Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Caerfyrddin 11/10/05 (Cwpan Cenedlaethol - Dim gêm) (English)

Sylwadau gan Campbell Harrison

Cwpan Cenedlaethol
Dyma ein gêm gyntaf yn y Cwpan Cenedlaethol a croesawn ein hymwelwyr Caerfyrddin sydd wedi gwneud y daith hir yng nghanol wythnos. Mae Caerfyrddin wedi gwneud cychwyniad cyson yn dilyn eu teithiau yn Ewrop. Cawsant fuddugoliaeth dda ym Mangor ac maent yn taro ar gyfnod da yn dilyn eu llwyddiant yn Ewrop. Bu gêmau rhyngom a Chaerfyrddin y tymor diwethaf yn gêmau agos a chyffrous.

Dyfarnu Anghyson
Byddwn yn dod i’r gêm yn erbyn Caerfyrddin mewn ysbryd da ar ôl rhwystredigaeth y gêm gyfartal yn erbyn Caersws. Unwaith eto roedd yn gêm y dylem fod wedi ennill ond ymddengys nad ydym yn cael llawer o lwc gyda phenderfyniadau’r dyfarnwyr hyd yma. Roedd yn hollol amlwg fod Les Davies wedi ei dynnu i lawr gan yr amddiffynnwr olaf (a hwnnw eisoes wedi derbyn cerdyn melyn) ychydig cyn hanner amser ddydd Sadwrn ond methodd y dyfarnwr â gweithredu llythyren y ddeddf gan yrru’r troseddwr o’r cae. Wnaiff yr un sefyllfa godi yn erbyn Y Rhyl, TNS, Bangor a Derwyddon Cefn ond un dyfarnwr yn unig (yn Cefn) yn gyrru’r troseddwr o’r cae. Yn y gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Airbus cafodd Ryan Davies ei yrru o’r maes, heb i’r dyfarnwr betruso, am dacl debyg. Sgoriodd Mike Foster o’r smotyn ddydd Sadwrn ond dylem fod wedi bod yn chwarae yn erbyn deg dyn am hanner y gêm. Ai achos ydy hyn o drin rhai clybiau yn wahanol? A ydy dyfarnwyr ofn gwneud penderfyniad sydd yn mynd yn erbyn y ‘clybiau mawr’ fel eu gelwir neu yn erbyn chwaraewyr profiadol? Cewch chi benderfynu.

Dechrau anodd
Cawsom gychwyn anodd i’r tymor gan chwarae yn erbyn nifer o’r timau gorau ond nid oeddem yn edrych allan ohoni mewn unrhyw gêm. Bydd hwn yn dymor anodd a does ond yn rhaid ichi edrych ar y tabl i gadarnhau hyn. Mae pawb yn y frwydr a bydd rhaid cwffio’n galed am bob pwynt. Bydd canlyniad da heno yr union beth i’n symud ymlaen.

Mwynhewch y gêm.
Port v Carmarthen 11/10/05 (Premier Cup - match off)

The Views of Campbell Harrison.

FAW Premier Cup
This is our first ever Premier Cup game and we welcome our visitors Carmarthen Town who have made the long midweek journey. Carmarthen have made a steady start after their European adventure. They managed an impressive win at Bangor on Saturday and now look to be hitting top form after their Euro exploits. Games against Carmarthen last season proved to be close, exciting affairs.

Inconsistent refereeing
We go into the match in good spirits following Saturday’s frustrating draw against Caersws. Again it was a game we should have won, but we do not seem to be having much luck especially with refereeing decisions so far. Les Davies was clearly brought down by the last defender (who was already on a yellow card) just before half-time on Saturday but the referee failed to apply the letter of the law and send the culprit off. The same situation has arisen against Rhyl, TNS, Bangor and Cefn Druids with only one referee (in the Cefn match) sending off the offending defender. In our first game of the season against Airbus, Ryan Davies was sent off without any hesitation for a similar tackle. Mike Foster did coolly slot away the resulting penalty on Saturday but surely we should have been playing against ten men for half the game. Is this a case of treating certain clubs differently? Are referees afraid to make decisions against so called larger clubs or experienced players? I will let you decide.

Tough start
We have had a really tough start to the season against many top teams, but we have never looked out of it in any of the games. This will be a really hard season which a cursory glance at the league table will confirm. Everybody is in the mix and each and every point is hard fought. A good result tonight might be just what we need to get us going.

Enjoy the game.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us