|
Port v Bangor 15/1/05 (English)
Bangor
Mae ymweliad clwb Dinas Bangor bob amser yn uchafbwynt y tymor. Mae yna berthynas dda rhwng y ddau glwb. Dw i’n cael croeso mawr ar Ffordd Ffarar pan af i weld gêmau Bangor ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae’r un fath yn wir pan ddaw swyddogion Bangor i’r Traeth. Mae’n dda gweld hyn mewn oes pan mae gor-gystadlu a drwg deimlad rhwng clybiau yn aml yn cael ei bwysleisio gan y cyfryngau.
Y Gem
Roedd gwneud y dwbl dros Fangor, un o dimau mawr y gynghrair, yn dangos sut y mae ein tîm ifanc wedi aeddfedu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Rhedodd yr hogiau drwy’r gêm gan osod pwysau mawr ar Fangor, a mynd ymlaen i ennill y gêm. Rydym yn glwb bach ond roedd hon yn fuddugoliaeth dda a dwi’n hapus iawn.
Pêl-droed yr Haf
‘Rydach chi gyd wedi gweld mae’n siŵr mai polo dŵr oedd y gêm fwyaf addas ar gyfer Y Traeth y pen wythnos diwethaf ! Daeth y lluniau o’r cae â’r syniad o bêl-droed yn yr haf i flaen fy meddwl. Er nad wyf wedi bod o blaid pêl-droed haf yn y gorfennol, mae’n rhaid dweud fod y syniad yn haeddu sylw yn arbennig pan ystyriwch golygfeydd yr wythnos ddiwethaf. Rwyf wedi clywed dadleuon cryf ar y ddwy ochr. Dywed y rhai traddodiadol mai gêm ar gyfer y gaeaf fu pêl-droed erioed a byddai symud i’r haf yn newid cymeriad y gêm. Mae yna broblemau ynglŷn â’r cynghreiriau eraill yn y pyramid ond, o gymryd amser i ystyried yn ofalus, gellir eu goresgyn. Wrth feddwl yn ôl at Ffordd Farrar yn mis Awst, cofiwn am ddiwrnod braf, torf fawr a chae mewn cyflwr perffaith. Tybed a fyddai mwy o bobol yn dod i weld y gêmau ym Mehefin a Gorffennaf? Ar y ffens ydw i ar y cwestiwn hwn. Rydan ni wedi chwarae ar gaeau trwm iawn yn ddiweddar hyd yn oed ar y Traeth a hefyd yn Y Trallwng a Llanelli sydd yn gwneud chwarae pêl-droed deniadol yn dasg anodd. Yr oll yr ydw i ei eisiau ydy beth sydd orau i’r gynghrair. Felly, os gall y gweithgor sydd yn edrych ar y mater fedru profi fod newid o’r fath o fudd i’r gynghrair, wedyn iawn fe ddylem fynd amdani. Rhaid aros i weld pa dystiolaeth fydd yn dod i’r amlwg.
Cyn-Chwaraewyr proffesiynol
Ers inni ddychwelyd i’r Uwchgynghrair, mae nifer y cyn chwaraewyr proffesiynol sydd yn y gynghrair wedi fy nharo. Mae llawer yn dod i’r gynghrair gan ddisgwyl amser hawdd. Yn sicr nid yw hynny’n wir. Un cyn chwaraewr proffesiynol sydd yn dal i gadw safon uchel o berfformiad o Sadwrn i Sadwrn ydy Clayton Blackmore. Yn bedwar deg oed, mae o’n rhoi’r cyfan i’r gêm gan ddangos ei allu, ei weledigaeth a’i basio cywir. Mae chwaraewr fel hwn, sydd wedi chwarae i Man U ac wedi ennill 39 o gapiau i Gymru, yn sicr o godi proffil y gynghrair ac mae ei gysondeb a’i ymrwymiad yn bluen yn ei het ac yn rhoi esiampl wych i chwaraewyr ieuengach, ddim yn unig ym Mangor ond hefyd ymysg y rhai sydd yn chwarae yn ei erbyn.
Nodyn Personol
Bu fy nai Jonathan Jones yn fascot ar gyfer gêm Bangor. Mae Jonathan, sydd yn unarddeg oed, yn edrych allan am sgôr Port bob Sadwrn ac mae’n ffrind i Eifion Jones sydd yn chwarae i Fangor. Felly roedd yn awyddus iawn i fod yn fascot ar gyfer y gêm hon. Rwy’n siŵr y cafodd ddiwrnod i’w gofio.
Port v Bangor 15/1/05
Bangor City
The visit of Bangor City is always a high point in our season. There is a good relationship between two clubs. I always get a good welcome at Farrar Road when I go to see Bangor games and I am extremely grateful. The same is true for Bangor officials when they come to the Traeth. This is nice to see in an age when rivalry and bad feeling between clubs is often highlighted and fanned by the media.
The Game
To have gained a double over Bangor, who are one of the big teams of the league, show how our young team has matured over the last 12 months. The lads ran, chased, harried and ground down Bangor. We are a little club but this was a great result and I am more than happy.
Summer Football
As you have all seen, I am sure, water polo could have been played here last week rather than football! The pictures certainly brought the idea of summer football to the forefront of my mind. I am not an advocate of summer football but the idea does have some merit, especially when you take last week’s scenes into consideration. I have heard some strong arguments on both sides. The traditionalists point out that football has always been a winter game and that switching the league to the summer would change the character of football. There are problems with regard to other leagues in the pyramid but these things can, in time and with careful thought, be overcome. When you think back to when Port played at Farrar Road in August, it was a lovely day, big crowd and great surface. Would more people be prepared to turn out if games were played in June or July? Personally I am sitting on the fence on this one. We have certainly played on some heavy pitches recently, even here at the Traeth and also at Welshpool and Llanelli making attractive football difficult. All I want is what is best for the league. If the working party looking into the matter can prove that such a change would benefit the league, then fine we should go for it. We shall have to wait and see what evidence they unearth.
Ex-pros
Since our return to the Welsh Premier, I have been struck by the number of experienced ex-pros who play in the league. Many come down to the Welsh Premier expecting it to be a stroll. It is certainly not that. One experienced ex-pro who seems to still achieve a high standard of performance week in week out is Bangor’s Clayton Blackmore. At forty, he still gets stuck in and on the ball, still shows his class, vision and passing ability. Players like him, ex-Man Utd and 39 caps for Wales, certainly raise the profile of the League and his consistency and commitment is a real credit to him and a great example to younger players not only at Bangor but those who play against him.
A personal note
My nephew Jonathan Jones was the mascot for the Bangor game. 11 year old Jonathan always looks out for the Port score and is a friend of Bangor’s Eifion Jones. He was particularly keen to be the mascot for this game. I am sure he had a day to remember.
|
|