Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
07/07/19
Port v CPD Llanuwchllyn

Pnawn Sadwrn nesa bydd Port yn croesawu CPD Llanuwchlyn I’r Traeth. Diolch yn fawr iawn i glwb Llanuwchllyn am gymryd y gêm a hynny ar fyr rybudd ar ôl i Bodedern orfod tynnu allan.

On Saturday (13 July) Port will entertain CPD Llanuwchllyn in a pre-season fixture at the Traeth. We would like to thank Llanuwchllyn for taking this fixture at very short notice after Bodedern Athletic had to pull out
07/07/19
Y Dyn ar y Top / The new man in charge

Gyda’r Cymru Alliance annwyl, bellach yn diflannu dros y gorwel mae trefn newydd yn ceisio ennill ei lle. Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi apwyntio enw newydd a wyneb newydd i gymryd gofal o Ail Haen y Gogledd neu Pencampwriaeth y Gogledd.
Cadarnhawyd apwyntiad Jac Murphy i’r swydd, ac mae eisoes wedi cychwyn ar y gwaith. Mae’n ymuno âr Gymdeithas o gwmni Chronotrack UK Ltd (TDL Gwasanaeth Digwyddiadau) a bu’n Rheolwr Digwyddiadau i nifer o ddigwyddiadau proffil uchel fel Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Dulyn a Marathon Casnewydd.
Mae’r gwr newydd yn byw yn Y Wyddgrug a cafodd ei addysg mewn Ysgol Gymraeg cyn mynd ymlaen i astudio am ei Radd Meistr mewn Rheolaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough.
Mae’r clwb yn estyn croeso i Jac Murphy ac yn dymuno’n dda iddo yn y swydd.

With the much loved Cymru Alliance disappearing over the horizon a new system sets about establishng itself and the FAW have appointed a new face and a new name to take charge of the Tier 2 North or the FAW Championship North.
Jac Murphy’s appointment to this new role has been confirmed and he has already started work. He joins the FAW from Chronotrack UK Ltd (TDL Event Services) and he was Event manager for such high profile events as the Cardiff Half Marathon, Dublin Marathon, Velothon Wales and Newport Marathon.
The new man lives in Mold and received his educationat a Welsh medium school and went on to study for his MSc in Sport Management at Loughborough University.
The club extends a warm welcome to Jac Murphy and wishes him well in his new role.
07/07/19
Draw Wythnosol 27 / Weekly Draw 27

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 27 yw Rhif 139 JOSIE HAVELOCK yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 27 is No.139 JOSIE HAVELOCK winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
04/07/19
Dan yn dychwelyd i’r garfan / Dan returns to the squad

Ar ôl methu y cyfan o’r tymor d’wetha yn dilyn anaf i’w benglin, y newyddion da ydy fod Dan Roberts yn ôl ac wedi cytuno i arwyddo am y tymor. Amharwyd hefyd ar ei ddau dymor blaenorol ar Y Traeth oherwydd yr anaf i’w benglin ond bellach mae Dan wedi gwella ac wedi bod yn ymarfer yn reolaidd gyda'r clwb yn ystod y cyfnod cyn-dymor.
Wrth groesawu Dan yn ôl, dywedodd Sion Eifion, “Rwy’n hapus iawn fod Dan yn rhydd o’i anaf ac yn ôl efo ni yn Port am y tymor. Cafodd dau dymor rhwystredig iawn gyda’i anafiadau ond diolch byth mae bellach yn holl iach.
“Mae wedi gweithio’n galed ac yn edrych yn siarp yn ystod y cyn-dymor ac rwy’n gwybod fod o methu aros i fod yn ôl yng nghanol pethau unwaith eto. Mae o’n chwaraewr cry’, corfforol sydd hefyd yn medru cael y bêl i lawr a chwarae.
“’Da ni gyd yn falch o’u gael yn ôl ac edrychwn ymlaen i’w weld yn lliwiau Port uwaith eto. Croeso’nol Dan!!!”

Highslide JS


After missing the whole of last season following a knee injury the good news is that central defender Dan Roberts has agreed to sign for the season. His game time was also restricted by the knee problem during two previous seasons at the Traeth. Dan has now made a good recovery and has been training regularly with the club during the pre-season period.
Sion Eifion welcoming Dan’s return said, “ I'm delighted that Dan is now injury free and back with us at Port for the season ahead. He's endured a frustrating couple of seasons with injuries but is now, thankfully back to full health.
“He's been putting the work in and looking sharp in pre-season and I know that he can't wait to get back into swing of things. He's a strong, physical centre back who can also get the ball down and play.
“We're all delighted to have him back with us and look forward to seeing him in Port colours again this season. Croeso nol Dan!"
04/07/19
Gêm gyfeillgar / Llanrug @ Traeth

Ar ôl cychwyn y cyfnod cyn-dymor gyda buddugoliaeth dros Nantlle Fêl bydd Port yn croesawu clwb arall o Welsh Alliance 1 I’r Traeth. Bydd y gic gynta’ pnawn Sadwrn am 2.30pm
LLANRUG fydd yr ymwelwyr pnawn Sadwrn. Cafodd y clwb dymhorau da llynedd yn gorffen yn y 5ed safle.

Having got pre-season off to a winning start against Nantlle Vale, Port will next entertain another Welsh Alliance 1 club. The game is fixed for next Saturday afternoon (2.30pm)
Llanrug Utd will be Saturday’s visitors to the Traeth. The club enjoyed a good season in Welsh Alliance 1 last season, finishing in 5th spot.


03/07/19
Cwpan Nathaniel MG / Nathaniel MG Cup

Bydd Port oddi cartref yn y Fflint yn 2ail rownd Cwpan Nathaniel MG. Bydd y gêm hon yn un o ond dwy gêm yn y rownd rhwng dau dîm o Ail Haen y Gogledd. Chwareir y gêm hon ar Sadwrn , Awst 10fed.
Yn Rownd 1 o’r gystadleuaeth a chwaraeir ar y 3ydd Awst cafodd Port fynd drwodd heb gêm.

Port have been drawn away at Flint in the 2nd Round of the Nathaniel MG Cup. This will be one of only two all Tier 2 North matches in the 2nd Round.The game will be played on Saturday August 10th.
The 1st Round of the competition will be played on August 3rd and Port have a bye in this round.
28/06/19
Gêm cyn-dymor / Pre=season starts

Nantlle Fêl fydd y gwrthwynebwyr yn y gêm cyn-dymor gyntaf ar Y Traeth nos Fawrth nesa’ 2 Gorffennaf. Bydd y gic gynta’ am 7.30pm.
Hon hefyd fydd gêm gynta’ Sion Eifion wrth y llyw gyda’r brif dîm.
Yn ystod y mis diwetha’ gwelwyd chwaraewyr yn symud rhwng y ddau glwb. Rhys Alun Williams yn symud o Faes Dulyn i’r Traeth a Cai Henshaw (ar fenthyg) a Dion Roberts yn symud i’r cyfeiriad arall.
Y tymor diwetha’ gorffen yn y 6ed safle yn y Welsh Alliance 1 oedd hanes Y Fêl, a byddant yn siwr o anelu am ddyrchafiad y tymor hwn.

Nantlle Vale will be the visitors to the Traeth for the opening pre-season fixture next Tuesday evening, 2nd July, with a 7,30pm kick off.
It will also mark Sion Eifion’s first game in charge of the senior team.
The last month has seen an exchange of players between the two clubs with Rhys Alun Williams moving from Maes Dulyn to the Traeth and Cai Henshaw (loan) and Dion Roberts going in the opposite direction.
The Vale finished last season in 6th place in Welsh Alliance 1 and will be aiming for a promotion push this season.
28/06/19
Anaf Dan Dascalu / Dan Dascalu update

Yn anffodus, siomedig yw’r newyddion am y chwaraewr canol cae Dan Dascalu. Collodd Dan y rhan ola o’r tymor diwetha’ ac yn ôl y rheolwr, Sion Eifion, nid yw’n debygol o chwarae o gwbl yn y tymor sy’n dod. Mae Dan yn aros am law driniaeth i’w benglin.
Creodd argraff dda iawn llynedd, ar ôl iddo ymuno o CPD Llanuwchllyn. Chwaraeodd 14 (+8) o gemau cyn yr anaf, gan sgorio 4 gwaith.
Pob dymuniad da i Dan ac edrychwn ymlaen i’w weld yn ôl ar y Traeth.

Unfortunately the news concerning utility midfielder Dan Dascalu is very disappointing. Dan missed out on the latter part of last season after picking up a nasty injury. Manager Sion Eifion does not expect to see Dan back in the squad during this season. He is awaiting a knee operation.
Dan, who joined from CPD Llanuwchllyn, made a big impression last season. He played 14(+8) games before suffering injury and scored 4 times.
Best of luck to Dan and we look forward to seeing him back at the Traeth.
28/06/19
TOTE MEHEFIN / JUNE TOTE

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis MEHEFIN oedd 5 + 36. Nid oedd enillydd (hyn i'w gadarnhau), Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener nesa’. Bydd y wobr £270 yn cael ei ychwanegu at gyfanswm mis Gorffennaf.
Bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael ei tynnu nos Wener, 26ain o fis Gorffennaf, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Siop Pikes, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the JUNE TOTE were 5 + 36. There was no winner, this to be confirmed.The prize of £270 will be added to the July total.
Any claims must be made by 8pm next Friday. The next Tote will be drawn on Friday, 26th June at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Pikes Newsagents, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
28/06/19
Rhestr gemau 2019/20 Fixtures 2019/20

Bydd Port yn cychwyn y tymor efo gêm ar Y Traeth yn erbyn CONWY
Dyma weddill gemau Awst
24/08/2019 Buckley v Porthmadog
31/08/2019 Porthmadog v Bangor
Gemau eraill ichi edrych ymlaen atynt:
16/11/2019 Porthmadog v Rhyl
23/11/2019 Colwyn Bay v Porthmadog
28/12/2019 Bangor v Porthmadog
Cliciwch yma am y rhestr llawn

Port will start the 2019/20 season with a home game against Conwy Borough
Here are the other August games
24/08/2019 Buckley v Porthmadog
31/08/2019 Porthmadog v Bangor
Some other games to look forward to:
16/11/2019 Porthmadog v Rhyl
23/11/2019 Colwyn Bay v Porthmadog
28/12/2019 Bangor v Porthmadog
Click here for full list
27/06/19
Dau i Nantlle / Two join Nantlle Vale

Bydd dau o chwaraewyr ifanc a gyfrannodd yn sylweddol i lwyddiant yr Ail-dîm llynedd, yn ymuno â chlwb Dyffryn N antlle.
Bydd Cai Henshaw yn gadael ar fenthyg tra fydd Dion Roberts yn ymuno yn llawn efo’r Fêl. Mae’r clwb yn dymuno pob llwyddiant i’r ddau wrth iddynt ddatblygu eu dyfodol yn y gem.
Wrth ddatgelu’r newyddyion neithiwr dywedodd Sion Eifion, “Bydd Cai yn ymuno â Nantlle i ennill profiad ar lefel Welsh Alliance 1.
“Mae Hensh yn chwaraewr ifanc talentog, ry’m yn falch iawn i’w gael yn y clwb.
“Bydd yn dal i ymarfer efo ni drwy gydol y tymor ond teimlwn mae’r penderfyniad iawn iddo, ydy mynd ar fenthyg a chael amser ar y cae.
“Dymunwn yn dda iddo fo a’r Fêl. Pob lwc Hensh!”
Am Gapten yr Ail-dîm, Dion Roberts dywedodd Sion, “Roedd Dion yn wych imi y tymor diwetha’ a wnaiff gyfrannu at ymdrech Nantlle i sicrhau dyrchafiad. Mae’n arweinydd ar ac oddi ar y cae a dymunwn yn dda iddo. Pob lwc Dion!!”
Pob dymuniad da i’r ddau.

Highslide JS Highslide JS

Two young reserve team players, who made a huge contribution to the successful Reserves last season, are to join Nantlle Vale.
Cai Hensahw leaves on loan while Dion Roberts makes a permanent move to the Welsh Alliance club. The club wishes both players well as they seek yo develop their futures in the game.
In disclosing the develoment Sion Eifion said "Cai will join Nantlle Vale to gain experience at Welsh Alliance 1 level.
“Hensh is a very talented young player who we are proud to have with us at the club. “He'll continue to train with us throughout the season, but we feel that sending him out on loan to get game time was the right move for his development.
“We all wish him and Vale the best for the season ahead. Pob lwc Hensh!"
Of the Reserve team captain Dion Roberts Sion added, "Dion was fantastic for me last season and will be a huge asset to Vale in their promotion push. He's a leader on and off the pitch and we all wish him well going forward. Pob lwc Dion!"
Best of luck to both players.
27/06/19
Diolch Gruff a phob lwc / Thanks Gruff and good luck

Mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda I Gruff John wrth iddo benderfynu derbyn y cyfle I chwarae yn yr Uwch Gynghrair gyda Chaernarfon. Mae Gruff wedi rhoi gwasanaeth arbennig o dda I’r clwb ers chwarae ei gêm gynta’ yn ôl yn 2012 tra yn dal yn ei arddegau. Gwnaeth mwy na 150 o ymddangosiadau i’r clwb ac, yn dilyn tymor arbennig yn 2018/19, enwyd yn Chwaraewr y Tymor y Cefnogwyr.
Bydd y cefnogwyr yn adleisio geiriau Sion Eifion, “Er yn siom i golli Gruff, mae’n anodd gweld bai arno pan mae’n cael y cynnig i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Pob lwc iddo.”

The club wishes Gruff John well as he makes his move into the WPL with Caernarfon Town. Gruff has served the club well since making his club debut as a teenager back in 2012. He made in excess of 150 appearances for the club and, following an outstanding season in 2018/19, he was named Supporters Player of the Season.
Supporters will echo Sion Eifion’s words, “While it’s disappointing to lose Gruff you can’t blame a player when he gets the opportunity of playing in the Welsh Premier League. Good luck Gruff.”
26/06/19
Ail Sadwrn Tacluso 29 Mehefin / Second Saturday Workday 29 June.

Atgoffir pawb bod sesiwn TACLUSO arall wedi ei threfnu ar gyfer bore Sadwrn nesaf, y 29ed o Fehefin rhwng 9am a 1pm.
Ar ddiwedd y sesiwn trefnir barbaciw ar gyfer y gwirfoddolwyr ac fe fydd y chwaraewyr yn ymuno nhw am 1 o’r gloch gan eu bod yn dechrau ar yr ymarfer o ddifri.
Os nad yw’n bosib gwirfoddoli mae croeso i gefnogwyr ymuno yn y barbaciw ar gost o £3 y pen.
Cafodd ymdrechion y gwirfoddolwyr, a fu wrthi’n ddygn bore Sadwrn diwethaf yn helpu twtio’r Traeth ar gyfer y tymor newydd, eu croesawu gan aelodau’r Bwrdd.
Yn ôl trefnydd y gweithgareddau, Ysgrifennydd y Clwb Rob Bennett, bu i 18 o gefnogwyr gymeryd rhan, ac fe’i siomwyd ar yr ochr oreu gyda’r ymateb.

Highslide JS


Supporters are reminded that another ‘clean-up session’ has been organised for this coming Saturday morning, 29th of June from 9am to 1pm.
At the end of this session a barbeque has been organised for the volunteers when the players, who are starting pre season training in earnest on Saturday, will be joining them at 1pm.
Those who cannot volunteer are welcome to join in the barbeque and meet the players at £3 per head.
Last Saturday’s ‘clean up’ volunteering session proved a great success with 18 supporters participating and has been warmly welcomed by Board members.
Secretary Rob Bennett thanked everyone who turned up for their efforts which he says have led to a significant improvement at the Traeth in readiness for the new season.
25/06/19
TOCYN TYMOR Cynnig Cynta i’r Felin / SEASON TICKETS. Early Bird Offer

TOCYN TYMOR cynnig Cynta i’r Felin
Tocyn Tymor ar gael am bris Bargen hyd at 31 Gorffennaf
Oedolyn: £65 (Arbed £25 ar bris talu ar y diwrnod)
Dinasyddion Hyn: £42 (65 oed cyn ddiwedd Gorffennaf)
Nid yw tocyn tymor yn gymwys ar gyfer gemau Cwpan ond mae’n bosib cael mynediad i’r gemau ail-dim am £1 yn lle £2.
Bydd yn bosib prynu'r tocynnau tymor yn ystod gemau cyfeillgar y Tim cyntaf a’r ail-dim yn ystod mis Gorffennaf, dydd Sadwrn nesaf y 29ain o Fehefin sef diwrnod gwaith y gwirfoddolwyr, neu gysylltu a Dylan Rees ar rees48wesla@gmail.com neu ffoniwch 07900512345. Gallwch dalu gydag arian parod, siec, debyd uniongyrchol neu drosglwyddiad banc.

SEASON TICKETS. Early Bird Offer
Available at Bargain Price up to 31 July
Adult: £65 (Saving of £25 on ‘on the day’ price)
Senior Citizen £42 (Age 65 before end of July)
Season Tickets do not include admission to any Cup games, but do allow entry to a home Reserve team match for £1 instead of the normal £2 admission charge.
Season Tickets will be available to purchase at each 1st team & Reserves home match in July, at the Volunteer Work Day next Saturday 29th June, or by contacting Dylan Rees on rees48wesla@gmail.com. Or phone 07900512345. You can pay by Cash, Cheque, Debit Card or Bank Transfer.
Newyddion cyn 25/06/19
News before 25/06/19

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us