Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Trwydded UEFA, Fersiwn 2 / Version 2 of UEFA Licence

Saesneg / English

Bu swyddogion y clwb mewn gweithdy ar Fersiwn 2 o Drwydded UEFA yng Nghaersws yn ddiweddar. Rhagwelir nifer o newidiadau o’r fersiwn gyntaf, gyda nifer yn ymwneud â Safonau Ariannol y broses drwyddedu. Yn ychwanegol at y datblygiadau yma, mae Uwch Gynghrair Cymru yn cyflwyno cynllun trwydded domestig o dymor 2006-2007 ymlaen. Er gwaethaf adroddiadau yn awgrymu fod y gynghrair am ddefnyddio hyn fel esgus i gael gwared o rai clybiau o’r gynghrair, sicrhaodd John Deakin y cyfarfod nad oedd am weld unrhyw glwb yn cael eu wthio allan o’r Gynghrair.

Roedd hefyd yn awyddus i bwysleisio y byddai’r drwydded domestig yn cynyddu hygrededd y Gynghrair ac yn pwysleisio fod y datblygiad yn derbyn sêl bendith y Gymdeithas Bêl-droed. Dywedodd wrth y cyfarfod y byddai’r meini prawf ar gyfer y drwydded ddomestig yn cadw’n agos at y rhai ar gyfer Trwydded UEFA mewn nifer o feysydd ond mewn meysydd eraill, fel isadeiledd, byddai’r meini prawf yn rhai y gallai clybiau gyrraedd atynt ac yn rhai mwy realistig cyn belled ag y mae gwir sefyllfa bresennol Uwch Gynghrair Cymru yn bod.

Yr awgrym ydy mai 500 yn lle 1000 fydd y nifer o seddau a fydd eu hangen ar gyfer y drwydded ddomestig. Efallai hefyd bydd y gwerth lux ar gyfer y goleuadau yn profi’n fater dadleuol. Mae Porthmadog eisoes wedi codi safon y goleuadau i’r 500 lux sydd yn cael ei awgrymu ond nid yw pob clwb wedi gwneud hyn eto. Felly bydd y drwydded ddomestig yn gam arall i sicrhau bod clybiau yn datblygu ac yn cyrraedd safon penodedig. Bydd yn rhaid i’r clybiau sydd am ennill dyrchafiad hefyd gael trwydded ddomestig. Gwnaiff hyn hi’n fwy anodd nag erioed i glybiau godi allan o’r ddwy gynghrair sy’n bwydo’r Uwch Gynghrair.

Gerallt Owen (o Raglen Porthmadog).


Version 2 of UEFA Licence

Club officials attended a workshop on Version 2 of the UEFA Licence at Caersws recently. Many changes are anticipated with many specifically concerning the Financial Criteria of the Licensing process. Added to these developments the Welsh Premier League is also introducing a domestic licensing scheme from 2006-2007 season. Despite some reports that this may be used as an excuse for a cull of Welsh Premier clubs John Deakin assured the meeting that he does not want to see any clubs forced of the League.

He was keen to emphasise that the domestic license would improve the credibility of the League and the move has been backed by the FAW. He assured the meeting that the domestic license criteria will mirror the UEFA Licence in many areas but in specific areas such as infrastructure the criteria will be achievable and therefore realistic to the realities of the Welsh Premier League.

This would indicate that the seating criteria for the domestic licence is likely to be 500 compared to the 1,000 required for the UEFA Licence. Lux values on floodlights may turn out to be another contentious issue. Porthmadog have upgraded their floodlights to the desired 500 lux but some clubs have not. This is another step in developing the clubs and in ensuring that clubs meet certain standards. All clubs trying to gain promotion to the League will also have to obtain a domestic licence, a fact that will make promotion even harder for many clubs in the feeder leagues.

Gerallt Owen (from Porthmadog Match Programme).

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us