for a player who has suffered long term injuries during the previous two seasons and made only 6 starts in 2009/10. It was indeed fortunate for Port, who for most of the season had no goalkeeper cover.

The willingness of the manager to give young players their opportunity is also a major plus. Two teenage Port Academy products, Cai Jones and Jamie McDaid, now have 18 and 17 first team starts respectively under their belt. Both these young players went on to represent the Welsh Schools at U-18 level. Another young player, Gareth Jones Evans, made a huge contribution after joining from Pwllheli. It is worth remembering too that, former Wrexham trainee, Jack Jones is still only 20 years old. All of this shows the degree to which the management are prepared to work to improve young players which is an important message to give to any prospective recruits, especially as Mike Foster sets about rebuilding the reserves.

A few facts help to give some perspective to our season. The middle of the HGA table was a very congested place and only 5 points separated 4th place and 8th place. Port won one more game than the two clubs who finished immediately above them. In the last 11 games they scored 29 goals whilst in the first 11 games of the season they managed 18 -a sign of the successful work done on the training pitch to get the best out of set pieces and to provide improved service to the front players. Some performances like the first halves at Flint and Rhos and the game at the Deeside Stadium saw Port produce a brand of football that has not been seen for several seasons.

One essential in building a successful team is to have the right spirit within the squad and without a reserve team Gareth Parry has had to rely on an 18 man squad. This has meant several players remaining on the sidelines yet the players have remained loyal to the club and the manager. During the closing stages of the season injuries struck big time and but for the dedication of a number of squad, playing on despite injuries, it would not have been possible to put a team on the pitch.

Attention will now turn to season 2011/12 and if Port are to mount a serious challenge at the top of the table then the team will need strengthening. No one is more aware of this than the manager. Developments are ongoing and are something we will be made aware of over the next month or so.





Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us