Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Ail Dîm / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
19/05/09
Bwrdd y Gynghrair i gyfarfod / WPL Board to meet

Y Dafydds yn erbyn y Goleiaths / The Davids against the Goliaths Deallwn fod cyfarfod o Fwrdd Uwch Gynghrair Cymru wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau (21 Mai) pryd mae’n siwr fydd yr aelodau yn derbyn adroddiad oddi wrth eu hunig gynrychiolydd ar Gyngor y Gymdeithas Bêl-droed, sef Mike Harris o TNS. Gyda thri clwb, Derwyddon Cefn, Porthmadog a Phrestatyn eisoes wedi mynegi eu gwrthwynebiad i benderfyniad y Cyngor mae’n siwr fydd y trafod yn fywiog a phoeth. O ddiddordeb mawr fydd ymateb y saith clwb sydd yn barod yn dal y Drwydded Domestig. Nid yw llwyddiant yn y presennol bob amser yn parhau i’r dyfodol fel y tystia’r Barri,Cwmbrân, Conwy ac Inter Caerdydd. Mae’r hyn sydd yn digwydd i glybiau o dan y 10 uchaf yn fater o bwys i bawb. Mae’n werth sylwi fod y Gymdeithas Bêl-droed a phleidlais aur yn y cyfarfod sydd yn rhoi y gair olaf iddynt hwy. Gobeithio felly y byddant yn barod i wrando ar lais y clybiau.

We understand that a meeting of the Welsh Premier League Board has been arranged for Thursday (May 21st) when board members will presumably receive a report from their sole representative on the FAW Council, Mike Harris of TNS. With three clubs Cefn Druids, Porthmadog and Prestatyn having already expressed their opposition to the decision of the Council there will surely be some heated debate. Of great interest will be the response of the 7 clubs who already hold Domestic Licenses. Success in the here and now does not always last, as Barry Town, Inter Cardiff, Conwy United and Cwmbran will no doubt testify, so what goes on below the top ten must concern all clubs. But even in a meeting of the League Board the final decision will lie with the FAW who hold a golden vote. Let’s hope on this occasion they will want to listen to reason.
18/05/09
Canlyniad y Lotri Wythnosol / Weekly Draw Result

Enillydd gwobr wythnos 20 o £100 yn Lotri Wythnos Clwb Pêl-droed Porthmadog yw rhif 121 Nellie Ballard. Am eich cyfle chi i ennill, llenwch y ffurflen hon.

Ffurflen Gais / Application Form PDF | Mandad Archeb Sefydlog / Standing Order Mandate PDF

The winner of the £100 prize in week 20 of the Porthmadog Football Club Weekly Draw is No 121 Nellie Ballard. For your chance to win, fill the above form.
17/05/09
Dau dîm yn ffeinal Cwpan yr Academi / Welsh Academy Cup Finals on Sunday

Beth am ddyfodol y plant Mr Collins? / What about our kids future Mr Collins? Bydd y dair ffeinal yng Nghwpan Academi Cymru yn cael eu cynnal ar Barc Latham, Y Drenewydd dydd Sul nesaf, 24 Mai. Bydd yna dimau o Borthmadog yn chwarae mewn dwy o’r dair ffeinal:
Dan-12 v Merthyr Tydfil gyda’r gic gyntaf am 11.30 am.
Dan-16 v Castell Nedd gyda’r gic gyntaf am 2.30 pm.
Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob gêm i’r enillwyr a hefyd i’r clwb sydd yn ail. Bu hwn yn dymor o lwyddiant rhyfeddol i’r Academi i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr ac i’r gweinyddwyr, a dymunwn pob llwyddiant iddyn nhw dydd Sul nesaf. Gobeithio y cawn gefnogaeth dda.
Bu hon yn wythnos pan fod penderfyniadau pellgyrhaeddol, a fydd yn effeithio dyfodol y gêm yng Nghymru, yn cael eu gwneud. Tybed, wrth wneud eu penderfyniad gorffwyll, faint o ystyriaeth a rhoddwyd i ariannu academi, fel un Port, i’r dyfodol? Os na fydd y Gymdeithas Bêl-droed yn ariannu ac yn cynnal pob academi yn ddigonol byddant yn methu yn eu cyfrifoldeb am ddatblygu’r gêm, yng Nghymru, ymysg Ieuenctid.

All finals of the Academies Cup will be played at Latham Park, Newtown on Sunday 24th. May. Porthmadog teams are involved in two out of the three finals and will play their finals as follows:
Under 12s vs Merthyr Tydfil. KO 11.30am
Under 16s vs Neath FC KO 2.30pm
Trophies will be awarded after each game with medals for winners and runners up. It has been a season of outstanding achievement for the Academy its players coaches and administration and we wish the two teams all the best next Sunday. They deserve to be well supported.
In a week when far reaching decisions have been taken which will affect the future of the game in Wales how much consideration was given to the future funding of Academies when the FAW Council made their crackpot decision. If these Academies are not properly funded the FAW will have failed in their responsibility to develop the game amongst youngsters in Wales
17/05/09
Meilir Owen yn amau gwerth y Deg Disglair / Meilir Owen doubts value of Super 10

Radio Cymru Cymharodd Meilir Owen, cyn rheolwr Porthmadog a sylwebydd ar Radio Cymru, benderfyniad clybiau llai y gogledd yn pleidleisio o blaid opsiwn y ‘Deg Disglair’ i ddyn yn pleidleisio o blaid cael ei grogi. Ychwanegodd Phil Jones, cadeirydd Port a oedd hefyd yn rhan o’r drafodaeth ar ‘Taro’r Post, fod Porthmadog wedi methu denu yr un clwb i eilio’r cynnig i ailystyried y penderfyniad i fynd am opsiwn y Deg Disglair. “I raddau,” meddai, “mae’r clybiau wedi dod a hyn ar eu pennau drwy rhoi pres fewn i chwaraewyr yn lle datblygu’r clwb a’r caeau.
Gofynnodd Meilir Owen, “Ar ba sail y daethpwyd i’r casgliad fod torri i ddeg clwb yn mynd i arwain at wella safonau? Pa ymchwil sydd wedi i wneud?” Crybwyllodd enghreifftiau Barri, Cwmbrân ac Inter Caerdydd, pob un wedi ddiflannu fel seren wib yn dilyn llwyddiant dros dro yn unig. “Clybiau sydd wedi dyfalbarhau ac wedi eu rhedeg yn dda ac yn ddarbodus ydy dyfodol y gynghrair. “Beth ydy nod y gynghrair?” gofynnodd. “ Gwella safonau pêl-droed yng Nghymru ynteu plesio UEFA drwy wneud ychydig yn well yn Ewrop heb byth lwyddo i gystadlu gyda’r gwledydd mawr?
Mae’n amlwg fod Meilir Owen o’r farn fod clybiau sydd wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau a fwy i gynnig na’r clybiau hynny sydd yn derbyn chwistrelliad o bres mawr dros dro. Ond y clybiau cymunedol yma fydd yn colli allan o dan y drefn newydd heb yr ysgogiad o ennill dyrchafiad.

Meilir Owen former Porthmadog manager, and now a Radio Cymru pundit, likened the decision of the smaller northern clubs, to vote for the Super Ten option, to a man voting for his own execution. Phil Jones, Port chairman also appearing on the discussion programme ‘Taro’r Post’, added that when Porthmadog proposed to the league committee that the Super Ten option be reconsidered they failed to even get a seconder so that their proposal could be put to the vote. “Clubs had to an extent brought this on their own heads,” he said “with many putting their money into paying for players rather than develop their clubs and stadia.”
Meilir Owen asked, “On what basis has the decision to cut the league to 10 clubs been made? What research has been undertaken to show that this is the way to go?” He cited the examples of Barry Town, Cwmbran and Inter Cardiff -clubs who disappeared from the scene after a short period of prominence. He said that in the longer term smaller clubs, who have stuck to the task and been careful with their hard earned cash, are more important to the future of the league. “What is the FAW aiming to achieve?” he asks. “Is it to improve standards of football in Wales or just to impress UEFA and make small advances in Europe without ever being able to compete with the larger countries?
It is clear that Meilir Owen feels that the community based clubs, who are in danger of being excluded without the incentive of promotion, have more to offer than those clubs who get a sudden influx of cash that might not be there in the future.
14/05/09
Y clwb yn ymateb i benderfyniad yr FAW / Club responds to FAW decision

Gerallt Owen Ymatebodd CPD Porthmadog gyda syndod a dicter i benderfyniad yr FAW i dorri nifer y clybiau yn Uwch Gynghrair Cymru o ddechrau tymor 2010/2011 i 10 a gyrru yr 8 clwb arall i lawr i’r Cymru Alliance neu i Gynghrair Cymru Adran 1. Mynegodd Gerallt Owen, ysgrifennydd Porthmadog, ei ddicter gan ddweud, “Nid i hyn y gytunodd y clybiau yng Nghroesoswallt y llynedd. Penderfynwyd ar ddwy gynghrair o ddeg er mwyn diogelu dyfodol yr 8 clwb na fyddai yn y “Deg Disglair” fel y’u galwyd. Rwan mae’r wyth clwb yma wedi’u taflu i’r pedwar gwynt heb unrhyw fwriad i ddiogelu eu dyfodol. Ychwanegodd, “Yr hyn sy’n fy ngwylltio i mwy na dim ydy fod yr 8 clwb yn mynd i golli statws Academi gyda cannoedd o ieuenctid rhwng 8 ac 16 oed yn colli’r cyfle i wella a datblygu fel pêl-droedwyr. Sut fydd pêl-droed yng Nghymru yn elwa o hyn? Mae’r penderfyniad yn fy marn i yn ganlyniad i’r hyn a fu’n fwriad gan yr FAW ers hir, sef i gwtogi’r gynghrair er mwyn i’r arian pitw maent yn rhoi i’r gynghrair fynd ymhellach ac yn haws i’w gwtogi ym mhellach yn y dyfodol. Mae holl waith caled nifer fawr o bobl wedi’i danseilio yn llwyr gan yr FAW. Does gan y bobl yma ddim math o syniad am y gwaith caled iawn sydd yn cymryd lle i gynnal y clybiau yma. Rydym ni ym Mhorthmadog wedi buddsoddi degau o filoedd o bunnoedd llai na dwy flynedd yn ôl i adeiladu Clwb Cymdeithasol a fyddai’n sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y tymor hir. Ond mae’r penderfyniad mympwyol ac unochrog hwn yn rhoi dyfodol y clwb yn y fantol. Bydd colli statws UGC yn golygu toriad sylweddol yn incwm y clwb. Gobeithio fydd yna gyfarfod brys o’r clybiau yn cael ei gynnal i geisio gorfodi’r FAW wyrdroi’r penderfyniad hwn, a hyd yn oed bygwth gweithredu’n gyfreithiol neu drwy streic. Ond mae hyn y ddibynnol ar ymateb y clybiau mwy a gweld os fyddant hwy yn meddwl o gwbl am y gweddill. Efallai ein bod yn brwydro dros rhywbeth sydd wedi ei golli’n barod ond ryw’n teimlo ein bod wedi cael ein bradychu.”

Porthmadog FC have reacted with shock and anger at the FAW decision to reduce the Welsh Premier League to 10 clubs as of 2010/2011 and relegate the remaining 8 clubs to the Cymru Alliance and Welsh League Division 1. Porthmadog Secretary Gerallt Owen voiced his anger by saying "This was not what the clubs agreed to in Oswestry last year. The two Leagues of 10 was adopted so that the future viability of the 8 clubs not in the so called “Super 10” could be ensured. These 8 clubs are now thrown to the wolves with no regard for their future.” He added “What really angers me is that the Academy status of the eight clubs will now be lost with hundreds of young players between 8 and 16 deprived of the opportunity to improve and develop as footballers, how does this benefit Welsh football. The decision in my view is the culmination of a long held aim of the FAW to reduce the League so that the paltry financial support it gives the League will go further and provide it with the opportunity in future to reduce this backing even further. All the hard work and effort of so many people has now been totally undermined by the FAW. These people have absolutely no idea of the sheer hard work that goes on to maintain the clubs. We at Porthmadog FC have invested tens of thousands of pounds less than two years ago in building a Social club which would provide long term financial stability for the club, but this arbitrary and unilateral decision puts the club’s whole future in grave jeopardy. The loss of Welsh Premier status will mean a severe reduction in income. I would hope that an urgent meeting of clubs can be held to try and force the FAW to overturn this decision, even using the threat of legal action or even strike action, however it remains to be seen whether the bigger clubs will give a second thought to the rest of the clubs and we may well be fighting a losing battle, but I feel a deep sense of betrayal.”
14/05/09
Diddymu’r ffenestr drosglwyddo? / Transfer window scrapped?

Yr FAW yn cicio'r clybiau bach tra maen nhw lawr /FAW put the boot in on the smaller clubs Adroddir ar wefan y Cymru Alliance fod y ffenestr drosglwyddo i bob cynghrair, heblaw am Uwch Gynghrair Cymru, i’w ddiddymu. Golyga hyn fod y cynghreiriau yma yn medru cofrestru chwaraewyr o 1 Mehefin 2009 tan y dydd Iau olaf ym Mawrth 2010, tra fod yr Uwch Gynghrair ond yn medru gwneud rhwng 1 Mehefin 2009 a’r 1 Medi 2009 ac eto ym mis Ionawr. Yng ngogledd Cymru o ganlyniad bydd clybiau yn y Cymru Alliance yn medru arwyddo chwaraewyr ymylol o glybiau UGC tra fydd y clybiau yna yn methu arwyddo neb i gymryd eu lle. Yr unig ateb felly fydd i gynnal carfanau enfawr neu rhoi pob chwaraewr ar gontract. Pan ofynnwyd i swyddog o’r FAW am hyn awgrymodd y bydd rhaid i bob chwaraewr fod ar gytundeb. Ond byddai effaith ariannol hyn ar glybiau llai, sydd wedi arfer cadw y mwyafrif o’u chwaraewyr yn ddigytundeb, yn enfawr. Dywedodd Gerallt Owen, “Mae’n anghredadwy fod y penderfyniad hwn wedi ei gymryd heb unrhyw ymgynghoriad gyda’r clybiau ac yn tanlinellu dyfnder anwybodaeth yr FAW ynglyn â’r ffordd mae’r clybiau yn gweithredu. Mae’r penderfyniad hwn, ynghyd a’r penderfyniad i beidio cael ail adran, yn golygu fod yr FAW wedi tanseilio 16 mlynedd o ddatblygu Uwch Gynghrair Cymru ac yn sicrhau fod clybiau llai yn cael eu taflu o’r neilltu neu efallai i ddiflannu’n gyfan gwbl. Mae hyn yn gwneud ichi ofyn a ydy’r FAW yn addas i’r pwrpas o drefnu pêl-droed er lles pawb yng Nghymru.”

It is reported on the Cymru Alliance website that the transfer window for all directly affiliated leagues apart from the Welsh Premier has been scrapped. This is another body blow to The Welsh Premier League. It means that these Leagues can register players from June 1st 2009 up until the last Thursday in March 2010, while the Welsh Premier League can only do so from June 1st to 1st September and again in January. The consequence of this for clubs in north Wales is that Cymru Alliance clubs will be able to pick off fringe players from Welsh Premier sides while they will not be able to replace them. The only way to alleviate this is to keep massive squads or put all players on contract. When confronted on this matter an FAW official suggested that all players will have to be on contract, however the financial implications of this is massive for smaller clubs who have tended to have the majority of their players on non-contract forms. Gerallt Owen said “It beggars belief that such a decision could be taken with no consultation and just underlines the depth of ignorance of how Welsh Premier League clubs operate from the FAW. This decision together with the scrapping of the second-tier means the FAW have undermined 16 years of development of the Welsh Premier League and ensured that smaller clubs are doomed possibly to oblivion, it makes you wonder if the FAW are fit for purpose, namely running Welsh football for the benefit of all”.
13/05/09
Penderfyniad y Gymdeithas a chanlyniadau mawr / Super 10 decision has serious consequences

Un o'r dynion mewn siwtiau / One of the men in suits Gollyngwyd andros o fom gan y Gymdeithas Bêl-droed wrth iddynt gyhoeddi, nid yn unig i fynd ymlaen a’r Deg Disglair ond yn fwy perthnasol, i beidio cael ail adran. Golyga hyn, ar ddiwedd 2009-10, bydd yr 8 clwb sydd heb eu cynnwys yn yr elit o 10 yn cael eu taflu i dywyllwch anobaith y Cymru Alliance neu Cynghrair Cymru’r De. Unwaith eto mae’r Gymdeithas wedi penderfynu newid y rheolau yng nghanol y gêm a thrwy hyn gadael i lawr y clybiau sydd yn rhan o’r gymdeithas. Maent wedi camddefnyddio eu feto i fynd dros ben clybiau’r Gynghrair a’r Bwrdd. Rhybuddiwyd y Gymdeithas ers talwm fod yna broblemau gyda’r ail lefel ond yn lle edrych eto ar y mater, a chwilio am ateb, maent wedi cymryd bwyell a thorri ffwrdd yr 8 diangen. Gallent fod wedi edrych yn fwy eang ar y pyramid ac ystyried atebion eraill fel cael ‘rhaniad yn y tymor’ a fyddai wedi creu elit heb orfod torri nifer y clybiau mewn ffordd mor ddramatig. Yn lle mae’r Gymdeithas wedi dewis ein atgoffa cyn lleied o ddiddordeb sydd ganddynt yn y gêm ddomestig.
Unwaith aiff y clybiau yma i lawr ychydig iawn o obaith fydd am ddyrchafiad wedyn. Mae yr un fath yn wir am y clybiau yn y pyramid sydd ac uchelgais, bydd y drws yn cau. Bydd grantiau’r gymdeithas yn mynd i’r 10, a fydd neb arall yn medru cystadlu. Bydd y torfeydd ar i lawr a fydd yna ddim cyfiawnhad dros wario ar welliannau diangen. Bydd y Deg Disglair yn aros yn eu lle heb obaith am ddyrchafiad i’r gweddill, a felly neb yn mynd i lawr chwaith. Dyma mae’n siwr mae’r dynion mewn siwtiau’n ddymuno eu weld.
Ni fydd Academïau y clybiau hyn yn cael eu hariannu gan y Gymdeithas a bydd y ieuenctid yn cael eu gadael i lawr yn ddrwg. (Barn y wefan yn unig ydy hyn ac nid y clwb a’u swyddogion.)

Dyn arall mewn siwt / Another man in a suit The FAW has launched a major bombshell with its decision to go ahead with the Super 10 but more significantly to scrap the second tier. This will mean that at the end of season 2009-10 the 8 clubs not making it to the elite 10 will be cast into the outer darkness of the Cymru Alliance and the Welsh League (south).
Once again the FAW has decided to change the rules midway through the game and has badly let down member clubs. It has seriously abused the power of its veto to overrule the decision of the WPL clubs and Board. The FAW were warned some time ago that there were serious problems with the second tier concept but instead of tackling the matter and looking for a solution they have taken an axe to it and amputated the unwanted appendage. They could and should have taken a broader look at the pyramid and considered a ‘split season’ solution which would have achieved an elite without such a dramatic reduction in the number of clubs. Instead the FAW has chosen to remind us of their lack of interest in the domestic game.
Once they have been demoted these clubs, together with ambitious clubs in the pyramid, will find little hope of promotion. The FAW grants for improvement will be shared amongst 10 and the rest will wither unable to compete. Gates will drop even further and it will not be sensible to make improvements which will no longer be needed. The Super 10 will become a closed shop which is probably what the men in suits want to happen.
The Academies of the discarded 8 will no longer be financed and youngsters will be badly let down. (These are the views of the website and don’t necessarily represent the views of the club or its officials.)
12/05/09
Dan-14 yn colli allan / Under-14s lose out

Academi / Academy Sicrhaodd y ddwy gôl a ddaeth yn chwarter awr gyntaf yr ail hanner mai Derwyddon Cefn oedd yn rheoli’r rownd cyn derfynol o Gwpan Academi Cymru ar y Traeth neithiwr (11 Mai). Yn yr hanner cyntaf hogiau Port oedd yn bygwth fwyaf ond yn methu cymryd mantais o nifer o cyfleoedd a grëwyd gyda chwarae celfydd. Ond er fod y ddau golwr wedi gorfod gwneud arbediadau da, di-sgôr oedd hi ar yr hanner. O ddechrau’r ail hanner cyflymodd y Derwyddon eu gêm gan ymosod yn fwy uniongyrchol a wneud defnydd da o’r gwynt cryf. Pum munud i fewn i’r ail hanner aethant ar y blaen diolch i bêl dda o ganol cae gyda’r ymosodwr yn cymryd y cyfle yn dda. 10 munud yn ddiweddarach daeth yr ail gôl i’r Derwyddon yn dilyn symudiad da gyda’r bêl yn cael ei phenio i’r rhwyd o 10 llathen. Daliodd hogiau Port i frwydro a chyn y diwedd llwyddo i greu un neu ddau o gyfleoedd eu hun yn erbyn tîm mawr a chryf y Derwyddon. Ond noson yr hogiau o Wrecsam oedd hon gyda trydedd gôl yn dod yn yr amser ychwanegol o ergyd wych o 30 llathen. Pob hwyl i’r Derwyddon yn y Ffeinal. Sgôr terfynol; Porthmadog 0 Derwyddon Cefn 3.
I gael manylion llawn am dymor gwych yr academi cliciwch yma

Two goals in the 15 minutes immediately after half-time put Cefn Druids in control of last night’s (May 11) Welsh Academies Cup semi-final at the Traeth. In the opening half the Port youngsters had been the more threatening and will rue the fact that they failed to take advantage of the chances which they created resulting from some good approach play. Though both keepers had to pull off some smart saves it remained scoreless at half-time. From the start of the second period the Druids upped the pace and made good use of the stiff breeze on their backs to launch more direct attacks. Five minutes into the second period a fine through ball split open the home defence and was well taken by the Druids front man to open the scoring. 10 minutes later they added a second thanks to a slick move finished with a good header from 10 yards. To their credit the Port lads stuck to their task against a big forceful Druids outfit, but though they came back to create a few late chances this was the Druids’ night. They added a third with a powerful 30 yard strike in injury time. Best of luck to Cefn in the final. Final score: Porthmadog 0 Cefn Druids 3.
For full details of the academy's excellent season click here
Cwpan Black Dragon Cup 12/05/09
Ffeinal Gwynedd ar y Traeth / Gwynedd Final at the Traeth

Cynhelir ffeinal Uwch Gwpan Black Dragon Gwynedd ar y Traeth nos Fercher (13 Mai) rhwng Blaenau Ffestiniog a Llangefni. Bydd y gic gyntaf am 7.30 pm.

The final of the Black Dragon Gwynedd Premier cup will be played at the Traeth on Wednesday night (May 13) between Blaenau Ffestiniog and Llangefni. The game will kick off at 7.30 pm.
11/05/09
Perfformiad Teyrnged Tom Jones ar y Traeth / Tom jones tribute act at y Traeth

Tom Jones - Perfformiad teyrnged / Tribute act @ Y Traeth Bydd perfformiad teyrnged Tom Jones ar y Traeth nos Sadwrn gyda’r canwr Ian Anthony, a bydd y noson hefyd yn cynnwys disgo rhwng y setiau. Bydd y cyfan yn dechrau am 8pm. Mae’r tocynnau ar werth am £6 yn Kaleidascope, Siop Eifionydd a Pike’s. I gael rhagor o fanylion ffoniwch Dylan Rees ar 07900512345.Gwynedd

A Tom Jones tribute act will be held at y Traeth on Saturday night with singer Ian Anthony, and the evening will also incude a disco between the sets. It all starts at 8pm. Tickets are on sale for £6 at Kaleidascope, Siop Eifiontdd and Pike’s. For further details phone Dylan Rees on 07900512345.
07/05/09
Cyngerdd Dafydd Iwan wedi'i ohirio/ Dafydd Iwan concert postponed

Bydd rhaid gohirio’r cyngerdd gyda Dafydd Iwan a’r Tebot Piws a oedd i’w gynnal ar y Traeth nos yfory (8 Mai). Achoswyd difrod mawr i’r babell gan y gwyntoedd cryf –fel y gwelir yn y llun- gan ei gwneud yn amhosib i’w ddefnyddio ar gyfer y cyngerdd. Dymuna’r clwb ymddiheuro i’r rhai a oedd wedi prynu tocynnau ymlaen llaw ac yn edrych ymlaen at y noson boblogaidd hon. Bydd y rhai a brynodd docynnau yn gallu cael ad-daliad.

Highslide JS
Y difrod i'r marci ar y Traeth / The damage to the Marquee on the Traeth.
  Highslide JS
Y gwynt yn cael y gorau ar y Marci / The wind gets the better of the Marquee

The concert featuring Dafydd Iwan and Tebot Piws to be held at the Traeth tomorrow night (May 8) has unfortunately had to be postponed. Strong winds last night and today have caused major damage to the marquee -as can be seen in the photo- making it impossible to proceed with the concert. The club wishes to apologise to those who have purchased tickets and were looking forward to this popular event. Those who have bought tickets will be able to claim a refund.
07/05/09
Rownd cynderfynol Dan-14 / Semi-final for U-14’s

Nos Lun nesaf, 11 Mai, bydd tîm Dan-14 yr Academi y ceisio efelychu y timau Dan-12 a Dan-16 a chyrraedd Ffeinal Cwpan Academi Cymru yn ei grwp oed. Bydd y rownd cynderfynol yn cael ei chwarae ar y Traeth gyda’r gic gyntaf am 7.30 pm a’u gwrthwynebwyr fydd tîm Dan-14 Derwyddon Cefn. Sicrhaodd hogiau Port eu lle yn y rownd cynderfynol drwy guro Y Drenewydd o 3-1. Bu hwn yn dymor o lwyddiant rhyfeddol i Academi Port felly dewch nos Lun i gefnogi’r hogiau Dan-14 sydd yn cael eu hyfforddi gan Chris Jones (Mynytho).

On Monday May 11th the Academy U-14’s will seek to emulate the U12’s and U-16’s and reach the final of their age group Welsh Academies Cup. The semi-final will be played at the Traeth with a 7.30 pm kick off when they take on Cefn Druids U-14’s. The Porthmadog lads earned their semi-final place thanks to a 3-1 win over Newtown. This has been a season of marvellous achievement for the Port Academy so come along, on Monday evening, and support the U-14’s who are coached by Chris Jones (Mynytho).
06/05/09
Dafydd Iwan a’r Tebot Piws ar y Traeth / Dafydd Iwan and Tebot Piws on the Traeth

Nos Wener nesaf, (8 Mai) ar y Traeth cynhelir ‘Noson Fawr y Flwyddyn’ -cyngerdd gyda DAFYDD IWAN a’r TEBOT PIWS. Bydd hwn yn rhan o ddathliad 125 mlynedd o bêl-droed ar y Traeth. Bar 8pm tan 11.30 pm. Bydd tocynnau ar gael ar y noson neu o siopau lleol. Manylion pellach cysylltwch â Dafydd Wyn ar 07810057444

On Friday (May 8th) a major concert featuring legends DAFYDD IWAN and TEBOT PIWS will be held at the Traeth. This concert forms part of the 125th anniversary celebrations of the Porthmadog club. Tickets will be available on the night or from local shops. For further details contact Dafydd Wyn on 07810057444.
05/05/09
Yr Ail Dîm yn Ebrill / Reserves April round-up

Cynghrair Gwynedd / Gwynedd League Roedd Ebrill yn fis prysur gyda chwech o gemau cynghrair yn ystod y cyfnod. Roedd hyn yn cynnwys dwy gêm yn erbyn Blaenau Ffestiniog, pencampwyr Cynghrair Gwynedd 2008/09. Llongyfarchiadau i’r cymdogion ar ei llwyddiant a phob dymuniad da yn y Welsh Alliance y tymor nesaf. Gemau agos iawn oedd y ddwy gêm gyda goliau hwyr, ddwywaith, yn rhoi’r pwyntiau i Blaenau. Ar y Traeth sgoriodd Cai Jones ar ôl 64 munud i ddod a’r sgôr yn gyfartal wedi i Gareth Roberts rhoi Blaenau ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Sicrhaodd Blaenau y 3 phwynt gyda gôl ddadleuol hwyr Ceri Roberts. Yng Nghae Clyd cafwyd dwy gôl gynnar iawn wrth i Danny Rylance sgorio ar ôl 2 funud cyn i Blaenau ddod yn gyfartal pum munud yn ddiweddarach. Keiron Ellis, gyda 8 munud yn weddill sicrhaodd y fuddugoliaeth i Blaenau. Roedd y mis wedi cychwyn gyda buddugoliaeth dros Real Llandudno gyda un gôl yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau. Y fuddugoliaeth arall a gafwyd yn ystod y mis oedd yr un dros Llanfairfechan ar y Traeth. Wedi’i Cai Jones roi Port ar y blaen daeth Llanfairfechan yn gyfartal ar ôl hanner awr ond cyn yr hanner amser sgoriodd Cai Jones ail gôl. Aeth Port ym mhellach ar y blaen diolch i Danny Rylance cyn i gol hwyr Hardman wneud y sgôr yn 3-2 i Port. Yr un oedd y sgôr yn erbyn Gwalchmai ond yr ymwelwyr o Ynys Môn aeth â’r tri phwynt er i Guto Davies sgorio i Port o’r smotyn gyda Mark Bridge yn sgorio’r llall. Cyfartal oedd gêm olaf y mis, adref yn erbyn Bontnewydd, gyda Steven Jones, o’r smotyn, a Dylan Smith yn sgorio goliau Port.

April was a busy month for the Reserves with six league matches during the period. These included two matches against Blaenau Ffestiniog, the club who have taken the 2008/09 Teejac Gwynedd League title. Congratulations to Blaenau who have proved themselves worthy champions and we wish them well in the Welsh Alliance. The two games against Blaenau proved to be close affairs though conceding late goals, on both occasions, allowed the points to slip away from the Traeth team. At the Traeth Cai Jones’s goal on 64 minutes brought the scores level after Gareth Roberts had put Blaenau ahead in the first half. But Blaenau snatched all three points thanks to Ceri Roberts’s hotly disputed late goal. At Cae Clyd the teams had scored a goal each within 7 minutes of the start with Danny Rylance’s opener coming after only 2 minutes. With only 8 minutes left Keiron Ellis secured all three points for Blaenau. The month had opened with a win against Real Llandudno when a single goal was enough to secure the points. The other victory during the month came at home to Llanfairfechan. In the opening half Cai Jones opened the scoring but Llanfairfechan drew level after half an hour only for Cai Jones to restore the lead before the interval. Danny Rylance added a third after the hour mark and Hardman scored a consolation for the coast team making the final score 3-2. The same score line gave Gwalchmai 3 points at the Traeth with Guto Davies scoring from the spot and Mark Bridge adding the other Port goal. The other game in April produced a home 2-2 draw with Bontnewydd. Steven Jones scored from the spot with Dylan Smith getting the second.
05/05/09
Canlyniad y Lotri Wythnosol / Weekly Draw Result

Enillydd gwobr wythnos 18 o £100 yn Lotri Wythnos Clwb Pêl-droed Porthmadog yw rhif 152 Gwenda Davies o Gellilydan. Am eich cyfle chi i ennill, llenwch y ffurflen hon.

Ffurflen Gais / Application Form PDF | Mandad Archeb Sefydlog / Standing Order Mandate PDF

The winner of the £100 prize in week 18 of the Porthmadog Football Club Weekly Draw is No 152 Gwenda Davies of Gellilydan. For your chance to win, fill the above form.
02/05/09
Dan-16 yn cyrraedd Ffeinal Cwpan Academi Cymru / U-16’s reach the Welsh Academies Final

Academi / Academy Mewn brwydr galed neithiwr (1 Mai) rhwng dau dîm talentog, ar gae’r Oval, Caernarfon llwyddodd tîm Dan-16 Porthmadog ennill lle yn Ffeinal Cwpan Academi Cymru drwy guro eu cyfoedion o Gei Conna o 3-1. Ond nid yw’r sgôr yn dweud y stori gyfan gan ni ddaeth 3ydd gôl Port tan 3 munud i mewn i amser anafiadau pan gymerodd Cai Jones fantais o bêl dda i fewn i’r blwch o’r dde i daranu’r bêl i gefn y rhwyd o 15 llath. Roedd Port wedi cychwyn y gêm yn dda Iwan ac am yr ugain munud agoriadol wedi edrych yn debycach i agor y sgorio ond gyda 25 munud wedi mynd manteisiodd Cei Conna ar gamgymeriad yn y cefn i agor y sgorio. O hyn ymlaen tan hanner amser hogiau Cei Conna oedd yn rheoli ac yn edrych yn debygol o sgorio eto. Ond daeth Port allan ar ôl yr egwyl yn benderfynol o ddod a’r sgôr yn gyfartal. Daeth y cyfle ar ôl 55 munud wrth i amddiffynnwr lawio’r bêl gan rhoi cic o’r smotyn i Port. Tarodd Iwan Lane y bêl i’r rhwyd gyda ergyd gywir. Er fod y chwarae yn mynd o un pen i’r llall ar ôl 67 munud Port sgoriodd yr ail gôl holl bwysig wrth i Cai Jones basio’n gelfydd i roi’r Jac Jones gweithgar drwodd i guro golwr Cei Conna gyda ergyd dda. Port oedd ar y blaen am y tro cyntaf ond roedd y deg munud olaf yn llawn tensiwn wrth i Cei Conna ddal i frwydro -tan i Cai Jones sgorio trydedd gôl Port a gwneud y fuddugoliaeth yn sicr.

In a hard fought semi-final, between two talented teams, last night (May 1st) at Caernarfon Town’s Oval ground Porthmadog U-16’s secured a place in the Welsh Academies Final by defeating their Connah’s Quay counterparts by 3-1. The score line does not tell the whole story as the third Port goal came deep into injury time when a cross from the right was played into the box for Cai Jones to settle the game with a powerful strike. Port had started the game well and for the first 20 minutes looked the more likely to open the scoring but after 25 minutes the Nomads took advantage of an error to open the scoring. From then on to half time the Nomads took charge and might have increased their lead. But straight from the start of the second period Port piled on the pressure and when a Nomads defender handled in the box Iwan Lane levelled the scores with a well struck 55th minute spot kick. Play was end to end but with 67 minutes gone Cai Jones slipped the ball through for the hard working Jac Jones to burst into the box and take his chance well putting Port in the driving seat. The final ten minutes was full of tension as the Nomads fought hard to get back on level terms and this continued until Cai Jones finally made the game safe.
29/04/09
Canlyniadau’r Tote Misol a’r Lotri Wythnosol / Monthly Tote and Weekly Draw Results

Tynnwyd rhifau Tote Misol Clwb Cymdeithasol Pêl-droed Porthmadog ar gyfer mis Ebrill yn y Ganolfan ar nos Wener 24 Ebrill. Y rhifau a dynnwyd oedd 10 ac 18. Ar hyn o bryd mae gennym 2 enillydd, sef B Rowlands, Llanystumdwy a G W Rees, Pwerdy Trydan Trawsfynydd, sy’n ennill £180 yr un. Bydd y rhifau’n cael eu tynnu nesaf ddydd Gwener 29 Mai.
Nancy Powell Williams, rhif 140, yw enillydd gwobr wythnos 17 o £100 yn lotri wythnosol Clwb Pêl-droed Porthmadog.

Ffurflen Gais / Application Form PDF | Mandad Archeb Sefydlog / Standing Order Mandate PDF

The draw for the Porthmadog Football Social Club April Tote took place at Y Ganolfan on Friday 24th April. The winning numbers are 10 & 18. Subject to verification there are 2 winners, B Rowlands, Llanystumdwy and G W Rees, Trawsfynydd Power Station, who each receive £180. The next draw takes place on Friday 29th May.
Nancy Powell Williams, number 140, is the winner of the £100 prize in week 17 of the Porthmadog Football Club weekly draw.
28/04/09
Penwythnos gwych i’r Academi / Fantastic weekend for the Academy

Academi / Academy Mae’r Academi yn mynd o un llwyddiant i’r llall ac wedi cael penwythnos gwirioneddol wych gan ddechrau ddydd Sadwrn wrth i’r hogiau Dan-11 ennill cystadleuaeth Tarian Tom Yeoman. Cystadleuaeth Cymru gyfan oedd hon gyda’r wyth tîm gorau yn chwarae’r rowndiau terfynol ar gaeau’r Clwb Chwaraeon. Mae’r llwyddiant yma yn bluen yn het y chwaraewyr ifanc ac mae hwy a’u hyfforddwyr yn haeddu canmoliaeth mawr.
Yn dilyn hyn ar fore Sul diwethaf (26 Ebrill) chwaraewyd rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru ar y Traeth y timau Dan-12. Unwaith eto bu hogiau Port yn llwyddiannus gan guro tîm Dan-12 Bangor o 3-0 a sicrhau eu lle yn y rownd derfynol. Llongyfarchiadau i’r hogiau wrth i’r tymor orffen ar nodyn mor uchel.
Bydd y tîm Dan-16 yn chwarae eu rownd cynderfynol nos Wener nesaf (1 Mai) am 7 o’r gloch ar gae’r Oval, Caernarfon yn erbyn Cei Conna gan hefyd obeithio cyrraedd y rownd derfynol.
Bydd y tîm Dan-14 hefyd yn chwarae Cei Conna mewn gêm rownd cyn derfynol ar ddyddiad a mewn lleoliad i’w benderfynu (o bosib y Traeth).
Bydd manylion pellach am y llwyddiant yma ar ‘Tudalen yr Academi’ pan fyddant ar gael.

The Academy are going from success to success and have enjoyed a fantastic weekend. Starting on Saturday the U-11’s pulled off a remarkable triumph winning the Tom Yeoman’s Shield. This was an all-Wales tournament with the eight best teams having qualified to take part in the finals held at Clwb Chwaraeon. It is a wonderful achievement and the young players and their coaches are to be congratulated.
On Sunday the U-12’s played their Welsh Academy Cup semi-final against Bangor U-12’s on the Traeth and ran out worthy winners by 3-0 to book their place in the final. Once again congratulations lads this is turning out to be a truly amazing season for the Academy.
The U-16’s will be playing their semi-final at the Oval, Caernarfon on Friday (May 1st) at 7 pm when they meet Connah’s Quay U-16’s in their quest to gain a place in the final.
The U-14’s, not to be outdone, will also meet Connah’s Quay in their semi-final –date and venue to be announced (possibly the Traeth)
Further details of these successes will appear on the ‘Academy Page’ as soon as they become available.
28/04/09
Dau ddigwyddiad mawr cerddorol ar y Traeth / Two major musical events at the Traeth

Cynhelir dau ddigwyddiad cerddorol o bwys ar y Traeth dros yr wythnos nesaf gan gychwyn gyda GWYL PORTHMADOG ar ddydd Sadwrn (2 Mai) rhwng 12 canol dydd a 11.45 pm. Ymysg y bandiau blaenllaw fydd Derwyddon Dr Gonzo, Gwibdaith Hen Frân, Mr Huw, Gai Toms a Yucatan. Bydd yn bosib gwersylla dros nos Wener a nos Sadwrn. Gallwch brynu tocynnau yn Recordiau’r Cob (Porthmadog neu Bangor) neu Sip Eifionydd neu ar y dydd.
Yn dilyn hyn ar nos Wener, 8 Mai bydd yna gyngerdd ‘Noson fawr y Flwyddyn’ gyda DAFYDD IWAN a’r TEBOT PIWS yn rhan o ddathliad 125 mlynedd o bêl-droed ar y Traeth.
Am fwy o wybodaeth a/neu docynnau cysylltwch â Dafydd Wyn ar 07810057444 .

Two major musical events will be held at the Traeth during the next week starting with the PORTHMADOG FESTIVAL on Saturday (May 2nd) from 12 noon - 11.45 pm. Amongst the front line bands featured are Derwyddon Dr Gonzo, Gwibdaith Hen Frân, Mr Huw, Gai Toms and Yucatan. Camping is available on Friday and Saturday. Tickets can be bought at Cob Records (Porthmadog and Bangor) or Siop Eifionydd or on the day.
This is followed, on Friday, May 8th, by a major concert featuring legends Dafydd Iwan and Tebot Piws in a concert which forms part of the 125th anniversary celebrations.
For more information and/or tickets contact Dafydd Wyn on 07810057444.
25/04/09
Tomi i ddal ati ar y Traeth / Tomi commits future to Port

Tomi Morgan Rhoddodd y newyddion a dderbyniodd y cefnogwyr cyn gêm ddydd Sadwrn, fod Tomi Morgan i aros ar y Traeth, hwb enfawr i bawb. Mae eisoes yn cynllunio, a bydd ei benderfyniad yn golygu fod y clwb yn medru edrych ymlaen at gyfnod o sefydlogrwydd gyda rheolwr profiadol.
Mae Tomi yn ymwybodol o’r dasg sydd yn ei wynebu. Nid yw’n cael sefyllfa lle mae’r clwb wedi cadw eu hun i fyny o drwch blewyn am yr ail dymor yn olynol yn un i fod yn falch ohono.
Dywedodd wrth ‘Yr Herald’, “Pan ges i’r swydd dywedodd y cadeirydd ‘gwna’n siwr ein bod yn aros i fyny’ a llwyddo’n ni wneud hynny. Mae’r tablau yn dweud y gwir ac mae Port wedi gorffen yn drydydd o’r gwaelod dau dymor yn olynol.
“Bydd rhaid cryfhau cryn dipyn ac mae’r garfan yn rhy fach. Ni allwch chi gystadlu ar y lefel yma gyda 12 neu 13 o chwaraewyr, yn enwedig pan fydd yna anafiadau a gwaharddiadau. Rhaid cynyddu maint y garfan a hefyd gwella’r ansawdd.”
Ond mae’n ymwybodol fod hyn yn mynd i gostio i’r clwb ond roedd yn uchel ei ganmoliaeth o ymdrechion cefnogwyr a gwirfoddolwyr y Traeth.
“Mae strwythur a threfn y clwb o’r radd uchaf ac mae’r ffordd mae’r clwb yn cael ei rhedeg ymysg goreuon yn y gynghrair.
“Ond rwy’n siwr fod pawb yn derbyn fod y clwb wedi tangyflawni ar y cae yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a gobeithio y byddai i’n gallu newid hyn yn ystod y tymor nesaf.”

Supporters were delighted, prior to kick off on Saturday, to hear the news that Tomi Morgan has committed himself to the post of manager at the Traeth for the coming season and is already planning ahead. His decision means that the club can now look forward to a period of stability under an experienced manager.
Tomi is fully aware of the task facing him. He finds nothing to be proud of in just surviving as Port have done for the second successive season.
Talking to the ‘Herald’ he said, "When I got the job, the chairman said ‘make sure we stay up’ and we have managed to do that. But league tables don’t lie and Porthmadog have now finished third from bottom for two years running.
"We need to strengthen quite a bit because we are short on numbers. Having to rely on around 12 or 13 players you simply cannot compete at this level with such a small squad, particularly when injuries and suspensions kick in, so we need to get the numbers up and try to improve on the quality as well."
But he was fully aware that this would cost the club and he could not praise highly enough the efforts of supporters and back room volunteers at the Traeth.
"The infrastructure here and the set-up is absolutely top drawer and as far as the way the club is run it is right up there with the best in the league.
"But I’m sure everyone accepts that the club has probably under-performed on the field in the past couple of years and hopefully I can rectify that next season.
25/04/09
Hat-tric arall i Jiws /Another Jiws hat-trick

Marc Lloyd-Williams Sioe un dyn oedd y gwobrwyo diwedd tymor a ddilynodd y fuddugoliaeth dros Aberystwyth ddydd Sadwrn. Marc Lloyd Williams aeth â’r cwbl lot gan dderbyn tlws y prif sgoriwr am ei 27 o goliau a John Rowley gyda 12 a Gareth Parry a Chris Jones efo 5 yr un yn dilyn. Jiws hefyd aeth a gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr ac i gymeradwyaeth fawr, derbyniodd hefyd wobr arbennig o gloc i nodi ei lwyddiant arbennig yn cyrraedd 300 o goliau UGC. Wrth drosglwyddo’r anrheg dywedodd y cadeirydd Phil Jones. “Dyma record na fydd neb ohonom efallai yn gweld ei thorri.”
Mae sgorio 24 o goliau UGC mewn tîm sydd wedi gorfod brwydro yn y gwaelodion drwy’r tymor ymysg ei lwyddiannau mwyaf - a hynny mewn gyrfa sy’n llawn llwyddiant. Camp hefyd i’w dod yn drydydd yn rhestr sgorio UGC tu ôl i Rhys Griffiths a Martin Rose. Syndod felly ydy gweld fod neb o reolwyr ardal y Daily Post wedi gweld yn dda i’w enwebu yn chwaraewr y flwyddyn. Ta waeth, mae o’n ffefryn ar y Traeth a phawb yn edrych tua’r 350!

The end of season presentations, following Saturday’s victory over Aberystwyth, proved to be a predictable one man show. Marc Lloyd Williams scooped the lot receiving the shield for the highest scorer for his 27 goals ahead of John Rowley with 12 and Gareth Parry and Chris Jones with 5 apiece. He was also the supporters’ player of the season and, to the delight of the excellent turn out in the clubhouse, received a special award of a presentation clock to mark his remarkable 300th WPL goal. When making the presentation chairman Phil Jones commented, “This is a record few, if any of us, will see equalled in our lifetime.”
To score 24 WPL goals - making him third in the WPL list of scorers for 2008/09 behind Rhys Griffiths and Martin Rose - in a team which has struggled throughout the season must rank amongst Jiws’s greatest achievements in a career full of outstanding achievements. It is all the more remarkable therefore that no manager in the Daily Post area saw fit to nominate him as their player of the season. But we all love him at the Traeth and are already looking towards the 350!
23/04/09
Timau Academi yn y rownd gynderfynol / Academy teams in semi-finals

Heb unrhyw amheuaeth llwyddiant mawr y tymor fu perfformiadau arbennig tair carfan oed yr Academi. Bore Sul nesaf bydd y garfan Dan-12 yn chwarae rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru. Byddant yn chwarae Academi Bangor ar Y Traeth am 11am tra fydd y tîm Dan-16 yn chwarae Academi Cei Conna ar ddyddiad i'w benderfynu. Mae tim Dan-14 hefyd wedi cyrraedd y rownd cynderfynol ar ol curo'r Drenewydd o 3-1. Rhowch gefnogaeth i’r hogiau. Ewch ati hogiau!

Without doubt the great success story of this season has been the magnificent performances of the three Academy age-group squads. The U-12 squad will be involved in the Welsh Academy Cup semi-final this coming Sunday morning. The U-12’s will play Bangor Academy on the Traeth while the U-16’s will take on the Connah’s Quay Academy on a date to be decided.The U-14's have also reached the semi-final after beating Newtown 3-1 The lads deserve strong support on Sunday. Keep up the good work!
Newyddion cyn 23/04/09
News pre 23/04/09

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us