Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
25/06/19
Pris Mynediad 2019/20 / Ticket Prices 2019/20

DIM NEWID i brisiau mynediad ‘ar y giât’ ar gyfer tymor 2019/20
Oedolion £6.00,
Dinasyddion Hyn £3.50,
Pobol Ifanc rhwng 12 a 16 £1.00
Plant o dan 11 oed am ddim.

‘At the Gate’ ADMISSION PRICES remain unchanged for the 2019/20 season
Adults £6.00
Senior Citizens £3.50
Young Persons 12-16 £1.00
Children 11 & under Free
23/06/19
MEL McGINNESS yn arwyddo / MEL McGINNESS signs

Mae Sion Eifion wedi sicrhau fod yr UN a fu gymaint o niwsans i Port dros y blynyddoedd bellach yn mynd i’w wneud DROS PORT.
Mae MEL McGINNESS ‘Chwaraewr y Tymor yr HGA’ yn ymuno efo Port o’i glwb cartref Hotspyrs Caergybi. Blaenwr profiadol o safon uchel, gall wneud cyfraniad sylweddol i ymosod Port yn ystod tymor 2019/20.
Yn torri’r newyddion heno dywedodd Sion Eifion. “ Ryda ni gyd yn hapus fod Mel wedi penderfynu ymuno efo ni am y tymor sy’n dod”
Ychwanegodd, “Bydd yn ymuno ar ôl wythnos ffantastig yn ‘Gemau’r Ynysoedd’, a hyn yn siwr o roi hyder mawr iddo wrth edrych ymlaen at y tymor newydd.
“Mae’n sgoriwr rheolaidd ar y lefel yma ac yn dipyn o hunlle i unrhyw amddiffynnwr. Rwy’n siwr y bydd yn ffefryn ar y Quarry End!!
“Croeso Mel!! “
Diolch i Eye in the Sky Cinematography am y llun

Highslide JS


He’s been a nuisance often enough, playing against Port over the years. NOW Sion Eifion has ensured that he will be doing it FOR PORT!!
MEL McGINNESS, ‘HGA Player of the Season’, has made the move from his hometown club Holyhead Hotspur. A highly experienced and top-quality striker, he can make a huge contribution to the Port attack in the season ahead.
Announcing it tonight Sion Eifion said, "We're all delighted that Mel has decided to join us for the coming season.”
Sion adds, “He joins us after a fantastic week at the Island Games which will no doubt give him great confidence going into the new season.
“He's a proven goalscorer at this level who is a nightmare for any defender. I'm sure he'll grow to be a favourite with the Port faithful!
Croeso Mel!!”
Thanks to Eye in the Sky Cinematography for the photo above.
23/06/19
Draw Wythnosol 25 / Weekly Draw 25

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 25 yw rhif 60 EIFION PUGH yn ennill gwobr o £75 -Ymunwch â'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 25 is no. 60 EIFION PUGH who wins the £75 prize
Congratulations!!
Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
22/06/19
Ilan ap Gareth yn arwyddo / Ilan ap Gareth joins from Cefn Druids

Mae’r chwaraewr canol cae ILAN ap GARETH a dreuliodd rhan ola’r tymor diwetha’ ar fenthyg ar y Traeth o glwb Derwyddon Cefn, wedi gwneud ei drosglwyddiad yn un parhaol.
Wrth groesawu Ilan yn ôl i’r Traeth dywedodd Sion Eifion, “Rwy’n teimlo fydd Ilan yn gyffeiliad i’r clwb am flynyddoedd i ddod, ac edrychwn ymlaen i’w weld yn tyfu a datblygu gyda’r clwb dros y blynyddoedd nesa’.
“Mae ganddo gymaint o allu ar y bêl ac eisoes wedi chwarae pêl-droed UGC a hynny yn oed ifanc iawn. Mae’n gyffrous i’w gael yn chwarae dros Port.
“Mae’n awyddus y tymor hwn i gael ei ben i lawr gan weithio’n ddygn a sicrhau ei le yn y tîm. Croeso Ils!!”



The 20 year-old midfielder ILAN ap GARETH, who spent the latter part of last season on loan at the Traeth from WPL club Cefn Druids, has this morning made his move permanent.
Manager Sion Eifion was pleased at the young player’s decision saying, “I think he'll be a great asset for the club for many years to come and we all look forward to see him grow with the club over the next few years.
"Ilan has so much ability on the ball and has already played Welsh Prem football at such a young age so it's exciting to get him signed for Port.
“He's really eager to get his head down and work hard to get his place in the team this season. Croeso Ils!!"
22/06/19
Yr Aur I Ynys Môn / Ynys Môn strike Gold

Llongyfarchiadau fil I dîm Ynys Môn ar y fuddugoliaeth wych i ennill cystadleuaeth Pêl-droed Yr Ynysoedd. Enillwyd y ffeinal yn erbyn Ynys Guernsey o 2-1 neithiwr yng Nghaergybi. Da iawn wir Paul Pritchard, a gafodd gystadleuaeth arbennig. Hyn yn fawr o sioc i gefnogwyr Port o gofio’i dymor arbennig ar Y Traeth llynedd. Paul oedd capten tîm Môn ac, ymysg ei arbedion gwych oedd cadw allan cic o’r smotyn holl bwysig. Tu ôl i bob tîm da mae rheolwr gwerthchweil a Campbell Harrison cyn chwaraewr ac is-reolwrv Port oedd y dyn.Gwych!
Llongyfarchadau hefyd i Gareth Parry, cyn reolwr a chwaraewr dros Port, a fu tu ô i’r holl drefniadau llwyddianus.



Congratulations to the Ynys Môn men’s team on their outstanding achievement, winning the Island Games Final against Guernsey at Holyhead last night. A special well done to Paul Pritchard who had a tremendous tournament, which is no surprise to Port supporters, following his great season at the Traeth. Paul skippered the squad and among his fantastic successes was a crucial penalty save.
Well done also to John Littlemore who joins Port for the coming season. We look forward to having both at the Traeth in early August. Big season ahead.
Behind every successful tîm is a good manager. Campbell Harrison was that man . Former Port regular and assistant manager. Congrats Campbell!
Well done also to Graeth Parry, former Port player and manager, who spearheaded a highly successful tournament.
21/06/19
Datblygiad Cyffrous i Bêl-droed Merched / Exciting Development for Girls Football

Mae Cynllun Pêl-droed yn y Gymuned Port yn mynd I fod yn rhan o ddatblygiad pwysig gan yr Ymddiriedolaeth Bel-droed I Ferched yn ardal Porthmadog.
Dywedodd Gethin Jones, “Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais i gynnal hwb i ferched yn unig ym Mhorthmadog! i enethod 7 i 11 mlwydd oed!!! Bydd y rhaglen newydd gyffrous hon yn tyfu'r gêm ferched yma ym Mhorthmadog a'r ardal gyfagos.”

The Football in the Community project has announced that it is to be part of a Football Trust development for Girls Football in the Porthmadog area.
Gethin Jones said “It is with great pleasure I can announce that we have been successful in our application to the Football Trust to have a Girls Only Football Hub in Porthmadog. It will be for girls 7-11 years old. The programme will be an exciting one and will help to grow the game for girls in the Porthmadog area.”
19/06/19
Sadwrn Tacluso / Saturday Workday

Cofiwch am y diwrnod tacluso ar Y Traeth bore Sadwrn nesa’ 22 Mehefin rhwng yr orau 9.00 ac 13.00.
Beth am rhoi dwy awr o’ch amser? Bydd yna ddigon i wneud, clirio’r eisteddleoedd, chwynu, ‘sgubo, peintio ac os oes gennych sgiliau arbennig ee gwaith plymar, gwaith trydan -digon o dasgau yn aros ichi !!

Don’t forget the work day arranged for Saturday 22nd June between 09:00 hrs and 13:00 hrs .
Give us a couple of hours of your time . There's plenty to do , cleaning stands , weeding ,sweeping, painting and if you've got any special talents i.e. Plumbing or electrics ,we've got plenty of tasks .
15/06/19
Draw Wythnosol 24 / Weekly Draw 24

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 24 yw rhif 239 WINNIE JONES yn ennill gwobr o £75 Llongyfarchiadau!! -Ymunwch â'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 24 is no. 239 WINNIE JONES who wins the £75 prize Congratulations!! Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
15/06/19
Y Rhaglen Orau / Best Programme Award

Heddiw yn Llandudno, yn y Cyfarfod Blynyddol olaf un, enwyd rhaglen Port ‘Gorau yn y Gynghrair’.
Llongyfarchiadau i’r Golygydd Rhydian Morgan sydd wedi sicrhau rhaglen o safon ar gyfer pob un o’r 19 gem gartref yn ystod tymor 2018/19. Diolch hefyd i’r cyfranwyr rheolaidd sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosib’
. Meddai Rob Bennett ysgrifennydd y clwb, “Llongyfarchiadau enfawr ar gael eich enwi yn ‘Rhaglen y Flwyddyn’. Gwych a diolch am eich holl waith caled yn ystod y tymor. Ry’ch yn haeddu’r wobr.”



The Port match programme was today named the ‘Best in Huws Gray Alliance’at the League’s final AGM at Llandudno today.
Congratulations to programme editor Rhydian Morgan who has delivered a high standard programme for each of the 19 home fixtures played last season. Thanks also to the regular contributors, who have helped to achieve this.
A pleased Club Secretary, Rob Bennett, said, “A massive WELL DONE in being named programme of the year. Brilliant and thanks for all your hard work last season. You deserve the award.”
15/06/19
Morgan Jones i’r brif garfan / Morgan Jones promoted

Bydd Morgan Jones, golwr ifanc yr Ail-dîm, yn ymuno â’r brif garfan ar gyfer y tymor newydd.
“Mae Morgs yn llawn haeddu hyn yn dilyn tymor ffantastig i’r Ail-dîm”. meddai Sion Eifion.
Roedd angen gwneud y penderfyniad oherwydd y newid i reolau’r ffenest drosglwyddo sydd yn ei gwneud yn bwysig i’r clwb gael ail golwr yn rhan o’r garfan. Bydd hefyd yn rhoi cyfar i Paul Pritchard.
Ond mae Sion Eifion hefyd yn edrych i’r dyfodol gan weld hwn yn gam ac yn gyfle pwysig i’r golwr ifanc.
“Heb unrhyw amheuaeth fydd Morgs yn datblygu i fod yn yn golwr da ar y lefel yma ond mae’n deall ei fod yn dal yn ifanc ac un o’r golwyr gorau yn y gynghrair o’i flaen. Ond bydd gweithio ac ymarfer gyda Paul Pritchard yn ystod y tymor nesa’ yn brofiad arbennig o dda iddo.”
Ond nid cynhesu’r fainc yn unig ydy bwriad y rheolwr ar gyfer Morgan, ac mae’n ychwanegu, “Mae yna gêm neu ddwy eisoes wedi’i nodi fel cyfleoedd iddo gael amser ar y cae. Edrychwn ymlaen i’w gael yn rhan o’r brif garfan am y tymor nesa.”


Young Reserve team keeper Morgan Jones will be promoted to the first team squad for the new season.
"Morgs will become part of the first team squad next season and rightly so, after his fantastic season with the reserves last year,” says Sion Eifion.
The decision also comes on the back of the rule change regarding the transfer window, with a second keeper, as part of the squad, becoming essential and will provide cover for Paul Pritchard.
But Sion Eifion is also looking further ahead and sees this as a development opportunity for his young keeper. “There's no doubt that Morgs will become a very good keeper at this level but he understands that he's still young and that he has one of the best keepers in the league in front of him in Paul Pritchard. Training and working closely with Paul over the next season will give him so much experience moving forward.”
But the manager does not anticipate Morgan being entirely left warming the bench adding, “There are also a couple of games that we have already identified that Morgan can come in and get some game time. We all look forward to having him with the first team squad next season!"
14/06/19
Cysylltiad Steve Cooper â Port / Cooper and the Porthmadog link

Dydd Iau, yn dilyn tair wythnos o chwilio, apwyntiwyd Steve Cooper yn rheolwr ar glwb Abertawe, hyn yn dilyn ymadawiad Graham Potter.
Ganwyd Cooper ym Mhontypridd a daeth i’r amlwg yn 2017 wrth arwain tîm Dan 17 Lloegr i lwyddiant yng Nghwpan y Byd. Hyd yma mae ei yrfa hyfforddi wedi bod gyda ieuenctid yn unig, yn cychwyn yn Wrecsam lle bu hefyd yn chwaraewr. Yn 2008 ymunodd â Academi Lerpwl a wedyn FA Lloegr.
Chwaraeodd i TNS, Rhyl, Bangor a Phorthmadog . Roedd ei gyfnod gyda Port ar ddechrau tymor llwyddianus 2002/03 pan enillwyd pencampwriaeth yr HGA. Cafodd ei gêm gynta’ dros Port yn erbyn Halkyn ac mae’n cael ei enwi cryn dipyn yn yr Adroddiad o’r gêm am ei groesiadau i’r bocs. Ond dim ond un gêm gynghrair arall a gafodd ac un gêm gwpan a phedair ymddangosiad o’r fainc, sydd efallai yn syndod o ystyried y gêm gynta’ addawol a gafodd.
Yn amlwg roedd am symud i’r maes hyfforddi ers yn ifanc, gan gwblhau ei fathodynau cyn cyrraedd 30 oed. Nid yn unig fel cefnogwr Port ond, hefyd yn cefnogi Abertawe, dymunaf yn dda i Steve yn y Liberty, gan obeithio y gwnaiff cystal a deiliaid eraill y swydd; Brendan Rodgers, Michael Laudrup a Roberto Martinez, a dod a llwyddiant i’r Elyrch.

Last Thursday, after a three week search, Swansea City appointed Steve Cooper as their new manager to succeed Graham Potter.
Cooper who was born in Pontypridd came to prominence in 2017 when he led the England U17’s to World Cup glory. His coaching career has been exclusively at youth level initially with Wrexham where he had also been on the books as a player and then in 2008 he joined Liverpool FC Academy and then onto the English FA.
As a player he played for TNS, Rhyl, Bangor and Porthmadog. His brief period with Porthmadog was during the early couple of months of our successful 2002/2003 Huws Gray Alliance championship winning campaign. He made his debut against Halkyn United and he features regularly in the match report getting crosses into the box from wide areas. However he only made one other League appearance and one appearance in the Challenge Cup and four appearances from the bench, somewhat surprising considering his promising debut.
Clearly he was intent on getting into coaching from a young age and completed his badges before turning 30. As not only a Port fan but also a Swans fan I wish Steve all the best in the Liberty Stadium hot seat and hope he emulates past holders of the role like Brendan Rodgers, Michael Laudrup and Roberto Martinez in bringing success to the Swans.
Gerallt Owen.
14/06/19
Cyngor Tref yn Llongyfarch y Clwb / Town Council congratulates the Club

Derbyniodd y Clwb lythyr gan Cyngor Tref Porthmadog yn ddiweddar yn ei longyfarch am lwyddiant yr ail dim a’r tim merched o dan 12 oed yn ystod y tymor diwethaf. Chwedl y llythyr ‘dyma’r math o gyhoeddusrwydd pendant sydd o fudd i’r dref a’n rhoi ar y map am y rhesymau cywir’
. Hoffai’r clwb ddiolch i’r Cyngor am ei gefnogaeth ariannol parod dros ddegawadau o flynyddoedd.

The Club recently received an official letter from the Porthmadog Town Council congratulating its Reserve Team and Under 12’s Girls team for their success during the last season. It states ‘this is the kind of positive publicity we need and puts the town on the map for the right reason’.
The Club would like to thank the Council for it’s regular and welcome support over the last few decades.
10/06/19
Draw Wythnosol 23 / Weekly Draw 23

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 23 yw rhif 38 NIA MAXWELLyn ennill gwobr o £75 Llongyfarchiadau!! -Ymunwch â'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 23 is no. 38 NIA MAXWELL who wins the £75 prize Congratulations!! Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
08/06/19
Ffenest drosglwyddo i'r Ail Haen / Transfer Window for Tier 2

Mae gwefan yr HGA yn adrodd am newid i’r rheolau trosglwyddo chwaraewyr. Bydd y rheolau sy’n berthnasol i’r Ffenest Drosglwyddo Chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru, bellach hefyd yn berthnasol i glybiau yr Ail Haen o’r pyramid.
Mae gwefan yr HGA yn adrodd:
‘Following clarification from FIFA and by agreement of the FAW National Game Board, please note that all Professional and Amateur Players intending to register for Clubs in the Welsh Premier League and FAW Championship will only be permitted to register Players during one of Professional Registration Periods..’
Bydd y cyfnodau trosglwyddo canlynol ar gyfer tymor 2019/20:
Haf 2019 yn agor 11eg Mehefin ac yn cau ar 24 Medi
Gaeaf 2020 yn agor ar 1af Ionawr ac yn cau ar 31 Ionawr.
Bydd y newid uchod hefyd yn effeithio chwaraewyr Ail-dîm a Ieuenctid.

The HGA website is reporting a change toTransfer regulations. The Transfer Window rules applicaple in the WPL will now also apply to Tier 2 clubs.
The HGA website reports:
Following clarification from FIFA and by agreement of the FAW National Game Board, please note that all Professional and Amateur Players intending to register for Clubs in the Welsh Premier League and FAW Championship will only be permitted to register Players during one of Professional Registration Periods
The Professional Registration Periods for the 2019/20 season are as follows:
The Summer Professional Registration Period will open on 11" June 2019 and will close at midnight on 2"4 September 2019.
The Winter Professional Registration Period will open on 1st January 2020 and will close at midnight on 31° January 2020.
This ruling will also apply to Youth and Reserve Players.
07/06/19
Gwobrau Welsh Football / Welsh Football programme awards

Ydy mae’n amser yna o’r flwyddyn pan mae’r cylcchgrawn ‘Welsh Football’ yn cyhoeddi enwau’r rhaglnni gorau a gynhyrchwyd yn ystod y tymor. Ac i’r rhai sy’n golygu ac yn cyfrannu at y rhaglen mae’r sylwadau yn ddiddorol ac yn werthfawr.
Bydd Mr Golygydd, Rhydian Morgan, wedi’i blesio fod raglen Port, ar ôl methu o drwch blewyn llynedd, wedi cyrraedd y DEG UCHA’ am 2018/19. Gosodwyd ein rhaglen yn gydradd 7fed gyda Cwmaman United.
Ar ôl dod allan ar y brig yn yr HGA llynedd, eleni mae rhaglen Port yn yr ail safle gyda Airbus ar y brig. Llongyfarchiadau i Derwyddon Cefn am gyrraedd y safle ucha dros Gymru gyfan.
Yn ei sylwadau mae David Collins yn dweud, “There are some very good issues around in Welsh football, and I detect signs generally of a renewed appreciation that the printed word has its place in the modern world.”
“He adds, “When the marks are totted up, the margins between the top ten are very narrow …”
Os ydych yn awyddus I gyfrannu erthygl, eitem atgofion i’r rhaglen, byddai Rhydian wrth ei fodd i glywed wrthych.
'Welsh Football Magazine' ar gael nawr cysylltwch â Dylan rees48wesla@gmail.com

Its ‘Welsh Football Magazine’ annual programmes awards time again, and those involved in the production of match programmes will note the observations with interest.
Programme editor Rhydian Morgan will be pleased that the Port programme, having narrowly missed out last year, has made the TOP TEN for 2018/19. Our programme has been placed equal 7th with Cwmamman United.
The programme, a winner last year in the Huws Gray Alliance category, is this time awarded the runner-up spot behind Airbus.
Congratulations to Cefn Druids whose programme comes out on top in the overall awards.
In his comments Dave Collins says, “There are some very good issues around in Welsh football, and I detect signs generally of a renewed appreciation that the printed word has its place in the modern world.”
“He adds, “When the marks are totted up, the margins between the top ten are very narrow …”
If you think you could contribute to our programme then Rhydian would be delighted to hear from you.
Welsh Football Magazine available now contact Dylan rees48wesla@gmail.com
07/06/19
Julian i ymuno â Bae Colwyn / Julian leaves for Colwyn Bay

Dymuniadau gorau i Julian Williams wrth iddo benderfynu gadael y clwb ac ymuno â Bae Colwyn. Treuliodd 4 tymor ar y Traeth (heblaw am gyfnod byr blaenorol gyda Bae Colwyn) gan ymuno am y tro cynta’ yn 2015. Bu yn chwaraewr allweddol i’r clwb dros y cyfnod gan gychwyn 93 o gemau a sgorio 47 o goliau. Julian oedd y prif sgoriwr yn 2015/16 a 2016/17. Diolch yn fawr Julian a phob lwc at y dyfodol.

We wish Julian Williams well as he makes the decision to leave the club and join Colwyn Bay FC. Julian spent 4 seasons (apart from a previous short spell with Colwyn Bay) at the Traeth, having first joined the club in 2015. He was a key attacking performer and during his 4 seasons at the club he made 93 starts and scored 47 goals. He was the leading scorer in 2015/16 and 2016/17. Thanks Julian and best of luck for the future.
05/06/19
Carwyn Jones joins from Aber / Carwyn Jones signs from Aber

Mae Sion Eifion wedi ychwanegu CARWYN JONES at ei garfan ar gyfer y tymor newydd. Mae Carwyn yn amddiffynwr o safon, ac yn trosglwyddo o glwb Aberystwyth. Ymunodd Carwyn ac Aber ar ddiwrnod ola’ trosglwyddo yn Ionawr 2019 o CPD Penrhyncoch. Hogyn lleol o Harlech, mae hefyd wedi chwarae i Bermo a Dyffryn.
Meddai Sion Eifion amei chwaraewr newydd, “Rwy’n gyffrous wrth ddod a Carwyn i’r clwb ar gyfer y tymor sy’n dod. Cafodd dwy flynedd llwyddianus iawn gyda Penrhyncoch a gwobrwywyd hyn, ym mis Ionawr, gyda'r cyfle ar lefel UGC gyda Aberystwyth.
Mae Carwyn yn amddiffywnr cryf â lefel gweithgarwch uchel iawn. Edrychwn ymlaen i’w groesawu i’r Traeth. Croeso Carwyn!!”


Sion Eifion continues to build his squad for the new season, announcing tonight that he has signed a quality defender, CARWYN JONES from WPL club Aberystwyth Town.
Carwyn joined Aber on deadline day in January 2019 from CPD Penrhyncoch. He is a local boy from Harlech who previously played for Barmouth and Dyffryn
Sion Eifion said of his latest signing, "I'm really excited to be able to bring Carwyn to the club for the coming season. He's enjoyed great success down at Penrhyncoch over the last two years and was rewarded with an opportunity at Welsh Premier League level with Aberystwyth in January.
“Carwyn is a strong defender who has a fantastic work rate. We all look forward to welcome him to the Traeth. Croeso Carwyn!"

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us