Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Caernarfon 05/11/05 (Cwpan Cymru) (English)

Pêl Droed Haf
Sul diwethaf, pleidleisiodd clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn erbyn cynnig a fyddai wedi arwain at newid sylfaenol mewn pêl droed yng Nghymru, sef y cynnig i chwarae pêl droed yn yr haf. Roedd y bleidlais yn 16-1 yn erbyn newid. Nid yw pleidlais o’r fath yn syndod o gwbl i mi. Er hynny haedda’r gynghrair glod am ddod â’r cynnig ymlaen, edrych i mewn iddo yn drwyadl ac wedyn gadael i’r clybiau benderfynu. Dyna oedd y llwybr cywir a democrataidd i ddilyn. Teimlaf yn siwr mai hwn oedd y penderfyniad iawn ond yn dal mae angen newidiadau radical i wella Uwch Gynghrair Cymru. Does na neb arall yn cyflwyno cynigion i wneud hyn. Mae caeau yn y gynghrair mawr angen eu gwella ond nid yw hyn yn bosib o ystyried yr holl bêl droed a chwaraeir ar lawer ohonynt. Ar Y Traeth, mae gennych chi’r tîm cyntaf, yr ail dîm, y tîm dan-21 yn ogystal ag ambell gêm ieuenctid, gyda hyn yn golygu cyfanswm o tua hanner cant o gêmau dros y tymor. Gall y cae dderbyn hyn o bosib yn y gwanwyn lle mae’n sychach neu yn yr hydref cynnar ond mae’r tywydd diweddar wedi bod yn niweidiol iawn. Toriad yng nghanol y gaeaf ydy un cynnig diweddar ond nid yw gwneud hyn am bythefnos yn fawr o help. Yn yr Ariannin, maent yn cael dau fis o seibiant yng nghanol y tymor. Efallai fod gan y syniad hwn lawer i’w gymeradwyo ond, beth bynnag sydd yn cael ei benderfynu, rhaid iddo gael ei weithredu ar bob lefel ac nid yn unig yn Uwch Gynghrair Cymru.

Cwpan Cymru
I mi mae Cwpan Cymru wedi lleihau mewn pwysigrwydd ers i’r clybiau mwy gael eu gwahardd rhag chwarae yn y gystadleuaeth. Cofiaf gêmau yn erbyn timau fel Henffordd a oedd yn creu dipyn o awyrgylch a diddordeb ymysg y clybiau llai wrth iddynt gystadlu yn erbyn clybiau o Gynghrair Lloegr. Er hynny mae rhediad da yn y gwpan yn dal i greu diddordeb heb sôn am fendithion ariannol y gystadleuaeth.

Ieuenctid
Wrth gloi llongyfarchiadau i’r tîm ieuenctid a gafodd fuddugoliaeth ardderchog ddydd Sul. Rwy’n siwr y byddant yn gobeithio ail adrodd neu hyd yn oed wella ar berfformiadau y llynedd. Hefyd gwelais y tîm Dan-21 ym Mangor mis diwethaf a chefais fy mhlesio gyda nifer o’r perfformiadau yn enwedig Geraint Mitchell a Dylan Edwards wrth i’r ddau gael gêmau arbennig o dda ar y noson. Bydded i hyn barhau.

Daliwch i gredu.
Port v Caernarfon 05/11/05 (Welsh Cup)

Summer Football
Last Sunday, the Welsh Premier clubs voted down proposals which would have instigated a further sea change in football in the principality, namely the proposal for summer football. The vote was 16-1 against the change. I am not surprised at such an overwhelming no vote. However the league does deserve praise for putting the proposal forward, looking into it properly and then allowing the clubs to decide. That was the correct and democratic process. I am sure that the decision taken was correct but radical change is required to improve the Welsh Premier League. Nobody else is coming forward with proposals. Pitches in the league are in desperate need of improvement but this is impossible when one considers the amount of football played on many of them. Here at Y Traeth you have the first team, the reserves, the under-21’s as well as the occasional youth match, probably in the region of 50 games in a season. It may be able to take it in the drier spring and early autumn but the recent wet weather has taken its toll. A winter break is the latest suggestion but two weeks off is not going to help much. In Argentina, they have two months off in the middle of their season. Maybe this has some merit, but whatever is done must be done by the whole of Welsh football and not just the Welsh Premier.

Welsh Cup
For me the Welsh Cup has declined in stature since the big clubs, who were involved in my playing days, were barred from playing. I remember ties against Hereford and others when there was a real buzz about the smaller clubs pitting themselves against English League clubs. However a cup run still generates interest and there is also the financial aspect.

Young Players
Finally congratulations to the youth side who had a fine win on Sunday. I am sure that they will be hoping to emulate or even eclipse last season’s performance in the competition. I also saw the Under 21’s at Bangor last month and was impressed with a number of performances especially Geraint Mitchell and Dylan Edwards who both had cracking games on the night. Long may it continue.

Thanks for your support.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us