|
Port v Caernarfon 13/11/04 (English)
Y Gwpan Genedlaethol a’r Alltudion
Gwelais Gaernarfon yn y gêm gwpan yn erbyn Casnewydd yng nghanol yr wythnos a themlais eu bod yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth. Roedd ganddynt gynllun a gwnaethon chwarae i’w cryfderau gan ddefnyddio’r tactegau cywir. Rhaid dweud fod Casnewydd yn dîm siomedig iawn. Yn y cwpan hwn eleni, mae Cei Conna wedi curo Merthyr a Chaernarfon wedi curo Casnewydd er fod y ddau glwb, yn ôl eu cefnogwyr yn chwarae mewn gwell safon o bêl-droed yn Lloegr. Mae eu perfformiadau yn y gystadleuaeth yn codi sawl cwestiwn:
A ddylai’r ddau glwb, a Bae Colwyn hefyd, feddwl am ddod yn ôl i chwarae yng Nghymru?
A ydynt yn gwneud cynnydd wrth chwarae yn eu cyngrheiriau presennol?
Tybed a fyddai’n well iddynt ddychwelyd a chystadlu yn Uwchgyngrhair Cymru a honno wedi ei chryfhau?
Nid fy lle i ydy cynnig cyngor iddynt ond mae lle i’r clybiau eistedd i lawr gan ystyried eu opsiynau. Mae rhai yn y gorffennol wedi galw ar i’r Uwchgyngrhair ostwng i 10-12 o glybiau. Yn fy marn i, fyddai hyn yn gam gwag wrth i’r cyfleoedd i hogiau o Gymru ar y lefel yma leihau. Derbyniodd llawer i chwaraewr gyfle ym Mhorthmadog a maent wedi profi fod gandynt y gallu i berfformio ar y lefel yma. Efallai na fyddent wedi cael y cyfle yma mewn clybiau eraill. Byddai lleihau y nifer o glybiau yn dileu y clybiau bach honedig ar draul y clybiau mwy.
Gwelais hefyd y gêm rhwng Bangor a Chei Conna yn ystod yr wythnos a gellir gweld fod yr Gwpan Genedlaethol yn ariannol bwysig i’r clybiau sydd yn cymryd rhan. Gall wneud y gwahaniaeth rhwng goroesi a mynd allan o fusnes i rai clybiau. Pe bai ond am y rheswm hwn mae o fendith i glybiau Uwchgyngrhair Cymru er nad oedd y gystadleuaeth heb ei feirniaid yn y gorffennol.
Cwmbran
Wrth ddiweddu, rhaid dweud fy mod yn siomedig gyda’r canlyniad ddydd Sadwrn. Teimlais ein bod wedi chwarae’n dda, a sylw rheolwr Cwmbran, Brian Coyne, oedd ein bod wedi lluchio popeth atynt yng nghyfnod olaf y 90 munud. Gwnaeth anafiadau i Aled Rowlands a Ritchie Owen wneud pethau yn anodd i ni. Yn wir, nid oedd Aled yn medru cyfrannu fawr ddim yn ystod yr amser ychwanegol. Os y daliwn i chwarae gystal â hyn byddwn yn siwr o ennill mwy o gemau na wnawn golli.
Port v Caernarfon 13/11/04
Premier Cup and the Exiles
I watched Caernarfon in the Premier Cup tie against Newport in mid-week and I felt that they fully deserved their victory. They worked to a plan –playing to their strengths and got their tactics spot-on. I have to say, however, that Newport were a major disappointment. In the Premier Cup this season, Connah’s Quay have beaten Merthyr and Caernarfon have beaten Newport. The two clubs, according to their supporters, are playing in superior leagues in England. Their performances, in the Premier Cup, invite the questions:
Should they and Colwyn Bay now be thinking about coming back to Wales to play?
Are they making progress in the leagues they are in?
Would it not be better for them to come back and compete in a strengthened Welsh Premier League?
It is clearly a matter for the clubs themselves and I would not presume to offer them advice but maybe now is the time for the three clubs to sit down and evaluate their options. Some in the past advocated that the Welsh Premier should be reduced to 10 or 12 clubs. That is in my view going to have a detrimental effect on the number of Welsh players who will be given the chance to play at this level. Many players here at Port have been given the chance and have proved themselves capable of performing at this level. They may not have had that chance at other clubs. Reducing the league will eliminate the perceived smaller clubs at the expense of the bigger clubs.
I also watched Bangor v Connah’s Quay match during the week and we can see that the Premier Cup is important financially to the clubs who take part in it. It can make the difference between survival and extinction for some clubs. If only for that reason it has proved a benefit for Welsh Premier clubs although the competition has had its critics in the past.
Cwmbran
Finally, I was disappointed with the result last Saturday. I felt we played well and even the Cwmbran manager, Brian Coyne, commented that we had thrown everything apart from the kitchen sink at them in the closing stages of normal time. However, injuries to Aled Rowlands and Ritchie Owen made it difficult for us. Aled in particular was only a nuisance value in extra-time. But if we continue to perform like that we are going to win more games than we lose.
|
|