|
||||||||||||||||||||
Torfeydd San Steffan / Boxing Day Crowds
Saesneg / English. Roedd y gefnogaeth i gêmau cyntaf yr Wŷl yn galonogol tu hwnt. Profodd y Llun ar ôl y Nadolig yn ddyddiad delfrydol i gêmau Uwch Gynghrair Cymru gan nad oedd cystadleuaeth oddi wrth gêmau yn Lloegr. Nid oedd yna bêl droed lleol chwaith. Mae felly’n dangos fod yna ddigon o ddiddordeb yn y Gynghrair i ddenu torfeydd da pan nad oes cystadleuaeth oddi wrth pêl droed ar y teledu. Arweiniodd presenoldeb y torfeydd yma at ail-agor y drafodaeth ynglŷn â phêl droed yn yr haf. Awgrymodd rhai hyd yn oed y posibilrwydd o chwarae gêmau ar nos Iau, noson pan nad oes lawer o bêl droed ar Sky. Beth bynnag yw’ch barn, mae’n amlwg y bydd yn rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i drefnu gêmau ar adegau pan fydd dilynwyr y gêm yn awyddus ac yn gallu dod i weld y gêmau. Siomedig ydy safle Port yn nesaf i waelod y tabl hwn o dorfeydd a rhaid cyfaddef fod y gefnogaeth ar y Traeth wedi bod yn llai nag y mae perfformiadau ardderchog y tîm yn eu haeddu a hefyd o sylweddoli y gwelliannau sylweddol sydd wedi eu gwneud i safle’r Traeth. Wrth gwrs, os cymherir y gêm yn erbyn Aberystwyth gyda rhai o’r gêmau eraill ar y dydd, rhaid cyfaddef, er ei bod yn gêm ddeniadol, nid yw’n gêm ‘ddarbi’ draddodiadol. Efallai hefyd fod y niferoedd wedi dioddef oherwydd y gystadleuaeth oddi wrth gêm Caernarfon a Bangor sydd yn gêm ‘ddarbi’ gyda dipyn o draddodiad. Mae gêm rhwng Port ac Aberystwyth yn cynnig un nodwedd arbennig sef y gêm gynghrair â’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn ymddangos. Sylw diddorol gan un o gefnogwyr Aberystwyth ynglŷn â mainc Port oedd ei bod hi’n braf clywed sylwadau yn cael eu gweiddi o’r fainc yn Gymraeg! English These were extremely heartening attendance figures for the first leg of the holiday derbies. The Monday after Christmas proved to be an ideal date for Welsh Premier games as there were no English Premiership or Championship games as competition. Neither was there any other local football being played. It does however show that there is sufficient interest in the Welsh Premier to draw in good crowds as long as the games are played on a date when there is no competition from televised football. This has led to a re-opening of the discussion on the feasibility of summer football. Playing games on a Thursday has even been suggested -as there is less football on Sky on that particular evening. It is clear however that consideration must be given to arranging matches on dates when football supporters are ready and willing to attend. It is sad to see Port next to bottom in the attendance table and it must be admitted that crowds at the Traeth have been smaller than they should be when one considers the excellent performances of the team and the improvements made at the ground. However, if we compare this game with other fixtures, it has to be said that Port v Aberystwyth, though an attractive fixture, is not a traditional derby game. The gate also probably suffered from competition from the Caernarfon v Bangor game which is a genuine local derby with a long tradition of bitter rivalry. The Port v Aberystwyth fixture does however have the added interest of being the match with the greatest number of Welsh-speaking players on view. One Aberystwyth supporter was heard to remark, with reference to the Port bench, that it was good to hear a bench shouting their comments in Welsh. |
||||||||||||||||||||
|