Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Barn y Rheolwr am gosb y Gymdeithas Bêl Droed / The Manager’s view on FAW punishment

Saesneg / English

Yn y rhaglen at ddydd Sadwrn mynegodd Viv Williams ei farn ar un o’r pynciau mwyaf llosg ym mhêl droed Cymru.

“Ni allwn goelio llymder y gosb sydd ddim mewn unrhyw fodd yn addas i’r drosedd. Nid oes neb yn esgusodi beth ddigwyddodd ond mae’r canlyniadau sy’n deillio o un weithred wirion yn enfawr. Mae sarhau swyddogion yn gyffredin mewn pêl droed a gellir ei glywed ar y teledu o wythnos i wythnos a hyn oddi wrth chwaraewyr a chefnogwyr. Mae’r wedd hiliol i’r achos yn ei wneud yn fwy difrifol ond er hynny beth welir ydy un cefnogwr yn gweiddi yng ngwres yr eiliad. Agwedd arall o’r mater ydy ei fod yn agor y ffordd i bobl achosi trafferth i glybiau eraill drwy weiddi ar swyddogion neu chwaraewyr. Pe byddai dau glwb yn brwydro am bencampwriaeth neu lle yn y Premier Cup byddai rhai yn ddigon wyneb galed i wneud y fath beth er mwyn ennill tri phwynt.

“Roedd yna erthygl arbennig o dda ar wefan www.welsh-premier.com yn cymharu y gosb a dderbynion ni a’r un a roddwyd i Gasnewydd pan daflodd un o’u cefnogwyr ddarn arian a drawodd y pedwerydd swyddog a bu angen iddo dderbyn llaw driniaeth yn dilyn y digwyddiad. Sylw’r erthygl oedd fod y Gymdeithas Bêl Droed wedi “colli’r plot” dros yr achos yma ac mae’n anodd dadlau yn erbyn yr asesiad yna. Mae eraill y siaradais â nhw yn gofyn “A fyddai hyn yn digwydd i glwb mwy?” neu “A ydych yn cael eich erlid am fod rhai yn tybio, am eich bod yn glwb bach, ni fyddwch yn cwffio’r achos?” Gobeithio’n wir nad ydy cymdeithas sydd i fod i gynrychioli eu holl aelodau yn yr un modd yn gwneud hynny. Gobeithio y bydd synnwyr cyffredin yn ennill y dydd a diolch i bawb sydd wedyn estyn cymorth inni yn ystod y dyddiau diwethaf.”

English
In Saturday’s match programme Viv Williams gave his views on one of the major talking points in Welsh football.

“I …could not believe the severity of the punishment which in no way fits the crime. Nobody condones what happened, but the repercussions of one foolish action have been immense. Abuse towards officials is common in the game; it can be seen on TV week in week out from players and the crowd. The racial aspect of this case makes it more serious but it was still one person shouting in the heat of the moment. Another aspect of this decision is that it opens the way for people to take advantage and get another club into trouble by shouting something. Two clubs in a close fight for the title or for a place in the Premier Cup and some would be hard faced enough to do it if they thought they could get three points.

“There was an excellent article on the www.welsh-premier.com website which compared the penalty we received with the penalty handed out to Newport County when one of their fans threw a coin which hit a fourth official who needed an operation after the incident. The article commented that the FAW had “lost the plot” over this incident and it is hard to argue against this assessment. Others I have spoken to ask “Would this happen to a bigger club?” or “Are you being victimised as you are being perceived as the small club who will not fight back?” I hope that an association which is supposed to treat all its members in the same way would not do that. I hope that common sense will prevail and we thank all those who have extended their support to us in the last few days.”

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us